Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 19.] CHWEFROR, 1837. [Cyf. II. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. WILLIAM TÌIOMAS. (l'ARHAD O'R RHIPYN DIWEDDAF, TU-DAL. 7.) Yn mis Hydref, 1829, cymmera- dwywyd ein cyfaill i Stone, gan Dr. Smith, o Homerton, a phregethodd yno gyntaf ar y 19fed. Yn nghanol Tachwedd dychwelodd i Homerton, lle yr aeth trwy ei holiad ar y 15fed o Ragfyr. Mewn canlyniad i'w ym- weliad â Stone, cafodd alwad un- frydol a gwresog i ddyfod yno yn fugail, yr hon a dderbyniodd, gwedi ystyriaeth ddifi'ifol ; a dechreuodd bregethu yno y Sabboth cyntaf yn y flwyddyn 1830. Oddiwrth y dy- fyniad canlynol o lythyr a ysgrifen- odd yr amser hwn gellir canfod ei deimladau o'r pwys mawr sydd yn nglŷn â swydd oruchel gweinidog yr efengyl:— " Yr wyf yn teimlo fy lmn fel pe buaswn wedi cymmeryd rliyw gam rhyfygus; y'r wyf yn aml yn crynu pan yn meddwl am yr hyn a ganlyna fy nyfodiad yma; a'*- hyn a bair i mi arswydo fwyaf yw, fy mod yn taimlo mor Ueied o ddirfawr bwysigrwydd y swydd a gymmeraf arnaf. Ond y eyfa- ddefiadau hyn a ddylerit gael eu gwneyd, efallai, yn unig, i rywun heblaw cyfaill daearol,—o flaen yr Hwn sydd yn adnabod y galon. Yr wyf yn aml yn teimlo, pan yn agor fy nghalon bechadurus wrth gyfaill, fel pe buaswn yn ysgafnhau fy hun o bwys fy euogrwydd, yr hyn ni ddylai fod ond ger- bron gorsedd yr Hwn a fedr buro y gydwy- bod, a maddeu fy holl feiau. Pan yn cy- faddef wrth gyd-ddyn, y mae yn dueddol o greu cydymdeimlad, ac y mae'r cydym- deimlad hwnw yn rhy aml yn gwyro y meddwl yn mhresennoldeb yr Hollalluog." Yn mis Mawrth canlynol gwacth- ygodd ei iechyd, ac mewn llythyr at ei ewythr, dyddiedig Mawrth 19, 1830, efe a ddywed— " Pan ysgrifcnais atoeh ddiweddaf, yr oedd fy nghyflwr a'm tehnladau yn dra gwahanol oddiwrth yr hyn ydynt yn bre- sennol. Yr oeddwn y pryd hwiiw yn ediych yn mlaen yn hydcrus at oes hir o lafur diflin yn y rhan hòno oì- winllan, llc y tyb- iaswn fod Rhagluniaeth Ddwyfol wodi osod i mi; paa ddaethym yma, yr ocdd fy meddwl yn cynucsu fwy-fwy at y gwaith pwysig; ac er i mi drailio llawer awr chwerw o herwydd fy malchder a'm hang- hrediniaeth fy hunan, etto, yr oedd fy Ilawenydd yn fawr ac ar gynnydd. Yr ocdd yr achos yma hefyd yn gwisgo agwedd annogaethol iawn ; ac yr oedd pobl fy ngo- faî a minnau yn cynnyddu yn feunyddiol yn ein hawydd am lês a chysur ein gilydd. Ond yn nghanol y cwbl, gwelodd yr Argl- wydd yn dda fy arafu yn fy rhíig-olygiadau ; yr wyf etto yn dyoddef dan afiechyd ys- gyfeinaidd. Yr wyf yn wan á diysbi'yd, a'm nerth yn mron darfod. Yr wyf yn awyddus am eich gweled, a chael ymddy- ddan â chwi. Y mae'r ychydig a Iafuriais yn y weinidogaeth gwedi fy addasu i gyd- ymdeimlo á chwi yn eich gyrfa weinidog- aethol. Profodd y weinidogaeth i rni, gwedi i mi ddechreu, yn wahanol i'r hyn a feddyl- iaswn cyn hyny; ac yn awr, pan wyf wedi encilio oddiwrthi mewn aficchyd, ac yn rhwym, fel dyn yn marw, i fyfyrio yn syml a sobr arni, mae yn ymddangos yn wahanol etto mewn cystudd. Oh! gymmaiht o wagedd, balchder, hunan, ac oerfelgarwch, svdd yn awr yn ymddangos vn fv Hafurî