Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 5.] RHAGFYR, 1835. [Cyf. I. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. EVAN DAVIES, LLÀNEDI, SWYDD GAERFYRDDIN. Ganed Mr. E. Davies yn NyfF- ryn-llynod, yn agos i Landyssil, Ceredigion; yr oedd ei rieni, y Parch. James Davies, a Mary ei wraig, yn dàl fferm fawr, ac yn bobl gymmeradwy iawn yn y gymmydog- aeth lle yr oeddent; yr oedd Neuadd- lwyd, a lleoedd ereill dan ofal Mr. Davies, a'i ganlyniedyddion oeddent Mr. Phylip Morris, Grey, Gibbon, Davies o'r Mynydd-bach, a Dr. T. Phillips. Yn mhlas Cilcennin yr oedd Mr. James Davies yn byw yr amser olaf o'i fywyd. Nid oedd dim neillduol yn ei fab Evan yn moreu- ddydd einioes, ond yn unig ei awydd mawr i gyrhaedd gwybodaeth, a'i bwyll a'i arafwch hjmod. Bu dros ryw faint o amser dan ofal y Parch. Mr. Jenkins,ÿnNghaerfyrddm, lle y cynnyddodd «ewn dysgeidmeth yn gyflym iawn. Trwy annogäeth y Parch. Mr. Lewis Rees symudodd oddiwrth ei fam, yr hem oeddyn byw y pryd hyny yn Nghlyniâr, yn mhlwyf Llanllwni, i ardal Scetty, lle y bu yn cynnorthwyo Mr. Rees, ac yn cadw ysgol. Ond wedi heneiddio o'r Parch. Mr. Thomas, Llanedi, ac yn teimlo ei hun yn analluog i atebi'r galwadau oedd arno, efe a benderfynodd drosglwyddo rhan o'r gofal a'r gwaith i ry w wr ieuanc go- beithiol; a chan gynted ag y gwel- odd ac y clywodd Mr. Davies, penderfynodd mai efe oedd y dyn a wnaethai y tro, a dymunodd arno ddyfod i bregethu i Lanedi, lle yr hofíwyd ef yn fawr iawn gan y bobl, ac yn mhen gronyn urddwyd ef yno trwy gydsyniad cyffredinol. Yr oedd Mr. Thomas wedi bod am gryn amser yn Llanedi, yn wt gwasr tad iawn yn ei ffyrdd, yn gyfoethog iawn yn y byd, ac yn foneddigaidd iawn ei ymddangosiad; y pethau hyn, gyda phethau ereill, roddent argraff neillduol ar ei holl ddywed?- iadau a'i weithrediadau, fel yr oedd yn gysgod i Mr. Davies yn nechreu ei weinidogaeth rhag pob storom, a chedwid ef yn ddiogel rhag ffrewyM tafodau; nid oedd Mr. D. yn anys- tyriol o hyn, oblegid dangosai y parch mwyaf ar bob achlysur i Mr. Thomas tra fuodd byw, a siaradai yn barchus iawn am dano wedi ei farw. Nid oes un arwydd well, nac *un peth yn fwy dymunol nà bod gweinidogion ieuainc yn parhaus fyw dan lywodraeth dywediad cofus Elihu,-------" Dywedais, dyddiau a draethjant, a lliaws o flynyddoedd a ddysgant ddoethineb;" dylent bob amser ymddwyn yn y modd mwyaf parchus at hen bobl, yn enwedig pan fyddont yn cyd-lafurio â hwynt yn y winllan. Yr oedd yn bresennol ar ddydd urddiad Mr. D. yn Llanedi, Mr. Llwyd, Brynllefrith ; Mr. Grif- fiths, Capel Sîon; Mr. T. Davies, Panteg; a Mr. Lewis Rees, ac efallai rai ereill, y rhai ydynt i gyd wedi myned i dŷ eu hir gartref, ac yn gwbl ddyeithriol i'r lleoedd a'i had- waenent unwaith. 18