Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 20.] MAWRTH, 1&37. [Cyf. II. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. WILLIAM THOMAS. (PABHAD O'R BHIFYN DIWEDDAF, TU-DAL. 39.) Dyma ei ymweliad olaf â Chymru ; ac ni chafodd yr efFaith arferol ar ei iechyd, er ei gryfhau a'i adfywio ; ond ymdrechodd trwy y gauaf i gyf- lawni ei swydd weinidogaethol, yn ngwyneb anhwyldeb parhaus. Yr ail Sabboth yn Chwefror, 1834, traddododd ei bregeth olaf oddiwrth y testun hwnw, " Wele n* yn dyfod yn rhol y llyfr,",. &c; ac o'r amser hwn disgynodd yn raddol i'r bedd, ac ar foreu y Sabboth, Mai 11, 1834, efe a hunodd yn yr Iesu. Ei deim- ladau yn ystod ei glefyd diweddaf a ellir gasglu oddiwrth y dyfyniadau canlynol, gwedi eu hysgrifenu gan ei gyfaill Mr. Mathews at ei ewythr yn Wottonunderedge:— "Stone, Ebrill 24, 1834. " Yr oedd diflaniad pob gobaith am well- had yn ryddhad i'w feddwl o'r ansicrwydd a'r amheuaeth am adferiad sydd wedi ei flino am gryn amser. Hysbysodd ei ddiolch- garwch am y trugareddau tirion a gyfrenid iddo gan ei Dadnefol. Nid oedd yn teimlo un dymuniad i droi yn ol drachefn ; ofnai wynebu eilwaith ar ddrygau moesol bywyd, ond tỳnwyd yr ofn hwnw ymaith, teimlai ei Jmnan yn dynesu at y byd tragywyddol yu raddol ac esmwyth, ac yr oedd yn abl dywedyd, "Mi a wn i bwy y credais,"&c. Er mwyn ei bobl, dywedai, y boddlonai fyw, i fod yn wasanaethgar i'w Iachawdwr yn y byd, ond gwell oedd ganddo i'w " ddattod, a bod gyda Christ, canys llawer iawn gwell yw." Mae yn wastad yn dawel, ac yn aml yn Uawen; dywedodd wrthyf nad oedd arno, weithiau, ond eisiau llais, fel y byddai iddo ganu clodydd ei Waredwr." "Síonc, Mai 17, 1834. "Yr oeddwn gyda fy nghyfaill yn yr oriau diweddaf; daeth cennad i'm hol yn gynnar boreu Sabboth diweddaf ato; pan aethum i'w ystafell, ac edrych ar y wyneb ar ba un yr oedd Uaw angeu yn eglur wedi rhoddi ei sel, daeth y geiriau hyny yn gryf i'm meddwl, " Dyma borth i'r uefoedd," &c. Yr oedd ei wynebpryd mor dawel pan yn. ateb fy ngofyniad pa fodd yr oedd, fel yr oedd y teimladau jpudd a galarus a'n llanwem yn rhwym o gilio draw, wrth weled mor gysurus yr ©edd yn dysgwyl am awr ei gyfnewidiad. Yr oedd yn rhydd o boen, ond yn wan iawn, idafnau mawrion o chwys yn treiglo dros ei dalcen; ac y* oedd yn anghenrheidiol i wlyehu ei enau yn aml ag ychydig win neu frandy a dwr. Dywedais wrtho fod ein Iachawdwr mewn gwendid mawr pan yn gwaèadi "Ymae syched arnaf." Llonodd ei wynebpryd, pan ddywedodd, "Oedd, ond dim Brundy a dwr!" O herwydd ei fawr weadid, nid oeddem yn ymddyddanag ef ond yn awr ac yn y man, pryd yr ymddangosai ei fod yn aml yn gweddio. Pan fy wiocâodd o_ un o'i lewygon, dywedodd, " Mae y llewygon yma yn flinderus iawn, ond byddant drosodd yn fuan;" ac adroddodd gyda melusder neill- duol y pennill Seisnig hwnw:— " O glorious hour! O blest abode, I shall be nearand Itìce my God," $e. " Gwedi bod yn ddystaw am gryn yspaid, gofynodd pa amser oedd; pan ddywedwyd wrtho, atebodd, " Ai dyna gyd! yr wyf wedi fy siomi." Dywedodd hyn yn y fath dôn fl-1 yr oedd yn dra eglur ei ibd wedi meddwl am ryw awx fuan i í'íww. Oildeutu naw o'r gloch yn y boreu, daeth y meddyg ato; jürîtedrychodd yn graff arno dros ychydig am- 10