Skip to main content

Y DIWYGIWR Rhif. 17.] RHAGFYR, 1836. [Cyf. I. PEDAIR ERTHYGL AR-BYMTHEG-AR-UG AIN; NEU, GYNGHORION YSGOL-FEISTR J'W YSGOLHEIGION. Anwyl Gyfeillion,—Gobeith- ìwyf nad yw fy addysgiadau y tro hwn yn annerbyniol genych oblegid eu rhifedi, sef 39, neu o herwydd eu bod o'r un rhifedi ag Erthyglau Eg- Iwys Loegr. Mae yn arferiad gan ddynion y dyddiau hyn i ddweyd yn erbyn yr Eglwys, ond yr wyf yn hy- deru na bydd i neb o honoeh chwi lefaru yn ei herbyn oblegid fod ereill yn gwneyd felly, oddieithr i chwi eich hunain weled rhyw lygredd ynddi. Cynghoraf fì chwi i beidio ífurfio barn am un-peth hyd nes y niyfyrioch arno, a'i ddeall; felly go- chelwch ymneillduo oddiwrth ffurfiau yr Eglwys Sefydledig ond ar sail ys- grythyrol. Myfyriwch yn ddifrifol ar ei rheolau, darllenwch y Llyfr Gweddi Gyffredin ( Ctmmon Prayer) sylwch ar ei ffurfiau o fedydd, cad- arnhad Esgob, trefn priodas, ymwel- iad â'r claf, a chladdedigaeth y marw. Byddai yn dda i chwi hefyd ddarllen yr homiliau rhagorol sydd ynddi, a ysgrifenwyd gan y Diwygwyr duw- iol, ac hefyd waith yr enwog Hooker o blaid yr Eglwys. Dylech lafurio nes dyfod yn hyddysg o'r dull o neill- duo offeiriaid ac esgobion i'w swyddi pwysig a goruchel, ac o'r dull o gys- segru eglwysi a mynwenti. Gwarthus fyddai i neb o honoch fod mor ddisylw o grefydd eich gwlad â bod heb wybod enwau yr holl swyddi sydd ynddi, yn nghyd â gwasanaeth crefyddol, a thaledigaeth arianol pob swyddwr o'i mewn, o'r archesgob i lawr i'r drws-geidwad; ac erbyn hyn meddyliaf y canfydd- wch fod mwy o ragoriaethau yn per- thyn iddi nag oeddech wedi ddych- ymmygu, ac o hyn allan byddwch yn sỳnu fod neb yn dweyd gair yn ei herbyn; ac os bydd i ragfarn attal rhai o honoch rhag canfod cymmaint o harddwch y bendefiges ag y galloch yn ddiragrith ei charu, meddyliaf y byddwch oll yn uno i ddweyd ei bod yn deilwng o barch mawr er mwyn ei Gwaddol. Ond rhag i chwi fedd- wl fy mod am eich gwneuthur yn eg- lwyswyr ar unwaiih, heb gael hawl i farnu drosoch eich hunain, na chènad i ddarllen neb rhyw awdwyr tu-allan i'r Eglwys, annogaf chwi etto i ddar- Hen gwaith Towgood, Simpson, Con- der, Beverly, J. A. James, T. Scales, Cobbett, ac hefyd waith S. Roberts ar y Degwm: ac yn ol darllen gwaith yr awduron goreu o bob ochr, cym- herwch y cwbl â'r Bibl, a barnwch drosoch eich hunain. Na fyddwch barod i euog-farnu pleidiau o Ymneillduwyr ychwaitb, hyd nes y byddoch yn gyntaf wedi deall eu háthrawiaethau, ynghyd â'r rhesymau a'r ysgrythyrau maent yu ddwyn yn mlaen o blaid eu credöau, a phrofi hefyd nad yw yn bosibl eich bod chwi eich hunain yn gamsyniol. Efallai raai gweddus fyddai i chwi fod yn ddystaw (neu o leiaf i beidio cadw llawer o ystŵr) yn nghylch bedydd, hyd nes y darllenoch, y de- alloch, ac y cofioch, yr hyn a ddy wed 66