Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ci ftft Hyspysiad PwyẄ t Tocyn Yswiriol" Yr ündebwr Cymreig!" ûUlul/i [ist- Gwel y Tudalen olaf. YR Undebwr Cymreig COFNODYDD AC ADOLYGYDD MISOL RHIF 11. TACHWEDD, 1890. PRIS CEINIOG. Pa un ai mantais ai anfantais fydd- ai Ymreolaeth i Gymru ? Gan y Pabch. D. Biohabds, M.A., Tî Ddewi. [Ymddangosodd yr erthygl ragorol a ganlyn yn y Geninen am y mis hwn, a thrwy ganiatad yr awdwr a'r cyhoeddwr, yr ydym yn ei chyhoeddi yn yr Undebwr.—Gol.] Ühywbeth fel yr uchod a awgrymwyd gan Olygydd y Geninen fel pennawd i'r ysgrif bresenol. Gwnaiff y tro yn iawn. Os mai mantais neu anfantais i Gymru a feddylir, mae'n rhaid i ni tldweyd ar unwaith fod yn gorwedd dan y frawddeg syniad cul- genedlaethol nas gall un Undebwr Cymreig am foment ei gym- Uaeradwyo. Nid yw o fawr bwys, feallai, am y credwn fod lles Cymru mewn gwirionedd yn un â lles y Deyrnas Gyfunol. Er byny, buddiol ywi ni ddweyd yn glir ar unwaith nas gall Undeb- wr ystyried yn werth sylw o gwbl rywbeth' sydd o fantais, neu a ŷmddengys yn fantais, i Gymru, os yn annghyson à lles y I)eyrnas Gyfunol fel cyfangorff. Gwel y darllenydd felly ein bod yn sefyll ar dir eangach nâ'r îsgarwyr a'r Ymreolwyr o bob lliw a llun. Prydeinwyr yn gyntaf ydym, ac yna Cymry faint ag y fynoch a chyhyd ag y tüynoch. Os myn neb ddeall ein daliadau gwleidyddol rhaicl ìddo sefyll ar yr un tir â ni am ychydig—rhaid iddo edrych ar y pwnc o'r safbwynt bwn. Mae genym hawl i ddysgwyí y gwua pob dyn diragfarn a theg hyn ; a gobeithio y gwna pob Ymreol- Wr ymdrech i fod yn ddiduedd. Beth bynag ddygwydd, rhaid i oi wrthdystio yn y fan hon yn erbyn arferiad sydd ry gyffredin yn mhlith ysgrifenwyr Cymreig ar y pwnc, sef, lluchio llaid, a clim arall. Yn ol rhai o'r doethion hyn, nid yw y rhai sy'n methu gwel'd lygad yn Uygad â hwy ond " bradwyr i'w gwlad," '• Cymry Seisnigedig," " Llwfrddyníon gwasaidd." Os meiddia Heb wrthod eu sibboleth hwy am yr iaith Gymraeg, gelwir ef yn bdic Shon Dafydd. Os dywed neb ei fod wedi laru ar •« Wlad ÿ menyg gwynion "—moes, a chrefydd, a duwioldeb diail Cymru, tnawredd aruthrol talcen slip, ac athrylith eryraidd beirdd cocos, ÿsgrifener ef yn ddifenwr ei genedl. Os dywed rhywun fod ei ÿspryd wedi blino ar sebon meddal y wasg a'r llwyfan yn Nghymru, lle y cymherir ein cenedl ni â chenedloedd ereill, lle y rhoir y wobr bob amser i'n cenedl ni, rhegir ef gan y gwlad- garwyr, y cenedlgarwyr, y dewrion, fel y mynant alw eu hunain. Un gair à'r rhai hyn. " Lol botes, 'mechgyn I: rhegwcb, äifriwch faint fyd ag a fynoch : hyd nes y gwelwch yn dda ym- íesymu, yr ydych islaw dirmyg." Ŷ cwestiwn cyntaf yw—Beth a olygir wrth Ymreolaeth neu Jjywodraeth Gartrefol ? Hyd yr wyf yn cofìo, nid wyf wedi Sweled un darnodiad na desgrifíad o'r peth ond rhywbeth fel a Sanlyn—Hawl Cymru i drin ei materion ei hun yn unol â'i ^ewyllys ei hun : mewn geiriau ereill, ni welir yn ysgrifau yr Ymreolwyr Cymreig ond cyfieithad o'r brawddegau a arferir mewn cyssylltiad â Chwestiwn yr Iwerddon. Y dull diweddarnf oll ydyw dweyd, fel y gwna Mr. W. J. Parry, yn y Traethodydtl', fod amser dadleu wedi myned heibio ; fod egwyddor Home Rule wedi ei mabwysiadu yn awr gan y Blaid Ryddfrydig; nad oes eisieu bellach ond oynllunio, trefnu, a dyfeisio Cyfansoddiad Prydeinig newydd. Nis gall neb lai nag edmygu y dull hwn o drin y pwnc. Mae yma gallineb. Dadleued ac ymresymed y Tori neu yr Undebwr dirmygedig, digon ydyw i'r Ymreclwr Cymreíg ddweyd yn oraclaidd fod amser dadlen wedi pasio, ac nad yw yr oll a ddywedwyd erioed yn erbyn Ymreolaeth yn wei th treulio munyd i'w ateb ; fod y blaid erbyn heddyw wedi cyrhaedd doethineb yr ychydig broffwydi a gefnogent Ymreolaeth er's deu- ddeg mlynedd yn ol. Er mor fawreddog yr ymddeogys y " strutio " hwn ar lwyí'an y blaid fawr Ryddfrydig, nid y'm heb wybod ei fod yn hawddach gwaith o gryn dipyn nà dangos fod cynlluniau yr Ymreolwyr yn deilwng o gefnogaeth. Pa beth, tybed, yn gywir, a fyn yr Ym- reolwyr Cymreig ? " Home Rule i Gymru," " Cymru i'r Cyin- ry," ydyw'r brawddegau a ddefnyddir : ac eisieu gwybod sydd arnom beth yw eu cỳnllun yn ymarferol. Clywir rhai yn son am Senedd Genedlig i Gymru. Y senedd hon fydd i drefnu pob materion cyllidol a gwleidyddol. Bydd iddi reoíi trwyddedau o bob math, gosod trethi, benthyca arian, gwneyd deddfau yn trin eiddo personol fel eiddo tirfeddianuwyr ac eiddo corfforiaethol, fel gwaddol yr Eglwys Sefydledig neu Goleg y Bala. I bob pwrpas ymarferol bydd yn senedd gydradd â Senedd Lloegr. 0 fewn cyffiniau Cymru (gan nad p'le rnae'r cyffioiau), bydd y Seuedd Genedlig yn unigffynnonell pob trefniant a deddfwriaeth. Gellir deall Home Rule o'r fnth hyn. Rhywbeth tebyg ydyw i'r hyn a fwriadai Mr. Gladstone roddi i'r Iwerddon yn 1886, pan y trefnodd na fyddai i gynnrychiolwyr y Gwyddelod mwyach eistedd yn Senedd Lloegr. Golyga y cynllun hwn ysgariad neu annybyniaeth Cymru, ond nid annybyniaeth drwyadl chwaith, canys gofynai hyn i Gymru gymmeryd ei lle fel gwladwriaeth a chenedl yn mhlith cenedl- oedd ereill. I wneyd hyn byddai yn rhaid iddi wrth fyddin a llynges i amddiffyn ei hawliau yn ngwyneb galluoedd allanol; byddai yn rhaid iddi wrth aliu y ddeddf gartref er gweiiyddu ei deddfau—" er dial ar y drwg-weithredwyr ac er mawli'r gweith- redwyr da." Byddai i Ymreolaeth o'r natur hwn ddarostwng Cymru i sefyllfa Trefedigaethau y Goron. Nid oes eisieu treulio llawer o amser i chwiio gwallau y cynllun hwn, gan nad oea efallai un dyn mor benboeth wladgarol neu genedlgarol a medd- wl fod annybyniaeth Cymru yn nod teilwng o wleidyddwyr ym- arferol. Erbyn heddyw, mae y Gwyddelod a'r Gladstouiaid wedi addef y rhaid cadw y cynnrychiolwyr Gwyddelig yn St. Stephan wedi y rhoddir Ymreolaeth i'r Iwerddon. Yr oedd hyn, ebai Mr. Gladstone, yn 1886, uwchlaw dyfais dyn, ond y mae angenrhaid wleidyddol wedi esgor ar ddyfais ddigonol i hyn erbyn heddyw. Yr oedd mor hawdd dangos i'r gwanaf o feddyl- wyr gwleidyddol fod cynllun Home Rule, yn ol Mesur Mr. Gladstone yn 1886, yn annghysson ag undeb y Deyrnas Gyfun- ol| ac yn groes i un o bnf erthyglau ffydd Prydeinwyr, sef na