Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 14.] MEDI, 1836. [Cyf. I. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. WILLIAM HARRIES, Gweinidog yr Anymddibynwyr yn Solfaeh, Dyfed. (PAIIHAU 0 TU-DALEN 389.) Yn mhen rhyw gymmaint o amser ar ol hyn, tiriodd amryw gannoedd o Ffrancod yn Penycaer, yr hyn a achlysurodd i elyniaeth ac erlidigaeth greulon godi yn erbyn yr Ymneill- duwyr; ac yn ardal Tyddewi, ymos- odwyd ar Mr. Harries, ac ereill o'i f'rodyr; cyhuddid hwynt gan eu ge- lynion o fod yn wrthryfelwyr yn erbyn y brenin a'r Uywodraeth; ac mai hwy oedd yr ofterynau, trwy ba rai y dygwyd y Ffrancod drosodd i'r deyrnas hon. Yr oedd y farn gyfeil- iornus hon am yr Ymneillduwyr, wedi ei ffurfio yn hollol s> dan lywod- raeth gelyniaeth yn nghalonau eu gelynion tuag atynt: bu hyn yn achos i Mr. Harries, a'i frodyr, er eu galar, roddi i fynu gynnal cyfar- f'odydd niewn annedd-dai am ryw gymmaint o amser. Penderfynodd Mr. Harries, drachefn, i fyned yn mlaen â'r gwaith da; barnodd mai »id gweddus oedd iddo laesu dwylaw, ac ofhi gwynebau dynion ; rhoddodd ei lioll hyder a'i ymddiried ar y Gwr a ddywedodd wrth ei weision,— "Wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser, hyd ddiwedd y byd." Dech- reuodd o'r newydd, er mewn ofn a dychryn, i gynnal cyfarfodydd yn yr }wyr, ar ddyddiau yr wythnos, o dý î aŷ' yn Tyddewi; a chafodd arwydd- ion eglur yn fuan fod y nefoedd yn foddlon i'r gwaith, trwy lwyddo ei lafur; byddai lliaws o rai annuwiol jn llefain allan yn y cyfarfodydd,— " Beth i wneyd i fod yn gadwedig." Ac yr oedd y fath sêl a gwresog- rwydd ysbryd ynddo ef a'i frodyr yn ngwaith yr Arglwydd, fel y byddent yn methu ymadael o gyfeillach eu gilydd yr amser hyn, ond glynent gyda gweddio, cynghori, a cbjodfori Duw, hyd dòriad y dydd lawer gwaith; a chwanegwyd llawer at yr eglwys yr amser hwnw. A'r hyn a fwriadodd gelynion crefydd i fod yn ddystryw ar yr achos yn Rhodiad, a oruwch-lywodraethwyd gan Ben yr eglwys i fod yn godiad iddo. Llafuriodd Mr. Harries yn ddi- wyd, ffyddlawn, a llwyddiannus yn Rhodiad a'r ardal am flynyddau lawer; ac aethai yn aml i bregethu i bentref Solfach, a'r Arglwydd & fendithiodd ei lafur; ac yn y flwy- ddyn 1798 penderfynodd i adeiladu tŷ addoliad yno, traul pa un a glir- iodd trwy gymmeryd taith i Loegr i gasglu, heb ofyn ceiniog gan neb o eglwysi Cymru, a chafodd y wobr a ddymunodd am ei drafferth, sef llwydd ar yr achos yn y lle. Gw-edi i'r Parch. J. Griffìths symud o Fa- chynlleth, i breswylio yn ardal Rhod- iad, rhoddwydiddoah\adfgan eglwys Rhodiad, a lnrny trwy gydsyniad a chymmelliad Mi\ Harries, i gyd- weinidogaethu ag ef yn Rhodiad a Solfach; ac wedi iddynt gydlafurio am flynyddau, dygwyddodd i'r eglwys fethu cyd-weled mewn pwnc o ddys- gyblaeth, yr hyn a fu yn foddion i beri i gariad a heddwch gymmeryd eu hadenydd ; o ganlyniad, barnwyd 54