Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 9.] EBRILL, 1836. [Cyf. I. COFIANT MR. THOMAS MORGAN, Cefribennydd, Llanwrda, Stcydd Gaerfyrddin. Gwrthddrych y llinellau can- lynol ydoedd fab i rieni parchus a chyfrifol, sef Mr. a Mrs. Morgans, gynt o Dŷ-caron, yn mhlwyf Cil-y- cwm, swydd Gaerfyrddin. Nid oes nemawr, neu ddim yn neillduol iddei nodi o barth iddo yn y rhan foreuaf o'i oes, amgen na'i fod yn cael ei ys- tyried yn ddyn ieuanc moesol a rhin- weddol iawn gan bawb a'i hadwaen- ent. Priododd pan oedd oddeutu 25ain oed, a bu fyw yn y sefyllfa hòno yn ddedwydd iawn yn nghylch pedair blynedd ar hugain. Yr af- iechyd o ba un y bu farw oedd rhyw fath o nychdod gwywlyd, yr hwn a orchfygodd fedrusrwydd meddyg- ol boneddwr enwog yn y gymmyd- ogaeth, ac wedi mis o gystudd efe a ymddadrysodd o'i babell briddlyd, a chredir yn hyderus i'w enaid ehedeg i'r fro dawel hòno, " Ue mae pleserau pur di-lyth, A ffrwythau i wledda'r enaid byth," ar y 14eg o Ragfyr, 1835, yn 49ain mlwydd oed, gan adael gwraig, a mam ddoeth, i saith o blant hawdd- gar i alaru ar ei ol yn nyffryn galar. Ymunodd Thomas â chymdeithas yr Ymneìllduwyr yn Nhabor o gylch pymtheg mlynedd yn ol, a bu fyw yn addas i'w broffes tra bu yn preswylio mewn byd o amser; ac yr wyf yn meddwl ei fod, yn ei rodiad a'i ym- arweddiad, cyn iddo erioed broffesu ei hun yn ddyscybl Iesu, yn tebygoli yn fwy, yn gyhoeddus, i un a fuasai yn ofni Duw, nâ llawer o broffeswyr efengyl yn yr oes hon. Yr oedd, fel gwr, yn ddoeth, ac yn ystyriol o'i ddyledswydd tuag at ei deulu—yn gariadus ac yn gymmwynasgar fel cymmydog—ac fel Cristion, yr oedd yn ofni Duw, ac yn cilio oddiwrth ddrygioni; yr oedd yn ddiniwed, yn siriol, ac yn fwynaidd, ac a berchid yn fawr gan ei gymydogion yn gyff- redinol; yr oedd megys un a blan- wyd yn nhỳ Dduw yn llawn o flodau a ffrwythau gras a santeiddrwydd; yr oedd ganddo barch mawr i grefydd yr Arglwydd Iesu Grist, a safai yn wrol o'i phlaid ar bob cyfleusdra ac achlysur. Nid aeth Thomas ffwrdd oddiyma Heb dystiolaeth ar y Uawr, Eifod yaunoberlau'r cadw Draw yn nhragwyddoldeb mawr; O Dduw Ior, gwna ninnau'n barod O rifedi y rhai hyn, A fydd tu draw i'r llèn yn canu, Am rinwedd aberth mawr y hryn. Gadawodd Thomas ar ei ol dyst- iolaeth ddiogel o'i gymmeradwyaeth gyda Duw, yn neillduol i rai o'i fro- dyr crefyddol ychydig amser cyn ei ymadawiad â'r fuchedd hon. Mae marwolaeth yr annuwiol yn ddych- rynllyd ac ofnadwy—os edrych 'S» wna yn ol, gwel fywyd wedi ei %eu- lio y»i ngẁasanaeth gelyn ei enaid; os edrycha yn mlaen, gwel dragyw- yddohleb yn ei aros; os edrycha i fynu, gwel yr Hollalluog â gŵg ar ' 34