Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 13.] AWST, 1836. [Cyf. I. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. WILLIAM HARRIES, Gweìnidog yr Anymddibynwyr yn Soljach, Dyfed. " COFFADWBIAETH T CYFIA.WN SYDD FENDIGEDIG." Mae yn hoff gan bob dyn-garwr weled tu-dalenau eich cyhoeddiad elodwiw gwedi eu britho â chof- iantau gweiuidogion duwiol a def- nyddiol ein cenedl, pa rai, yn lle soddi i ddyfnfor tragywyddol angof, a drosglwyddir, trwy gyfrwng y Di- wygiwr, megys mewn llestr cadarn, trwy ddiluw dinystriol chwyldroion amser yn ddiogel i'r oes a ddelo. Cafodd gwrthddryeh y cofiant hwn ei eni o rieni duwiol, mewn tŷ fferm a elwir Treysgaw, yn agós i Dref- garn, Dyfed, ar y 17eg o Dachwedd, 1749. Yn ol yr hyn a ddywed yn ei ysgrif-lyfr, ymddengys iddo brofi ar- gyhoeddiadau yn foreu iawn, pa rai a fu yn aehos iddo waeddi am dru- garedd am rai wythnosau; ond, er ei aìar, aeth y cyfryw argyhoeddiadau yn mhen ychydig o fisoedd yn angof ganddo. Ond yn fuan ar ol hyn cafodd ei ddychrynu yn fawr dair gwaith gan freuddwydion am echrys- lonrwydd y farn a'r canlyniadau; dywed i hyn gael y fath argraff arno ar y cyntaf, nes y meddyliodd na bu- asai byth yn myned yn angof ganddo; on d y cyfryw argrafiìadau yn fuan a anghofiodd, a'i benderfyniadau a'i addunedau a dòrodd. Yehydig cyn dcchreu y rhyfeí Americanaidd, efe a welodd arwyddion a rhyfeddodau <tychrynliyd yn yr awyr, y cymylau >el pe buasent oll ar dân, &c.; yr oiygfa hon a'i dychryaodd yn favrr, «leddyliodd fod dydd y farn i ganlyn y«i fuan; penderfynodd yn ddioed i fod yn ddyn newydd, ac nid oedd yn meddwl dim lîai nad oedd ei weddi- au, ei addunedau, a'i weithredoedd da, nid yn unig yn fwy nâ digon o iawn dros ei bechodau, ond hefyd eú bod yn gosod yr Arglwydd dan rwymau iddo am y daioni a wnaeth- ai! Dan lywodraeth y meddyliau cyfeiliornus uchod y bu dros yn agos i ddwy flynedd. Ar ddydd yr Arglwydd (pa flwy- ddyn, a pha amser o'r flwyddyn, nid yw hysbys i'r ysgrifenydd) aeth i wrando un o weision Crist yn preg- ethu, a'r hyn a ddywedodd y preg- ethwr am y ddeddf, a'r anmhosibl- rwydd i ddyn gael ei gyfiawnhau gerbron Duw trwy ei gweithredoedd, a barodd iddo sỳnu yn ddirfawr, a dywedyd, " Os gwir yw hyn, mae y cwbl drosodd gyda mi." Ar y ffordd wrth fyned i'w artref o'r oedfa y Sabboth uchod, pan welodd le cyt- leus o'r neiîldu, aeth iddo, lie y bu trwy'r prydnawn hwnw yn ymdreiglo a griddfan, gan ystyried ei hun y truenusaf o bob creadur yn nghread- igaeth Duw, ac felly y parhaodd dros amryw wythuosau. Yn y cyf- yngder hwn dygwyddodd iddo gaeî gafael ar waith y Parch. J. Bunyan ar y Cyfammodau, ac wrth ddarllen ei sylwadau ar y cyfammod gweith- redoedd, teimlodd euogrwydd ei bechodau fel mynyddoedd mawrion yn pwyso yn drwm ar ei enaid; yn y cyfamser hwn llettŷai feddyiiau caledion am Dduw, meddyliai nad òù