Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 24.] GORPHENAF, 1837. [Cyf. II. COFIANT Y DIWEDDAR MRS. ELIZA DAWKIN, LLANELLI. Gwrthddrych y Cofiant hwn a anwyd Hydref 1, 1814, o rieni cyf- rifbl, sef Samuel a Sarah Gibbs, y rhai oeddent yn aelodau yn eglwys yr Anymddibynwyr yn Mryn-teg, swydd Forganwg. Cafodd ei thad y fraint o wasanaethu yr Arglwydd yn ffyddiawn yn ei dŷ tra yn y byd; ac y mae ei mam yn aelod hardd gyda'r enwad uchod o blant Duw yn y lle hwn. Mae yu debyg i'r Argl- wydd ymweled â gwrthddrych y Cofiant hwn yn ffordd ei ras yn foreu, ac, o ganlyniad, cafodd y fraint o ddwyn yr iau a chofio ei Chreawdwr yn nyddiau ei hieuenctyd—cafodd ei derbyn yn aelod o eglwys yr Anym- ddibynwyr yn Llanelli pan oddeutu 19eg oed. Ymunodd mewn priodas ag ysgrifenydd y llinellau yma Rhag. 25, 1835. Yr oedd yn ymhyfrydu mewn boneddigeiddrwydd ymddyg- iad, ac yn ofaíus i rodio llwybrau gweddeidd-dra, ac i gadw allan d gyfeillachau annuwiolion; yn nghym- deithas y dawnsyddion a'r taplason llawen, pa rai ydynt wedi anafu eu miloedd, ac yn mhlith celwyddwyr ni wnelsai ei harosfa; ei hymddygiadau moesol a sobr oedd yn ddywenydd i bawb a'i hadwaenai, ac a gaffent yr hyfrydweh o gyd-gyfeillachu â hi; nid oedd balchder wedi cael lle i breswylio o fewn ei chalon. Ond nid oedd ei Duw gwedi bwriadu iddi gael aros yn hiryn anialwch dyrus y byd hwn, o herwydd ar y 3ydd o fis Mawrth diweddaf bu farw o'r dar- fodedigaeth llofruddiog, yn 22ain oed. Yn nechreuad ei chlefyd, mor fuan ag y daeth i'w meddwl fod angeu yn y babell, a'i rnynediad i fyd yr ys- brydoedd mor agos, dechreuodd ei meddwl derfysgu fel tònau y môr dan effeithiau yr ystormydd gerwin- af, ac o'r diwedd gwanhaodd ei hy- der, ac mewn ychydig amser prin y gallasai ddywedyd "Y mae genyf obaith." Pan yn y sefyllfa- hon, ei gofid penaf oedd, bod cymmaint o dawelwch yn ei hysbryd yn y fath sefyllfa, a bod cyn Ueìed o awydd yn ei henaid i ymaflyd a phwyso ar addewidion Duw, yr hyn beth a farnai y dylasai plentyn i Dduw wneyd. Ond er y cwbl, rhoddai arwyddion eglur o'i boddlonrwydd i ewyltys Duw gael ei wneyd; ac yn ei gwendid mwyaf, dywedai weithiau ei bod yn credu bod gwaith gwedi cael ei wneyd ynddi gan Dduw; a dywedodd—" Os na oleua arnaf yr ochr hyn i'r bedd, yr wyf yn credu na ddamnia Duw mo honof." Dy- wedwyd wrthi nad oedd bod tad yn myned â'i blentyn i'r gwely heb un ganwyll i'w oleuo yn tòri y berthyn- as, ond mai bendith gyssylltiedig â'r berthynas yw hon çan Dduw; ar hyn adlonodd ei hysbryd ychydig. Ond mewn ychydig ddyddiau fe symudwyd y cymylau oddiar ei meddwl, a derbyniodd ddylanwadau helaeth o dangnefedd a llawenydd yn y dyn oddimewn. Dyoddefodd ei chlefyd poenus gyda líawer iawn o 2G