Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 25.] AWST, 1837. [Cyf. II. COFIANT WILLIAM Y PEDWERYDD, DIWEDDAIt FRENIN PRYDAIN FAWR, &C. Ganed William Henry, trydydd mab Sior III. Awst 21, 1765; dy- wedir ei fod yn fychan ar ei oedran, pan yn blentyn, ond yn hynod gall, ac o ysbryd gwrol, yr hyn, mae yn debyg, a dueddodd ei dad ei osod yn forwr. Pan yn 13eg oed, gosodwyd ef yn swyddog (midshipman) ar fwrdd y Prince George, dan y Hyng- esydd Digby. Ardystiodd y brenin, y buasai yn rhaid i'w fab ennill ei ífordd i ddyrchafiad ei hunan, ac yr oedd yn cael ei drin yn gywir yr un fath â'r swyddogion o'r un radd ag ef ei hun. Ni chafodd fywyd segur yn hir; yr oedd llynges yn cael ei pharotôi dan lywyddiaeth Rodney, o'r hon yr oedd y Prince George i fod yn un, a hwyliodd allan o Spithead yn Rhagfyr, 1799, ac ar yr 8fed o Ionawr cymmerwyd y llynges Ys- paenaidd. Pan ddygwyd y llywydd Yspaenaidd i fwrdd y Prince George fel carcharor, a gweled y Tywysog William mor ymröus â neb ar y bwrdd, dywedodd,—" Hawdd gall Lloegr reoli ar y môr, pan y mae Mab ei Brenin yn ymroddi fel yma yn ei gwasanaeth!" Bu y Tywysog am gryn yspaid yn yr India Orllewinol, ac ar arfor- diroedd Nova Scotia a Chanada. Adroddir yr hanesyn canlynol am dano fel wedi dygwydd tua'r amser hwn:—Dygwyddodd iddo ymrafaelio a chyd-swyddog o'r enw Strutt, pan <%wedodd Strutt, " Oni bai eich bod yn fab i'r brenin, mi a ddysgwn i chwi chwarae eich ystranciau." " O, (ebe'rTywysog) na adewch hyny i'ch rhwystro," a chynnygodd ym- ladd ag ef yn union : ond gommedd- odd Strutt, o herwydd eî fod yn hen- ach ac yn gryfach nâ'r Tywysog ; ysgydwyd d\fylaw, a bu'r ddau yn gyfeillion gwresog. Yn 1787, dych- welodd i Loegr, ac apwyntiwyd ef i lywyddu y ffreigad Andromeda, yn yr hon yr hwyliodd drachefn i'r India Orllewinol. Ar y 19eg o Fai, 1789, crëwyd ei Uchder Brenin- ol yn Ddug Clarence a St. Andrew yn Mhrydain Fawr, ac Iarll Munster yn yr Iwerddon. Yn Ebrill, 1814, Dug Clarence a gafodd ei nodi i warchod Louis XVIII. i Ffrainc ar ei adferiad i'w orsedd. Bu y gyfraith a wnaed yn amser boreuol Sior III. yn rhwystro un o'r teulu breninol briodi neb ond o waed brenînol yn achos o ofid mawr i'w blant oll, braidd, ac jn neillduol i Ddug Clarence. Yn y flwyddyn 1790 syrthiodd mewn cariad âchwa- reuyddes hynod o landeg o'r enw Mrs. Jordan, ac yn fuan aethant i gyd-fyw, a pharhausant felly am ugain mlynedd, a chawsant lawer iawn o blant. Dywedir eu bod yn byw yn dra chysurus, a heddwch yn wastad yn ffynu yn y teulu. Yn y flwyddyn 1810ymadawsant; rhoddir llawer o resymau am ymddygiad y Dug ar yr achos hwn, ond y mae yn debyg mai diffyg arian oedd y prif reswm. Aeth Mrs. Jordan i fvw i 30