Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 23.] MEHEFIN, 1837. [Cyf. II. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. SAMUEL PRICE, (PARHAD O DU-DAL. 125.) Er fod yr eglwys yn rhanedig ac af- lonydd iawn, a llawer o hen glwyfau heb eu gwella, a hen deimladau chwerw heb eu symud, y fath oedd ei ysbryd mwynaidd a'i lwybr hedd- ychlawn a dengar, fel y toddodd hwynt i gyd i'r un ysbryd efengyl- aidd sirioí ag ef ei hun; carai pawb ef, a rhywfodd heb yn wybod iddyot daeth amryw o'r rhai oedd yn methu cydweled i gydrodio llwybrau glwys- aidd tangnefedd ac ewyllys da; carthwyd llawer, o leiaf, o'r hen lefain i ffwrdd, a chydiodd pob un yn ei orchwyl, fel yr ymadnewyddodd yr eglwys oedd wedi bod yn barchus a blodeuog yn amser yr hen enwog a'r duwiol Evan Davis; cafodd yr hen bobl dduwiol a gawsant eu porthi â bara gofid a'u diodi â dagrau wrth fesur mawr, ganu megys yn y dyddiau gynt, a chyd-orfoleddu fod y gauaf wedi myned heibio, a chyd- weddio, " O Dduw'r lluoedd ! dych- wel atom; edrych o'r nefoedd, a chenfydd ac ymwêl â'r winwydden hon;" ac nid yn hir y cafodd yr eg- lwys weddio cyn i'r Arglwydd ateb ac eglur ddangos nad yw hâd Jacob yn cael ceisio ei wyneb ef yn ofer, tỳrodd y bobl yn nghyd yn fuan, Hewyrchodd yr Ysgol Sabbothol a'r cyfarfodydd gweddi yn yr ardal, a bu llaw yr Arglwydd yn ainlwg iawn gyda'r weinidogaeth, oblegid ych- wanegwyd Uawer iawn at yr eglwys yn amser Mr. P. Er na fu adfyw- »adau poeth a thanllyd iawn yn Llan- edi o'r fath a ffỳnent yn yr eglwysi cymmydogaethol, etto byddai ych- wanegiad graddol trwy ystod y blyn- yddoedd, fel yr oedd egiwys Llanedi, yn amser ymadawiad gwrthddrych y cofiant hwn yn flodeuog ac mor gyf- rifol ag un eglwys yn y wlad; ond trist yr olwg arni yn awr etto un- waith, mae y gogoniant wedi ymad- ael, ac arch Duw Israel mewn caeth- iwed; fel pe buasai pylor dan sylfeini yr eglwys er ys ugain mlynedd, mae wedi ei chwalu yn fwnws, ac fel pe Luasai y tir wedi ei reibio, gwelwyd yn agos iawn yr un golygfeydd tòr- calonus ag a welwyd gynt, ac y mae yr olwg yn awr mor resynol, agos, ag y bu erioed. O gocheled eglwysi y saint beidio synied yr un peth, a go- falent i oddef gan eu giiydd fel na ddyfether hwy gan eu gilydd; y mae un rhwygwr mewn ardal yn gadael ôlion annymunol ar ei ol am flynyddoedd wedi ei farw. Pa bryd etto y tỳr y wawr ar ardal Llanedi nis gwyddom; ond byddai o'r goreu i'r rhai ydynt yn byw yno i gofio fod lluaws mawr yn llithro i'r farn yn annuwiol tra maent hwy yn ymgecru. Ond i ddychwelyd at wrthddrych y cofiant. Yn mhen ychydig wedi iddo gael ei sefydlu yn Llanedi ym- unodd mewn priodas â Jane, ail ferch y diweddar Mr. John Roberts, masnachwr, Llanelli, yr hon a fu iddo yn ymgeledd gymhwys, hyd ddydd ei farwolaeth. Bu iddynt saith o blant, o ba rai v mae chwech 22