Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 31.] CHWEFROR, 1838. [Cyf. III. BYR-HANES CANADA, YNGHYD A 9YLWADAU AR NATÜR Y GWRTHRYFEL PRESENNOL YNO. Darganfuwyd Canada yn y flwy- ddyn 1496, gan ddinasydd o Gaerodor o'r enw John Cabot, ac aeth amryw Ffrancod i drigo yno yn nheyrnasiad Iago I.; cadwodd y Ffrancod fedd- iant o'r wlad hyd 1626, pan ei cymmerwyd gan y Saeson, ond a roddwyd yn ol eilwaith i'r Ffrancod yn mhen chwe mlynedd. Cymnier- wyd hi drachefn gan y Saëson yn 1759, pan laddwyd cadfridogion y ddwy fyddin, sef Wolfe aMontcalm, a chydunwyd fod Lloegr i gael cadw meddiant o honi, yn ol tilerau yr heddwch a wnaed yn 1763. Rhenir y wlad yn ddwy ran—Canada Uchaf, a Chanadalsaf; prif drefyddCanada Isaf ydynt Qebec, Montreal, Three Rivers,New Carlisle, William Henry, St. John, a Chambly, a'r rhan fwyaf o drigolion y dosparth hwn ydynt o hâniad Ffrengig, fel y mae pedair rhan o bump yn Ffrancod, a'r rhan arall sydd yn gynnwysedig o Saeson, Gwyddelod, Albaniaid, ac American- iaid. Prif drefydd Canada Uchaf ydynt Toronto, Kingston, Niagara, Brockville, Queenstown, a Chippe- way. Mae yr un Cyfansoddiad gwladol yn perthyn i'r ddau ddos- parth, ond yn Nghanada Isaf mae y cyfreithiau yn gynnwysedig o eiddo y^ Rhufeiniaid, Ffrancod, Saeson, a r Canadiaid, tra mae cy fraith Lloegr 5rn buryn NghanadaUchaf. Rhifedi y tngolion yn 1836, oedd tua 960,000. Y« y flwyddyn 1776 cyhoeddodd Jr Unol Daleithiau eu hunain yn anymddibynol; a llywodraeth Lloegr, yn ofni y buasai i'r Canadiaid ddilyn siainpl eu cymmydogion, a wnaeth- ant eu goreu i foddhau y trigolion Ffrengig. Yr amser hwn yr oedd y Saeson a'r Ffrancod yn dra anghyt- unol, ac mewn amrysonauparhaus, a llywodraeth Lloegr, er mwyn denu eu sylw oddiwrth lwyddiant eu cym- mydogion, aganiataodd i'r Canadiaid Ffrengig i lynu wrth euhenymarfer- iadau gwladol, yr hyn afu yn foddion i gadw yr yspryd gelynolymayn fyw, ac nidydyw wedi marw hyd heddyw, a gellir tadogi llawer o'r gwrthryfel presennol i hyn. Anfonwyd y nod- edig Ffranldin i Canada yn amser j rhyfel Americanaidd, er annog y Canadiaid i daflu ymaith iau Lloegr, ond methodd yn ei amcan, a bu j Canadiaid yn ffyddlon iawn i Loegr trwy ystod yrhyfel. Yn 1791, cafodd Canada y Cyf- ansoddiad presennol, ac y mae y gwrthryfel wedi tarddu oddiar ei anmherffeithrwydd. Llywodraeth j wlad yma a wneir i fynu o lywod- raethwr, cynghorcyfreithiawl, (legis- latẁe council) yn cynnwys 28 o aelodau, a Thŷ ísaf, a elwir House of Assembly. Y cynghor cyfreith- iawl agyfansoddir o ddynion a wel j llywodraethwr yn dda, ac a saif yn gywir yn yr un sefyllfa â Thŷ yr Arglwyddi yn ein gwlad ni; a'r Tý arall a gynnwys 50, y rhai a ddewisir gan y bobl. Gan yr Hous* of Assembly, fel ein Tý" Cyffredin oi,