Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 16.] TACHWEDD, 1836. CCyf. I. COFIANT WILLIAM WIGLEY, OV Farteg, ger Pontypool, Sioydd Fynwy. Gwrthddrych y Cofiant hwn ydoedd ail fab Thomas a Gwenllian Wigley, o'r Farteg, ger Porttypool; yr oedd y mwyaf yn nhỳ ei dad ar amryw olygiadau; yr oedd, er yn blentyn, yn ymddangos o gynneddf- au cryfion a thalentau helaeth. Y dalent gyntaf a ddechreuodd ei har- feryd oedd canu, ond o herwydd mai oferedd oedd y llwybrau ag y cafodd ddechreu ei arwain ar hyd iddynt, maswedd oedd ei ganeuon. O, na sylwid mwy ar y gorchymyn mawr hwnw "Hyfforddia blentyn ynmhen ei ffordd." Eithr buan y cafodd William, drwy «jjugaredd a gras yr Arglwydd, ei argyhoeddi o'i ffyrdd drwg pan nad oedd ond deu- ddeng mlwydd oed. Tebyg yw mai yr Ysgol Sabbothol a dỳnodd ei serch at rinwedd yn gyntaf, i ba un y cymhellai rai o'i gymmydogion i ddyfod gydag ef. O, na byddai i bawb o honom wneyd ein goreu, fel y gallom yn hollol gadw rhai. Pan yn son am ei deimladau y pryd yma dywedai—" Ar ddydd Llun, wedi bod yn yr ysgol y Sab- both, pan oeddwn wrthyf fy hunan mewn lle dirgel, tarawodd i fy medd- wl yn ddisymmwth y drwg a'r perygl o ddywedyd geiriau cas, a chanu roaswedd, yr hyn bethau y buaswn yn arferol eu gwneyd, ac yn gan- tyaol i hyny mi a syrtíûais i lawr ar fy nglinîau, i dreio gweddio ar yr Arglwydd am drugaredd, ei faddeu- ant, a'i ras, ac a addunedais yn fy meddwl na byddai i mi byth wedi hyny wario fy ngheiniogau i brynu caneuon gwag, ond y cadwn hwynt i brynu rhai o'r llyfrau da oedd yn yr ysgol, ac na chaffai neb fy ngwel- ed i byth ond hyny ar hyd y tafarn- dai yn canu maswedd," &c, ac felly y bu. Daeth y bachgenyn hwn yn ddarllenwr Cymreig cywrain iawn yn fuan, ac yn ganwr hymnau rhagorol; ond gan fod ei rieni a'r plant ereill yn dra diystyr o'r pethau oedd yn ei fryd ef, ei watwar a'i erlid a wnaent pan y deallasant fod y digrif-ddyn yn myned i droi dalen newydd; fe oarodd hyn gryn flinder iddo, a chan gryfder gwawd y plant ereill, os gwelent ef yn gweddio wrth fyned i'w wely y nos a chodi y boreu, efe a âi ar ei liniau ar y grisiau a arwein- ient i'r llofft, fel na byddai i neb ei weled; "Gwell yw dyoddef adfyd gyda phobl Dduw nâ chael mwyn- iant pechod." Wrth weled y fath gyfnewidiad yn y bachgen, aeth hyn at feddwl ei dad a'i fam, er peri idd- ynt hwythau ystyried eu ffyrdd. Ad- roddiad ei dad sydd fel hyn:—" Pan oedd William gyda mi un diwrnod, efe a ddywedodd, * Fy nhad, peidiwch fy nghymhell i ganu maswedd byth ond hyny, gan fod arnaf arswyd meddwl am y fath waith pechadurus.' Ni atebais iddo ddim, ond meddyliais yn ddwys am ei eiriau." Dywedodd wrth ei fam hefyd yn agos yr un geiriau, sef, ar iddi beidio a'i flino ef drwy ei gymhell i ganu mwyach, fel 62