Skip to main content

.'■*" Y DIWYGIWR. Rhif. 11.] MEHEFIN, 1836. [Cyf. I. BYW-GOFIANT THOMAS DAFYDD, O'r Coity, Morganwg, yr hvm a fu farto Chicefror 2èain, 1836, yn 22ain oed. Yn hanes bywyd dynion ieuainc anghyhoedd, ni all fod ond ychydig bethau o bwys uniongyrchol, oddi- gerth iddeu cyfneseifiaid a'u cydna- bod, y rhai a drigent gyda hwynt, neu a gyfanneddent o hyd golwg mwg fíüraer eu hannedd-dai cyn- henid ; ac felly oeddent gydnabyddus o'u nodweddiadau a'u bucheddau. Y fath yw deiliad y cofiant hwn, a'r cyfryw yw y gwrthddrychau y mae wedi ei fwriadu iddynt; er, ysgat- fydd, na fydd gwaeth gan ereill, i daflu golwg arno. Tomas Dafydd ydoedd fab ieu- angaf William a Jemima Dafydd, o'r Ship Inn, Coity, Morganwg. Ga- nwyd ef Medi 20, 1813. Ŷr oedd yn ddyn ieuanc o rym coríforol, ac iecliyd canolig, yr hwn a fwynhaodd i raddau helaeth hyd ei gystudd di- weddaf, oddigerth ar ddau amgylch- iad yn unig: un ydoedd, iddo gael ei drywanu gan big-tìbrch, wrth gywain gwair, yn ei ochr aswy, yr lion a aeth i mewn yn mron at ei galon. Dyg- wyddodd hyn yn mis Gorphenaf, 1826; y dull oedd i'r big:fforch, yn ei waith yn codi y gwair oddiar y maes i'r bedrolfen, i ymchwelyd yu ol, ac i'w blaen drywanu ei ystlys, yr hyn a fu yn agos a bod yn angeu ìddo; ond, o ryfedd drugaredd Duw, cafodd ei arbed y tro hwnw. Yr amgylchiad arall oedd, iddo gael gwaew hir a blin ya ei holl aelodau, »yd nes ei fod, ar díöau, yn myned yn hollol efrydd, ac analluog i wneu- thur dim drosto ei hun. Dygwydd- odd hyn yn 1834, mewn canlyniad i anwyd trwm a gafodd, wrth ddilyn ei orchwyl-gwaith ; ond o hyn hef'yd y gwaredodd Duw ef, trwy fendith ar foddion. Yr oedd Tomas Dafydd yn ddyn ieuanc o gynneddfau eneidiol cryfion —o agwedd goríforol daclus—ac o gymmeriad moesol nodweddiadol a diargyhoedd. Yr oedd ei olwg yn dreiddiol, ac yn dynodi synwyr ac ymbwyll rhagorol; ei agweddiad cyfi- redinol yn sobr ac arafaidd, er nad oedd nac yn fursenaidd, sarrug, nac anfwyn, eithr yn siriol, gwylaidd, a mwynaidd. Perchid ef gan bawb a'i hadwaenent; a gellir dy wedyd am dano, yr hyn ni ellir ei ddywedyd am bob dyn ieuanc,—sef, na chafodd ei rieni ofid, gwerth ei enwi, oddiwrtho erioed; eithr, yn y gwrthwyneb, iddo fod yn ufydd a gwasanaethgar iddynt hyd y diwedd. Yn lle pwyso arnynt, a gwastrafî'u eu meddiannau, (fel y gwna gormod o blant ag eiddo eu rhieni,) yr oedd efe yn ymdrechu eu cynnorthwyo yn eu hen ddyddiau, a diamheu y teimiant goìled ar ei ol. Dywedai—" Nad oedd yn ymglywed â myned oddicartref, am ei fod yn ewyllysio cynnorthwyo ei rieni i ddal yr ychydig dir ag sydd yn eu dwy- law." Yr oedd hyn yn siarad cyfrolau yn ei fíafr, ac yn dynodi ei egwyddor yn rhinweddol a gwir í'oneddigaidd. Heblaw hyn, yr oedd amryw o bethau ereiü, tra chanmoladwy yn 42