Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 29.] RHAGFYR, 1837. [Cyf. II. COFIANT MR. JOHN REES, LLETTY'R-SAIS, ÖEH LLANGEITHO, CEBEDIGIOW. Amryw a lluosog ydyw y cof-go- lofnau sydd wedi eu codi er bytholi a thragywyddoli enwau y rhai hyny a ddangosant eu medrusrwydd mewn gwahanol bethau yn y byd hwn; onid yw yn drueni fod enwau gwron- iaid ieuainc yn myddin y groes, pa rai a wasauaethasant eu cenedlaeth, a oresgynasant eu gelynion, acaym- ddangosasant yn fwy nâ choncwer- j wyr yn y diwedd—yn cael eu claddu yn llwch anghof, pan gleddir hwy- thau. "Dan yr ystyriaeth hyn y cymmerais y gorchwyl mewn llaw i godi cof-adeilad, nid â defnydd mar- moraidd, ond o bapur ac inc, i'r milwr ieuanc, yr hwn sydd wedi gorchyfgu, enw pa un sydd uwehben }* Ilinellau hyn. Ganwyd John Rees yn Lletty'r Sais, ger Llangeitho, yn mhlwyf Llanddewi-brefi, Ceredigion, yr hwn le sydd dra adnabyddus i amrywiol o jgenadau Crist trwy Ogledd a Deau Cymru, o herwydd ei fod yn le ag y bu llawer o bregethu Crist ynddo o bryd i bryd; a gobeithio yr wyf y bydd y drws mor agored etto gan y preswylwyr newydd. Cafodd John ei eni Awst 4, 1817; enw ei dad a'i fem oedd John a Dinah Rees, y rhai oeddent yn byw ar eu tyddyn eu hunain, mewn amgylchiadau tra chy- surus; bu farw ei dad pan oedd ef yn ieuanc iawn, ac nid oedd ganddo wedi hyn ond mam unig i ofalu am dano, yr hon sydd etto yn fyw; a gallaf ddywedyd iddi wneuthur rhan mam tuag ato, mewn ystyr naturiol a chrefyddol: rhoddodd siamplau da o'i flaen, rhoddodd lawer o gynghor- ion iddo, a thywalltodd lawer o ddagrau gerbron " Barnwr y weddw a Thad yr amddifad" drosto, ac ni chafodd geisio yr Arglwydd yn ofer, pnd atebodd ei gweddiau, a chäfodd y fraint o glywed ei phlentyn yn gweddio ei hunan pan yn ieuanc iawn. Fy meddwl ydyw, pan yn ysgrifenu cofiantau duwiolion, y dylem sôn am y prif feiau oedd ynddynt, i'r dyben i ereill eu gochelyd, yn gystal â'r prif rinweddau oedd ynddynt, i'r dyben i ereill ymestyn atynt. Ond, er fy nghysur, yr wyf yn dywedyd, er, efalläi, yn anghredadwy gan lawer, nas gallaf nodi un bai neill- duol ag oedd yn iselhau cymmeriad ein cyfaill trengedig yn ngolwg ei gyd-oesolion ; ond etto, peidied neb meddwl ei fod ef heb ei feiau, yn fwy nâ'r goreu o'r saint a fu ar y ddaear. Ond, er fy mawr gysur, gallaf enwi a nodi allan amryw o rinweddau a flodeuodd yn mywyd gwrthddrych ein cofiant, er mor ieuanc y gwywodd. Un peth tra chanmoladwy ynddo oedd, y parch a'r ufydd-dod a dalodd i'w anwyl fam; clywais- hi yn dy- wedyd na chafodd un gofid oddi- wrtho erioed, ac na ddywedodd, Na wnaf wrthi erioed; rhyfeâd ei ofal am ei fam bob amser, pa un bynag ai gartref ai oddicartref j a gwyn fýd 46