Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 26.] MEDI, 1837. [Cyf. II. COFIANT SYR JOHN PERROTT, ARGLWYDD RHAGLAW YR IWERDDON YN AMSER Y FRENINES ELIZABETH. Ganwyd Syr John Perrott yn Harroldston, ger HwlíFordd, ac yr ydoedd mewn íFaf'r mawr yn llys Edward y Chweched. Dywedir iddo sicrhau tyb dda ei Benadur, a hofF- der da y líys, trwy barch cydwybodol i'r Grefydd Ddiwygiedig. Hyn a wnaeth i'w sefyllfa fod yn fwy prof- edigaethus ar esgyniad y frenines Mari, dan yr hon yr arosodd dra- ehefn yn y llys, ac y dywedir ei fod mewn derbyniad da gan y pendefig- ion. Y frenines hefyd a'i fíäfriai, a clywedai ei bod yn ei hoffi yn dda, ac y gobeithiai y profai yn ddeiliad teilwng, ond ei fod yn sawrio o'r raŵg, fel y tybiai yn addas i ym- fynegu, mewn çyfeiriad at ei grefydd. Ei egwyddorion, yn wir, a alwyd yn dra buan i ymholiad, o achos un o'i gydwladwyr, yr hwn a'i cyhuddai o gadw rhyw hereticiaid yn ei dŷ yn Nghymru. Ar y cyhuddiad yrna ni ddarfu i Syr John wadu ei grefydd, a thraddodwyd ef i garchar y Llyng- es; etto, gan fod iddo gyfeillgarwch raawr, a chan gael o hono ífafr gyda'r frenines, rhyddhawyd ef yn fuan. Wedi hyn, gwasanaethodd dan Iarll Penfro yn St. Quintin yn Ffrainc, lle y derbyniodd y pendefig hwnw or- chymyn oddiwrth y frenines na oddefai i neb bereticiaid gael aros lle y meddai unryw awdurdod neu ddy- lanwad yn Nghymru. Gwnaeth yr larll y gorchymyn hwn yn hysbys i Syr John Perrott, gan ddy wedyd —"Yn gymmaint à bod y frenines wedi gosod y baich cyfFredinol yma arnaf fì, rhaid i mi esmwytho fy hun, a gosod rhan o hono arnoch chwi, oblegid gwn na all un dyn wneyd rhagor nâ chwychwi eich hun yn y tair sir lle y gorwedd eich perchen- ogacth." I hyn Syr John a atebai, " Fy arglwydd, da y gwyddoch y gellwch orchymyn fy mywyd, a'r cwbl a feddwyf yn y byd hwn, etto, na osodwch y baich hwnw arnaf fi, ond cenadwch i mi ryddid cydwybod, ac ni wnaf fi o'm bodd ymyraeth â chydwybodau dynion ereill!" " Pa beth, Syr John Perrott ! (atebai yr Iarll mewn digllonedd) a fyddwch chwi yn heretic, fel y lleill?" "Nid felly, fy arglwydd, (meddai yntau,) oblegid gobeithiwyf fod fy nghrefydd mor iachus ag eiddo un dyn arali." Y prawf yma o'i uniondeb ydoedd, pa fodd bynag, mor bell o gael ei iawn dderbyn, fel y dychwelodd i Loegr yn amlwg dan anfoddlon- rwydd yr Iarll, yr hyn a wybuwyd yn ebrwydd yn y Ilys, a'r achos o hono a arwyddwyd i'r frenines. Gan fod gydag ef gynghaws efo ei Mawrhydi am gastell ac arglwydd- iaeth Carew, y rhai oeddent Mredi cael eu haddaw iddo, a chan fyned at y frenines er adnewyddu ei gyngaws, braidd y gwnai edrych arno, llawer llai rhoddi iddo atebiad ff'afriol, a neillduodd mewn digllonedd ! En- nillwyd hi, pa fodd bynag, i faddeu yr hyn a ystyriai fel ei gyndynrwydd blaenorol, mewn gobaith y cofleidiai 34