Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR WR Ctmreig COFNODYDD ao ADOLYGYDD MISOL RHIF 12. RHAGFYR, 1S90. PRIS CEINIOG. Mr. Gladstone a Dadgyssylltiad. GAN Y GOLYGYDD. Yn ein rhifyn blaenorol, darfu i ni fwy nag unwaith alw sylw Annghydffurfwyr Oymru—yn enwedig y dosparth hwnw o honynt sydd yn hanner addoli Mr. Gladstone—at y ffaith nad yw yr Hen Wr o Benarlag yn credu dim nac yn teimlo dim dyddordeb yn y pwDC mawr o Ddadgyssylltiad a Dadwaddoliad Eglwys Loegr yn Nghymru. Gwnaeth Mr. Gee o Ddinbych ymgais Wrol i gael ganddo wneuthur rhyw ddatganiad o'i fwriadau, ond yr oedd yr " Hen Law " yn rhy gyfrwys i gymmeryd ei ddenu i'r rhwyd. Gwir ddarfod iddo ysgrifenu llythyr maith mewn atebiad i eiddo Mr. Gee, a gwir ddarfod i Mr. Gee gymmeryd arno ei fod yn M berffaith foddlawn " i'r atebiad a gafodd (er iddo orfod ysgrifenu colofnau ar golofnau o'r Faner i geisio profi fod atebiad Mr. Gladstone yn •« hollol foddhaol"), etto, rywsut, metbodd argyhoeddi neb, hyd y gwyddom ni, fod yn mryd Mr. Gladstone i ymgymmeryd â'r gorchwyl o ddadsefydlu yr Eg- Iwys. Dywedasom ni o'r dechreu, ac yr ydym yn parhau i ddywedyd yr un peth, nad yw Mr. Gladstone yn bwriadu cy- ffwrdd â'r pwnc ag un o'i fysedd. Dywedwn ragor, yr ydym yn credu yn ddiysgog ei fod yn elyn annghymmodlawn i Ddadgys- Sylltiad yn Nghymru, ao mai ei amcan wrth gofleidio Ymreolaeth i'r Iwerddon, gwneyd cytundeb à'r Pabyddion Gwyddelig, a thaflu ymaith hen arwyr rhyddid gwladol a chrefyddol fel John Brigbt, Joseph Chamberlain, ac ereill, ydoedd clofifi y mudiad Dadgyssylltol. Llwyddodd i raddau mawr, ond gobeitbiwn fod digon o synwyr yn aros yn rhai o flaenoriaid y blaid fu yn ei ddylyn yn Nghymru i weled drwy eí gyfrwysdra. Er mwyn cynnorthwyo y cyfryw, rhoddwn ychydig o hanes y cynnygion wnaethpwyd yn Nhŷ y Cyffredin mewn cyssylltiad â Dadsefydl- ìad Eglwys Loegr. Y diweddar Mr. Edward Miall, golygydd y Nonconformist, ac Aelod Seneddol dros Bradford, Yortsbire, ydoedd y cyntaf i alw 8ylw y Tŷ at y pwnc. Gwnaeth hyny yn y flwyddyn 1856, drwy fcynnyg fod yr Eglwys Wyddelig i gael ei dadgyssylltu. Pleid- leisiodd 98 drosto, a 163 yn ei erbyn ; felly, collwyd y cynnyg drwy fwyafrif o 70. Mai Slain, 1869, pasiwyd Mesur Dadsef- ydliad yr Eglwys Wyddelig, drwy ei ddarllen y drydedd waith yn Nhý y Cyffredin, drwy fwyafrif o 114. Yn mhen llai na blwyddyn ar ol hyn, sef ar yr 21ain o Fai, 1870, Cynnygiodd y diweddar Mr. Watkin Wiíliams, yr aelod dros Fwrdeis- tfrefi Dinbych (y Barnwr Watkin Williams wedi hyny), y penderfyn- *ad canlynol:— " Mai cyfiawn fyddai i'r Sefydliad Eglwysig a'i gyssylltiad â'r Wladwriaeth ddarfod yn Llywodraeth a Thywysogaeth Oymru." Gwnaeth Mr. Williams araeth alluog o blaid ei gynnygiad. Cyd- ^ebydd pawb a'i darllenasant hyny; ond cyn iddo braidd eistedd,neid- lodd Mr. Gladstone ar ei draed, a gwnaeth araeth fawr yn ei erbyn, ^aeth fu yn foddion i syfrdanu a pharlysu ei holl ganlynwyr. Di- ^eddodd yn y geiriau canlynol:— " Yr wyf yn rhwym o amlygu fy nghred am yr Eglwys Sef- ydledig, mai hi yw crefydd mwyafrif lled fawr o bobl y wlad hon. Nis gallaf lai na dywedyd, yn annybynol ar yr hyn a ym- ddengys fel prawf eglur ar yr olwg gyntaf o'r doethineb o aros lle yr ydym, nad wyf yn eiddigeddus wrth fy nghyfaill anrhyd- eddus a dysgedig (Mr. Williams), neu fy nghyfaill anrhydeddus, yr aelod dros Ferthyr Tydfil (Mr. Henry Richard), neu unrhyw ddyn a feiddia gymmeryd mewn llaw y gwaith o ddadsefydlu Eglwys Loegr. Hyd y nod pe buasai mor briodol gwneuthur hyny ag yr ystyriaf hi yn anmhriodol, y mae anhawsderau yn y gwaith, yn ngwyneb y rhai y byddai i'r rhai mwyaf beiddgar droi yn ol mewn arswyd. Peth digon hwylus yw ymdrin â dad- ganiadau dansoddol (abstraci) ar Bybudd-leni y Senedd, am yr hyn ellid neu a ddylid gyflawnu. Ond eler at y muriau a'r pyrth, edrycher ar y dull y gosodwyd maen ar faen, a'r iuodd y clodd- iwyd y sylfaeni, fel yr ânt i lawr i ddyfnder y ddaear, ac ystyr- ier gyda pha fath arfau a chyflegrau y gellwch dynu yr adeilad i lawr. Yr wyf yn gwybod am yr anhawsderau, ac nid wyf yn barod mewn uurhyw ddull na ffurf i gefnogi, trwy ytuddwyn at gynnygiad fy nghyfaill anrhydeddus a dysgedig mewn un ffordd amgeu na'i wrthwynebu, rhag creu dysgwyliadau ag y byddai yn waith annheilwng a dianrhydeddus i'r eithaf ynom eu coleddu, a rhag i ni wrth hyny wneyd rhyw fath o addewid. Nis gallwn fyned i'r cyfeiriad hwna; nid ydym yn bwriadu myned. Yr ydyin yn condemnio y cynnygiad, a dylem ei ystyried yn niwed cenedl- aethol. Dan yr amgylchiadau hyn gobeithiaf y bydd y Tŷ yn barod i gyfarfod cynnygiad fy nghyfaill anrhydeddus a gwrth- wynebiad pendant, heb daflu un anfri arno ef, neu ar y rhai a gynnrychiola, o herwydd credwn na elwir am dano gan yr am- gylchiadau, ac nad yw yn ddymunol i deimlad ac argyhoeddiadau pobl y wlad. hon." Rhanwyd y Tŷ :—Dros gynnygiad Mr. W. Williams ...... 45 Yn erbyn ......................... 209 Mwyafrif yn erbyn............ 164 Dichon nad anfuddiol fyddai crybwyll ddnrfod i 22 o'r Aelod- au Cymreig, allan o'r 30 ddanfonir i'r Seuedd dros Gymru, gynnorthwyo Mr. Gladstone a r Gwyddyl i basio Mesur Dadsef- ydliad yr Eglwys Wyddelig yn 1869 ; ond oi wnaeth oud 4 o'r Aelodau Gwyddelig, allan o'r 103 ydyut yn cynnrychioli yr Iwerddon yn y Senedd, bleidleisio dros gynnygiad diniwed Mr. Watkin Williams ! Eu henwau oeddent—Mri. Browue, yr aelod dros Mayo ; Mr. McClure, Belfast; Mr. Shaw, Bandon ; a Mr. P. Callan, Dundalk. Dengys hyn i'r Cymry diniwed ydynt yn bloeddio am roddi Ymreolaeth i'r Gwyddyl, ac ymddiried yn eu teimladau da, pa beth ellir ddy3gwyl oddiwrth y Blaid Wyddelig fel ad-daliad. Y gwir yw, nid yw yr Aelodau Gwyddeüg, y Par- nelliaid, na'r rhai sydd yn ymladd y dyddiau hyn yn erbyn y Parnelliaid, yn malio botwm corn am Gymru, nac am Ddadgya- sylltiad i Gymru. Mai 9, 1871, cynnygiodd Mr. E. Miall benderfyniad i'rperwyl fod Eglwys Loegr i gael ei Dadsefydlu a'i Dadwaddoli. Pleidleisiodd drosto ............ 89 Yn ei erbyn.................... 374 Mwyafrif yn erbyn.......... 285