Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 6.] IONAWR, 1836. [Cyf. I. COFIANT Y DIWEDDAR MR. JOHN LLOYD MORGAN, MTFYRIW» YN NGHOLEG HOMERTON, LLUNDAIN. Gwrthddrych y cofiant hwn oedd blentyn hynaf David ac Eliza- beth Morgan, Forge, yn mhlwyf Llangan, swydd Gaerfyrddin. Gan- wyd ef yr ail ddydd o Ebrill, yn y flwyddyn 1816; hanodd o rieni crefyddol, y rhai a gymmerasant ofal mawr i ddwyn eu plant i fynu yn addysg ac athrawiaeth yr Argl- wydd. ' Gwyddis yn dda gan y rhai a'u hadwaenent, nad esgeulusent weini cerydd pan byddai bai yn bod; eu bod yn dra gofalus i roi siampl addas o'u blaen, gan ystyried yr effeithiai siampl ar blant yn fwy nâ dim arall; addysgent eu plant yn mhethau crefydd mor foreu ag y deallent eu bod yn addas i dderbyn addysg. Gellir barnu wrth yr effeithiau a ganlynent, eu bod yn taer weddio ar i'w plant gael eu dwyn yn foreu i adnabod Duw eu tadau; nid yn aml y gwelwyd teulu o blant a fuasai tan ddysgyblaeth i[ mor fanawl, yn dangos cymmant serch i'w rhieni, ac mor barod ì ufyddhau iddynt, o gariad atynt. John, eu cyntaf-anedig, pan yn ieuanc a ddangosodd arwyddion o gynheddfau cryfion; a braidd y buasai un peth cywraint a welsai na wnaethai efe ei gyffelyb, os ceisiai; dangosai hyfrydwch yn ieuanc i ddarllen, a mỳnai ddeall yr hyn a ddarllenai, os nas gallasai ei ddeall ei hun, gofynai i ryw un am gyfar- wyddyd. Dywedai John, yn blentyn o ddwy i dair oed, mai pregethwr fyddai efe, ac ni newidiodd ei feddwl am hyn tra y bu byw. Tebygol fod rhyw argraffiadau boreu ar ei feddwl ynghylch ei gyflwr, ac mai trwy ddarllen, gwrando, a myfyrio, y dyg- wyd ef i gredu ei drueni a'i berygl fel pechadur, ac i roddi ei hun i Dduw, yn ol ei drefn, i gael ei gadw, ac i'w wasanaeth am byth. Ymun- odd â'r eglwys yn Henllan, Tachwedd y 22ain, 1829; nid oedd ond 13eg oed pan ymroddodd yn weledig dan faner Brenin Sion: mewn yspaid ychydig fisoedd cyn ac wedi hyny, ymunodd ei ddwy chwaer a'i frawd., sef yr holl blant, â'r eglwys ; mae yn debygol na ddarfu i nemawr o rieni weled eu holl blant yn ymuno â chrefydd mor ieuanc. Er mai Uaw- enhau mewn dychryn yr oeddym, yn enwedig eu hanwyl rieni, cawsant y fraint o ddal eu ffordd; a gweddiwn är iddynt oll gael hyny hyd y di- "wedd. Yn Chwefror, 1831, bu farw D. "Mórgan, ei .dad, er mawr alar i'r teülu, yr eglwys, a'r gymmydogaeth ; hir gofir am ddefnyddioldeb a syml- rwydd crefyddol ei dad, a haeddai gael ei efelychu gan holl broffeswyr yr oes. Dywedai John wrth ei anwyl fam yn ol claddu ei dad, nad oedd dim yn profi gwirionedd cref- ydd yn well i'w feddwl ef nâ chysson ymddygiad crefyddol ei dad; pe byddai pawb o'r un ymddygiad, causid geneuau cablwyr. Ar ol marw- olaeth ei dad, dywedai fod ynddo 8 vmìW