Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. .28.] TACHWEDD, ia37. [Cyf. II. BYR-HANES AM CAIN AC A B E L, AC EREILL O BLANT ADDA AC EFA. Ffaith anwadadwy ac o bwys mawr ydyw, fod trosedd ein rhieni cyntaf yn mharadwys yn dal agos berthynas â phob dyn, o gymmaint â bod pawb wedi deilliaw o Adda, ac yn feddian- nol o'r un natur, ac yn ngafael yr un llygredd ag yr aethant iddo. Wedi pechu o Adda ac Efa yn mharadwys, ac wedi eu galw i gyfrif gan yr Ar- glwydd am eu hymddygiadau, ac wedi rhoddi addewid iddynt am yr Hâd a fyddai i ysigo pen y saíff, &c, gwisgwyd hwy gan yr Arglwydd â pheisiau crwyn, ac yna gỳrwyd hwy allan o ardd Eden, i lafurio'r ddaear ac i fwyta o'i ffrwyth, ac i fwynhau o chwys eu hwynebau. Yna yn fuan wedi i hyn gymmeryd lle, Adda a adnabu Efa ei wraig, a hithau, mewn canlyniad, a esgorodd ar Cain, yn yr ail flwyddyn o oed y byd, (yn ol barn llawer o ddysgedigion,) ac yn y drydedd flwyddyn o oed y byd y ganwyd Abel, yn ol yr amserydd- iaeth a roddir. Ac Abel, wrth ei alwedigaeth, ydoedd fugeilýdd de- faid, a Chain yntau yn llafuriaw y ddaear. Cymmerodd y ddau wahanol swyddi, a gallesid meddwl y buasent yn byw yn hir a chysurus efo'u gilydd; ond buan iawn y gwelwn fod pechod yn nglŷn â hwy, yn gystal â'u rhieni, mewn llygredd yr un fath, ac yn nghadwyni pechod, îe, ac un o honynt dan arglwyddiaeth pechod, ac yn cael ei oresgyn yn hollol ganddo.—Wedi talm o ddydd- iau, y bu i Cain ddwyn offrwm i'r Arglwydd o ffrwyth y ddaear, a'r un modd y gwnaeth Abel, dygodd yntau o flaenffrwyth ei ddefaid a'u brasder hwynt yn offrwm i'r Arglwydd; ac edrychodd yr Arglwydd ar Abel ac ar ei offrwm, llosgodd yr Arglwydd yr oen a aberthwyd gan Abel â thân o'r nefoedd, yn arwydd fod Abel yn gymmeradwy yn ei waith yn oflryinu; eithr ni ddaeth tân i losgi yr hyn a ddygodd Cain i'r Arglwydd ; a phan welodd. Cain hyn, fod ei frawd yn cael derbyniad gan Dduw, ac yn gymmeradwy yn ei waith, ac yntau heb fod felly, meddyliodd yn ddiau y byddai i'r Arglwydd ddyrchafu Abel i arglwyddiaethu arno ef—y byddai yn rhaid i'r hynaf wasanaethu yr ieuengaf; efe a ddigllonodd yn ddirfawr, dangosodd allan ar gyhoedd o ba egwyddor yr oedd yn aberthu, syrthiodd gwedd ei wyneb, edrych- odd fel un ag oedd yn Uawn Uid a digasedd; a gofynodd yr Arglwydd i Cain, Paham y llidiaist? beth yw yr achos dy fod yn Uawn llid a chyn- ddaredd, fel hyn ? Os da y gwnai, os aberthi o egwyddor uniawn a dy- ben cywir, ti a gei'r oruchafiaeth ; ac oni wnai yn dda, pechod mawr a or- wedd wrth dy ddrws ; nid y w Abel (fel pe dywedai yr Arglwydd) am yr oruchafiaeth, nid yw am dy gael yn was iddo mewn dim, y mae ef yn foddlawn dy wasanaethu di, a hyn yw ei ddymuniad ef; dan yr ystyriaeth mai tydi yw yr hynaf, y mae yn foddlawn rhoddi yr hyn sydd gyf- 42