Skip to main content

Y DIWYGIWR. Rhif. 1.] AWST, 1835. [Cyf. I. ANERCHIAD. Mae yn gwbl amlwg nad oes eisieu na dewin na brudiwr er daroganu fod pethau gogoneddusaf y dyddiau di- weddaf ar ymagor arnom; mae y llyfr seliedig yn cael ei raddol ddad- blygu, llawer a gynniweiriant, ac y mae gwybodaeth yn tra amlhau; mae dynolion yn dechreu ymysgwyd o'u cysgadrwydd a dihuno o'u syrthni, ymestynant yn awyddus at eu breint- iau genedigol, teimlant yn ddolurus dan y beichiau trymion a osodwyd arnynt gan foneddigion na fuasent er dim yn cyffwrdd â hwy ag un o'u bysedd eu hunain, ac y mae llawer. yn gwaeddu yn ddolefus am nrdd- had. Wrth daflu golwg yn ol ar y gaddug nosawl ac erçhyllfawr o ba un yr ydym yn graddol ddadsoddi, meddyliwn ei bod yn lled oleu, ac yr ydym yn gwybod fod y gymdeithas ddynol wedi mudo llawer yn mlaen, mae diwygiad wedi bod ar sefyd- liadau eglwysig a gwladoî. Bu amser pan oedd y "dyn pechod" yn ys- gwyd ei deyrnwialen haiarn dros y rhan fwyaf o deulu dyn, arweiniai y werin wrth ei ewyllys, heb neb o honynt yn beiddio gofyn i ba le yr oeddynt yn myned! Gwisgai yn drwsiadus hen arferion paganaidd yn mentyll heirdd Cristionogaeth, llithiai íiloedd i ganlyn ei ddystryw, wrth ei awgrym y crynai breninodd, ac wrth' drwst ei draed siglai gorseddfeinciau hyd eu sail; yspeiliai ddynion o'r pethau oedd ganddynt, bwriai bwynt i garcharau oer a thy wyll, llusgai hwynt i'r chwil-lysoedd, ac os na phrofent yn ddigon ystwyth i ddiofrydu eu Biblau, a'u cydwybod yn ddigon rhwth i lyncu holl erthyglau ei gredò'au clytiog ef, heb os nac eithr- iad llosgid hwynt yn ulw fel heretic- iaid gwrthun ac anwelladwy î Nid yw gjmddrwg â hyn yn awr; peidiodd y gorthrymwr â bod mor ofnadwy, ac y mae flbn yr anwiriaid wedi ei dryllio: mae achos genym fod yn llawen, canys yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion. Mae dcddfy goddefiad wedi ein hamgeleddu i raddau, ac wedi ein därhguddio oddi- wrth saethau llymion awdurdod gref- yddol; ond tra byddo'r fath ddeddf yn neddf-lyfr Prydain Fawr, a thra byddo y fath air â Goddefiad Cref- yddol yn diwynaw llechres geiriau, teimlwn yn orthrymus, ac yn ymwy- bodol nad yw yr anghenfil pabydd- iaeth hyd etto ond wedi hanner ei ladd. Pan yn tremiaw ar diroedd breil- iawg a pharadwysaidd yr addewidion, a phan syllom ar faesydd gwastad- faith a phrydferth profí'wydoliaethau ysbrydoledig y rhol Ddwyfol, amlwg yw y bydd canolddydd llwyddiant crefyddol a rhyddid g>vladol (y rhai ydynt bob amser yn cyd-deithio) yn wahanol iawn oddiwrth yr hyn ydyw yn bresennol,— " Nid yw etto ond dechreu gwawrio ; " nid ydym etto ond megys newydd daro troed ar randir ein hetifeddiaeth, y mae tir láẁ er iawn etto i'w feddiannu. Hyd yn hyn y mae llawer o olion " mab y golledigaeth " heb eu dileu gan ddyfroedd grisialaidd y cyssegr, y mae tywyllwch Aiff'tiaidd yn dè'or ar ranau helaeth o'r gymdeithas ddynol, ac y mae niwl aíiach, dinystiìol, a