Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 8.] MAWRTH, 1836. [Cyf I. SyiWADAÜ AR HANES, A CHWILIAD I AMGYLCHIADAÜ HIL GOMER. PARHAD O'R RHIPYN DIWEDDAF, TU-DAL. 198. Yn awr, yr ydys yn ddigon pa- rod i ofyn, A ydyw yn ddichonadwy, neu, a oedd yn ddichonadwy cym- mysgu iaith ? Nac ydyw. Paham ? Am y meddianna ar yr arddunedd mwyaf, o ran y dansoddau neillduol ag sydd yn ei didoli oddiwrth ieith- oedd ereill. Ni eliir cymmysgu yr hyn sydd arddun; gellir ei wânu; ond ui ellir, yn briodawl, alw yr un o'r darnau gwânedig, yr un â'r sylwedd dechreuawl. Ni ddichon un dyn, gan hyny, ddywedyd pa un ydyw'r iaith wreiddiawl, a pha un nid ydyw; am nad oes sicrwydd digonawl fod y fath iaith yn cael ei harferu mewn modd yn y byd. Cymmaint â hyna, yn bresennol, ar iaith. Wedi i bobi y ddaear fethu deall y naill yr hyn ddywedai y llall; fel pan y gofynai un, wrth adeiladu y tŵr niawr, am gael priddfaen—arall a roddai iddo râíf, er diogelu y daflawd; fel nad oedd modd yn y byd idd y gwaith fyned yn y blaen ; collasant yr ym- lyniad a deimlent, y naiil yn y lla.ll, a rhodient ar hyd wyneb y ddaear er ymofyn am gynnaliaeth; ac yma y dechreua haneswyr arferu y gair CENEDLOEDD. Dylid rhoddi eglurhad ar a feddylir wrth y gair cenedl, yma. Yr hyn yn benaf a neilldua genedloedd y byd, y naill oddiwrth y Uall, ydyw, fi>4 pob un yn tarddu oddiwrth un per- son nodedig. Y mae iaith yn un o briodion, neu ddansoddau cenedl; oblegid nid ydym i feddwl fod dwy genedl, ag sydd yn wirioneddawl wahanawl, yn arferu un iaith; ni feddw n angraiíFt mewn brudiaeth, ac y mae y peth yn ymddangos i mi yn anhyall. Y mae arferion neillduol heblaw iaith a gwreiddiad, yn dëoli cenedl oddiwrth genedloedd ereill; oblegid, nid ydym i feddwl y bydd i \vr adael i'w blant cyhnwynol fyned o'i dý, ac o dan ei sylw, heb yn gyntaf argraffu yn annilëadwy ar eu meddyliau. yr arferion a'i neilliant ef oddiwrth bobl ereill. Arferir y peth- au hyn gan y mab, ychwauegir atynt gan y ferch; cymmerir hwynt yn ddansoddau gan yr ŵyres, a ychwa- negir hwynt gan yr ŵyr; tybir hwynt yn dda gan y gorŵyr, a diw- ygir hwynt gan yr orwyres, a'r genedlaeth a ddel ar ol, nes y bydd- ant yn gwneyd adwy fawr rhwng hil y dyn ag oedd eu dechreuad, â holl genedloedd y byd. Ond wedi i blant dynion gael eu siomi yn eu gwaith drwgfrj^dus, trwy i Dduw, er dyben na pherthyn i ni holi yn ei gyích, beri na atebai eu hiaith ei dyben mwyach, dechreu- asant ymdaenu yma ac acw, gan di*aethu yn eu hymddygiadau mai, er fod y dedwyddwch ar ba un y gosodasant eu bryd 'wcdi ei ddi- fwyniaw, etto, y raỳnent yr hyn a'u gwnai yn ddedwydd. Er y diliw hyd y pryd hyny, yr oedd plant dynion wedi bod- yn ymgodi tua brya gwyrddlas pei'ffeithrwydd gwladol; ond mor galed ydoedd yr ergyd hwn