Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 15.] HYDREF, 1836. [Cyf. I. COFIANT Y PARCH. WILLIAM GURNAL, AWDWR "YR ARFOGAETH YSBRYDOL," &c. Er fod dros gant a hanner o flyn- yddoedd er pan y mae awdwr " Yr Arfogaeth Ysbrydol" wedi diosg ei arfogaeth, a myned i mewn i'w or- phwysfa, ni chynnygwyd ei gofiant i'r cyhoedd hyd o fewn i'r chwe mlynedd a aethant heibio; ac er mai cydffuríiwr oedd, a bod ei glod yn yr holl eglwysi, etto, syrthiodd i ran anghydffurfiwr, srf y Parch. Robert Ainsläe, o dref Lavenham, yn swydd Suffolk {Ue yr oedd Mr. Gurnal yn beriglor,) i ysgrifenu ei gofiant. Pahani na buasai rhai o'r brodyr duwiol sydd o fewn i balis yr eglwys o ba un y bu Gurnal yn aelod dysclaer, ac yn bregethwr anarferol enwog, yn cyfodi colofn coffadwr- iaeth iddo, nis gwyddom; a phaham na byddai yr ysgrifenwyr eglwysig Cymreig yn awyddus i ysgrifio am y fath enwogion â Gurnal a Simp- son, &c., nis medrwn ddeall. Er y casâwn ni sefydüadau eglwysig yn gywir ft:l y casâwn bechod, etto, nis gallwn lai nâ charu meddwl am, ac edrych ar, nodweddiadau y dewrion a wibient o'r tuallan i gylch y gyf- undraeth eglwysig, er y perthynent iddi, ac a ddryllient hualau rhewlyd serenioniau, pan oedd twrw Ymneill- duaetfa heb ddihuno y gwylwyr eg- lwysig o'u cwsg, a phan yr oedd mwy o gnoi a thraflyncu y rhai a rodient yn ol y " rheol hon," yn yr ^wys, nag oedd ar y rhai oeddynt wedi ymadael â'i chyfrinach. Gyda Phleser y gosodwn gerbron ein dar- Henwyr fyr-hanes o fywyd a marwol- awdwr " Yr Arfogaeth Ysbrydol." William ydoedd fab i Tfaomas ac Ethelrida Gurnal, Walpole St. Peter's, swydd Norfolfa, yn mfaa le, mae yn dybygol, y ganwyd ef, yn y flwyddyn 1617; ei nodweddiad yn ei ddyddiau boreuol ydynt, i raddau, yn anhj^sbys. Aeth i'r brif-ysgol yn y bymthegfed flwyddyn o'i oedran, a derbyniwyd ef yn Ngholeg Emma- nuel, Caergrawnt, ar y 29ain o Fawrth, 1632, cymmerodd y radd o athraw y celfyddydau yn y flwyddyn 1639, ac yn fuan ar ol hyn aeth yn gymrawd (fellow) o'r coleg. Ym- ddengys iddo adael y coleg yn fuan ar ol iddo gael ei raddiaw, ac ar ei ymadawiad nodwyd ef i weinyddu yn eglwys blwyfolLavenham; parhaodd i weini ei swydd fel curad yno hyd farwolaeth y periglor, Dr. Copingôr, yn y flwyddyn 1644; yna, ar gais y plwyfolion, cafodd y fywioiiaelh gan y nawrddwr, Syr Symonds D'EweSj a chadarnhawyd y cyflwyniad gan archiad Tỳ y Cyffredin, yr hon a ddyddiwyd Rhag. 16, 1644, yn mha un y desgrifir Mr. G. fel "Duwinydd union-gred, dysgedig, a duwiol." Arweiniwyd Mr. G. i'w fywioliaeth tua diwedd teyrnasiad Siarls y Cyntaf, pan oedd Henaduriaeth wedi dyfod yn brif grefydd y wlad; lliosog a ffyrnig oedd y dadleuon crefyddol yn y dyddiau hyny; mawr iawn öedd yr ymdrechion a wneid y pryd hyn am ryddid crefyddol, at 'ba rai y 58