Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 4.] TACHWEDD, 1835. [Cyf. I. COFIANT Y PARCH. SAMUEL FAIRCLOUGH, YR HTN A DDIDTWTD O KEDDINGTON. Addefir yn gyffredinol fod cof- ìaint o fywydau a nodweddiadau dynion duwiol, doeth, a deallus, a fuant oleuadau yu y byd yn deilwng o gael eu rhesu yn hanesion yr amser- oedd; ac i fod enwau y rhai a ddyoddefasant lawer er mwyn enw Iesu, ac a gymmerasant eu hyspeilio yn llawen o'r pethau oedd ganddynt, yn addas i gael eu trosglwyddo i oliaid o genhedlaeth i genhedlaeth, ac y dylid codi cof-golofnau er bytholi eu coffadwriaethau bendig- edig; fel hyn y bydd iddynt wedi marw etto i lefaru. Amlwg yw i bawb cynnefin ag hanesyddiaeth eglwysig, nad oes neb yn deilyngach i gael ysgrifenu eu henwau yn y graig dros byth nâ'r gweinidogion enwog a ddidywyd o Eglwys Loegr trwy Ddeddf yr Unffurfiad, yn fuan ar ol adferiad yr ail Siarl i'r orsedd; yma y gwelwyd dros ddwy fil yn myried heibio i bob erthyglau tra- ddodiadol, a dynol gredoau, ac yn cymmeryd llyfr cyfraith y tŷ yn rheol i'w hymddygiadau, ac yn sefyll yn ddigrŷn ac yn wrol yu ngwyneb breninoedd gwgus a phre- ladiaid beilchion, gan ddywedyd yn hŷ fod yn rhaid ufyddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion. Fe allai na ddengys tu-dalenau hanesyddiaeth un enghraifft arall o gynnifer o weinidogion duwiol yn ymwrthod yn bwyllog a gwirfoddol â'uioll gysuron daearol á'u medd- iannau bydol, er mwyn cydwybod dda, Cyhuddir hwynt gan rai o benboethder a gwallgofrwydd, am eu hymddygiad arwrawí, ond cofier mai y bûs a'r hunanol, y rhai a etifedd- ant ysbryd goganllyd, chwyddedig, a thrahaus Bonnera'i gymdeithion yw y rhai hyn. Y mae rhagorolion y ddaear wedi cyduno i'w dyrchafu, mae Ymneillduwyr Protestanaidd o bob enwad wedi bod yn uchel eu mholud ac yn frwd eu cydgais i ber- aroglu eu henwau, a dyrchafu eu cofiàdwriaethau, fel sylfaenyddion eu heglwysi, ac amddiffynwyr a cheid- waid eu hegwyddorion; eofir iddynt aberthu eu helw, eu cysur, a'u pareh, ar allor rhyddid crefyddol; ac iddynt fod yn weithgar yn eu dinystr tym- horol eu hunain, er cadw cydwybod ddirwystr. Pe buasent ond datgan eu cydsyniad â thilerau yr Unîrurfiad, gallasent aros yn eu bywioliaetjpiu Eglwysig fel ereill, ac ysgói y tlodi, y dirmyg, a'r erlidigaethau, a ddy- oddefodd y rhan fwyaf o honynt. Yr oeddynt ddysgedig yn holl ddoeth- ineb y deyrnas, yn nerthol mewn geiriau a gweithredoedd, yn dduwin- yddion synwyrlawn,*yn weinidogion ffyddlawn a llafurus, y|§ astudwyr dirlin, ac yn mhob ystyr yn weith- wyr difefi yn ngwasanaeth eu Mheistr; ac fel sylfaen i'w holl gym- hwysderau ereill, gellir sylwi eu bod yn ddynion mawr mewn gweddi. Byddai yn gamwedd ar ol-oesolion i guddio rhagoriaethau y rhai hyn dan fentyll tewion y blynyddoedd sydd 14