Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 27.] HYDREF, 1837. [Cyf. II. COFIANT SYR JOHN PERROTT. (PAEHAD O'B BHIFYN DIWEDDAF.) Yn ei "lythyr cymun a'i ewyllys ddiweddaf," a ysgrifenwyd ganddo ei hun, " i gael ei wcled gan holl wir broffeswyr yr efengyl," efe a ddy- wed—" Yr ydwyf yn gwneuthur fy aehwyniad wrth ÍMuw a phawb dynion da, fy mod yn y modd mwyaf twyllodrus wedi cael fy nghyhuddo drwy falais a chenfigen rhyw berson- au anfad a drwg dueddgar, fel brad- ychwr i'm Penadures a'm gwlad; ond yr wyf yn gwadu rhinwedd a llesioldeb tywalltiad gwaed fy Iach- awdwr Iesu Grist, yr hyn ni wnawn am yr holl fyd, os cyflawnais erioed unryw fradwriaeth, neu os bûm un amser mewn cynghrair â Dug Parma yn fy holl fywyd; ond y llythyrau a gafwyd oddiwrth Syr Dennys Oroughan a ffugiwyd ganddo ef a'i gymdeithion; ni ddarfu i mi ychwaith ymddiried erioed i Syr Dennys, na'i ddodi mewn swydd, ond fel yspîwr, er blaen-gynnorthwyad i wasanaeth ei Mhawrhydi." Yr ydoedd wedi cael ei gyfrwys grybwyll, ei fod ef, tra yn yr Iwer- ddon, wedi bod yn ffafriol i Babydd- iaeth; ac efe, yn wyneb hyny, a ar- dystia yn ddifrifol na ddarfu iddo "erioed ffafrio Pabyddion ermwyn Pabyddiaeth; ond (eb efe) gwnae- thum gyfiawnder iddynt ac erddynt ar bob rhyw achwyniad, fel y gwnae- thum i ereill, yn ol y gorchymyn a dderbyniais gan ei Mhawrhydi." Eilwaith efe a ddywed,—" Yr ydwyf drwy hyn yma, yn ofn Arglwydd y nef, yn tystio wrth holl wir broffes- wyr yr efengyl, na wrandewais un offeren-wasanaeth er dechreuad teyr- nasiad dedwyddaf fy Mhenadures, y Frenines ; ond yr ydwyf byth oddiar ddechreu teyrnasiad Edward yn ffi- eiddio yr eilun hwnw; y cyfeiliornad mwyaf drygionus ydyw er twyllo dynion, a ddyfeisiwyd gan Babau, y rhai, yn fy nghydwybod, a gredwyf i fod yr anghrist hyny, yn erbyn pa un y llefara yr ysgrythyrau. Mac yr oíferen yn groes i'r gosodiad sant- eiddiaf hyny o swper yr Arglwydd, a sefydlwyd gan ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist, i îbd yn dderbyniedig gan y ffyddloniaid o'r ddau ryw; yn y derbyniad o ba un, fel y mae efe wedi pennodi, yr ydym yn ei wneuthur er ein iechydwriaeth, fel arwydd o'n bod yn cyffesu Crist i fod yn Iachawdwr dynolry w ; ac mai drwy ei farwolaeth ef yn unig yr ad- ferir dyn i ffafr Duw, yr hyn a goll- wyd drwy gwymp Adda, trwy yr hyn brynedigaeth y'n gwneir ni yn etifeddion y nef, gyda a thrwy Grist." Rhaid addef, tra yr ycìoedd Syr John Perrott yn mwynhau ffafr y Frenines Elizabeth ei fod yn ormod o ddyn y byd. Gosodir ef alian fel yn falch, yn ymroddedig i lidiog- rwydd a thyngu halogedig. Oddi- yma, er y gorfodir yr hanesydd an- ffyddiol Hume, pan yn ysgrifenu herwydd perwylion Gwyddelig am yr yspaid hyn, i ddywedyd yn dda am Syr John Perrott fel gwlad- 38