Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 7.] CHWEFROR, ia36. [Cyî- t SYLWADAÜ AR HANES, A CHWILIAD I AMG YLCHIADAtT HIL GOMER. Mae yn ddywediad cywir ddigon, na ŵyr y dyn hwnw ag sydd anwy- bodus o hanes ei genedl, onid ych- ydig. Mae natur hael yn peri ar i ddyn garu y rhai hyny ag sydd agosaf eu perthynas iddo; a phan y mae deall yn cynnyddu, mwyaf effeithiawl ydyw y teimladau, ac felly y deall a fwyâ y teimlad, a'r hyn ganlyn yw, ymofyn y dyn, yn benaf, a'r pethau hyny a'i heffeithiant fwyaf. Dilys fod llawer o ymofyniadau wedi eu gwneyd i amgylchiadau y Celtiaid, a bod y cyfryw yn fwy llwyddus nag y dichon i'r ceisydd hwn fod; ond nid yw hyny reswm yn y byd paham na ddylai pob un, ag sydd Gymro, ym- ofyn ynghylch y mater hwn. 0 dygwydd i ni fyned i roddi tro i faes mawr hanes, na ddychymmyg- er ein bod ger treigliad llwythau anfoddus, neu deifhiau teuluoedd anniwyd, neu ymladdau gwaedlyd dyhirwyr aflonydd, neu ddadwneu- thuriad teyrnasoedd, neu dòriad ter- fynau cyfiawn heb achos i gyfiawnhau y weithred, neu rediadau ieithoeid iddeu gilydd, o herwydd cyfnewidiad amgylchiadau cenedloedd a ddef- nyddient ddnlliau gwahanol i draethu eu meddyliau anoleu; eithr ym- drecher ystyried mai ffigurawl ydyw y dywediad, ac mai trwy ddrych- wydr yr edrychwn ar faes è'ang an- wastad amgylchiadau y cenedloedd y byd, a hyny i'r dyben o ddidoli un genedl a'i hamgylchiadau o blith y cwbl. Mae eyssylltiadau llwythau gwahanol o ran eu deehreuad» a gwahaniad cenedloedd o blegid ym- derfysgoedd, yn gladdedig niewn cymmaint ansicrwydd, o blegid di- ffyg dwy fraich rheidiawl Hanes,—- daearyddiaeth a brudiaeth—ar ddyg- wyddiad y ffodion, yn peri niai gwaith caled hynod ydyw cyrhaedd y gwir; ond y mae yn ddichonadwy i frudwr draethu yr hyn sydd gwbl annghredadwy, ac y byddai yn groes i ansawdd dyn i gredu, ac os cyfar- fyddwn â phethau o'r fath yn yr ym- gais hwn, ac os amlwg y dichou, neu yn weithredawl fod y cyfryw wedi dylanwadu hanes er coleddu hygoeledd, gosodwn ef ar y neilldu, a neithiwn i ddarluniaw y gwir. Hanes ydyw y rhan hòno o wy- bodaeth ag a ymddibyna ar wiredd traethiad tyst, treigliad dygwydd- iadau natur hyd ger golwg, trwy gyfrwng geiriau ysgrifenedig neu lafaredig, a thraethiad o'r lle a'r amser y dygwyddasant. Wrth drem- iaw ar yr hil ddynawl yn ymdaenu ar gytir y byd, gellir ei chanfod yn fyehan a distadl, a'i holl nerth a'i chyfrwysder wedi dirwyn i'r pen, gan geisio cyfoditŵri'rnef,.dywedir, ond diammeu nas gwyddid a fedd- ylir wrth y gair nef. A fu y diluw ar ein byd daear-ddyfrawg, sydd osodiad a brofir mor bell ag y mae yn ddichonadwy profi pwnc mèwn hanes, gan haneswyr o bob matli, ac arwyddion sicr ar hyd y ddaear. A fu y diluw dros y byd sydd bwno 26