Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 3.] HYDREFj 1835, [Cyf. L COFIANT Y PARCH. JONATHAN JONES. PARHAD O'R RHIFYN DIWEDDAF. O hyn allan defnyddiai ei ddoniau fel y byddai yn anghenrheidiol, er cynnorthwyo y gweinidogion yn yr amrywiol eglwysi, hyd oni phender- fynodd eglwys Rhydybont ddewis gweinidog iddynt eu hunain, Yna derbyniodd alwad wresog oddiwrth- ynt hwy, ac urddwyd ef Awst 9, 1775, pan yn ddeg-ar-ugain oed. Yn ol yr hanes a gadwyd ganddo ef o'i urddiad, cawn i'r gweinidogion canlynol uno yn y gorchwyl:—y prydnawn cyntaf gweddiodd y Parch. Morgan Jones, Pentretygwyn, a phregethodd y Parch. Evan Davies, o Lanedi; yr ail ddydd, dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. Phillip Morris, a gweddiwyd gan y Parch. J. Davies, Alltwen ; eglurwyd natur urddiad, a holwyd y gofyniad- au gan y Parch. J. Griffiths, Glan- dwr; gweddiodd y Parch. Owen Davies, Trelech, yr urdd-weddi; rhybuddiwyd y gweinidog gan y Parch. Rice Davies, Canerw, a'r eg- lwys gan y Parch. Thomas Davies, o Lanybri. Yr oedd amryw weinid- ogion yn bresennol, heblaw y rhai Jayn, ond aethant oll i'w hir gartref yn mhell ö flaen yr hwn a goffeir gènym yn y Uinellau hyn. Llafuriodd Mr. J. yn ddiwyd yn mysg ei bobl gyda ehymmeradwyaeth a llwyddiant nid bychan; cafodd hawddgarwch mawr yn ngolwg yr eglwys a'r byd. Helaethodd ei ddef- nyddioldeb, Uiosogodd ei gynnull- eidfa, yn wrandawwyr a ehymunwyr; adeiladwyd iddo gapel helaethaeh, mewn man mwy cyfleus, ac ychwan- egwyd beunydd at yr eglwys, y rhai y gobeithir y byddant gadwedig. Aeth cynnulleidfa Rhydybont yn ÌH- osog a helaeth, yn cyrhaedd pum milldir o amgylchedd, hyd oni adeil- adwyd capel arall, ac wedi hyny ni chyfyngwyd arni ond un ochr. Nid yn Rhydybont'yn unig y bu Mr. J. yn tòri bara, ond hefyd yn Mhen- cader, Horeb, Gwernogle, ac Aber- gorlech. Bu yn gweinidogaethu yn y ddau flaenaf yn hir, o'r amser yr amddifadwyd hwy o'u gweinidog hyd ei ymadawiad ef â Rhydybont; yn wir, mor helaeth oedd ei lafur gwein- idogaethol, fel yr âi yn ddiwyd a ffyddlawn iawn i gyfarfodydd misol a chwarterol, ae i'r gymmanfa flyn- yddol, yr hon a gyfodwyd yn mhlith yr Independiaid yn Nghymru yn ei amser ef; y gyntaf a gynnaliwydyn Mrynberian, swydd Benfro, a'r ail yn Rhydybont. Gweinai yn achly- surol yn mhell oddigartref, a gwa- hoddwyd ef gan eglwys y Brych- goed, swydd Frycheiniog, i sefydlu yn eu plith; ond cymmaint oedd gafael eglwys Rhydybont am dano, ac yntau am danynt hwythau, fel y penderfynodd mai ei ddyledswydd oedd aros gyda hwynt, a bu yn weinidog iddynt o gylch deugain mlynedd. Ychydig flynyddau cyn ei ymadawiad â hwynt, adeifedwyd Capel-Nonni, a flurfiwyd eglwj« yha trwy ei offerynoldeb ef, yr nön, îék 1Q