Skip to main content

jeioo „„.,,..,. pwysig! Tocyn Yswiriol "Yr üadebfr Cymreig!" ™jv"j Ölíl [&■ Gwel y Tudalen olaf. - '•" [I YR COFNODYDD ac adolygydd misol RHIF tO. HYDREF, 1890. PRIS CEINIOG. Erlid y Protestaniaid Gwyddelig, GAN Y GOLYGYDD. Ymdi>eng s ddarfod i'n hysgrif a gyhoeddasom yn ein rhifyn diweddaf gyffroi ryw bobl yn Nghymru nes peru iddynt ofyu, «• Ai gwir fod Protestaniaid yr Iwerddon yn cael eu herlid yn y dyddiau hyn gan y Pabyddion ?" Ysgrifeuodd rhyw hen frawd o Abertawe atom i ofyn ai nid fíugiaeth, neu ynte rhywbeth dy- chymygol ydoedd llythyr Mr. Hallowes o Arklow. Buasai yu dda genym allu hyspysu ein cyfaill taw chwedl neu ffug-hanes y<loedd y cyfan ; ond, ysywaeth, y mae llythyr Mr. Hallowes yn wirionedd, ac nid ydyw ei gynnwysiad ond adlun gwan o'r hyn ddyoddefir gan Brotestaniaid Arldow, heb son am Brotestaniaid ereill ydynt yn byw yn Leinster, Munster, a Connacht. Byw- sut, ni fedr, neu ni fyn pobl Cymru ddirnad yr eìyniaeih sydd yn mynwes pob gwir Babydd at Brotestaniaeth a Phrotestaniaid. Nid rhywbeth wodi tarddu allan yn ddiweddar ydyw. Y mae yn bodoli er dyddiau Martin Luther, ac ar amserau yn tori allan yn ffrydlifoedd. arswydus, gan lenwi dinasoedd a gwledydd â cbelanedd a gwaed. Yn ystod terfysg Gwyddelig 1798, dysgid y Pabyddion anwybodus a nwydwyllt gan eu hoffeiriaid, fod lladd tri Phrotestant yn drwydded sicr i'r nefoedd ! Ymosodwyd ar I Brotestariaid diniwed yr adeg hono gan eu cymmydogion Pab- yddol—pobl oeddent bob amser wedi arfer cyd-fywyn heddychol à hwynt; ac yn Siroedd Wexford a Wicldow, Uofruddiwyd can- noedd o Brotestaniaid mewn gwaed oer heb unrhyw esgus na i-heswm am hyny rhagor na'u bod yn Brotestaniaid! Fel y dy- wedodd un o weinidogion yr Annybynwyr yn yr Iwerddon wrthym, " amcan mawr y Pabyddion Gwyddelig ydyw ceisio difodi Protestaniaeth yn y wlad drwy unrhyw a phob moddion, a gyru pob Protestant allan o honi." Beiwyd llawer ar y tirfeddiannwyr Gwyddelig, yn enwedig y tirfeddiannwyr Protestanaidd, gan y wasg Barnellaidd Wyddelig a Seisnig, ac wrth reswm, yr oedd yn rhaid i'r wasg fach Bar- üellaidd Gymreig geisio eu hefelychu. Mae yn wir fod yn yr Iwerddon, fel yn Nghymru a Lloegr, lawer o dirfeddiannwyr digon diffaeth a drwg ; ond y mae, ac fe fu yno luaws o rai da hefyd—pobl yn dymuno lleshau a gwella eu deiliaid yn mhob ÿstyr. Dengys y llythyr canlynol—a ysgrifenwyd gan fonedd- iges dalentog sydd yn byw yn Nghymru er ys blynyddau meith- ìon, unig ferch tirfeddiannwr Gwyddelig—nad yw yr oll o'n dosparth hwn mor ddu ag y ceisir eu Uiwio yn y papyrau Pnr- tiellaidd. Dengys hefyd yr yspryd diefiig oedd yn bodoli yn tnynwesari y Pabyddion Gwyddelig at eu cymwynaswr Protes- tanaidd, pan yn parotoi picelli i'w ladd â'r ariau gyfranwyd Çanddo tuag at eu cadw rhag newynu ! Cyfeiriwyd y llythyr at Olygydd papyr Seisnig a elwir y Spectator, ac ymddangosodd yn ei golofnau Medi 29ain, 1890 :— " Syb,—Mae yn dda genyf ganfod fod y gwelliantau a gyflawnir *r diroedd yn yr Iwerddon gan dirfeddiannwyr a chan ddeiliaid yn bwnc sydd wedi cael ei csod yn glir gan Mr. Cooper gerbron eich darllenwyr. Gan fy mod wedi troulio y rhanfwyaf obymtheg mlyn- edd ar hugain boreu fy oes yn yr Iwerddon, a chan fod rhan naturiol o orchwylion ac ymdrechion un tirfeddiannydd Seisnigyn yrlwerdd- on wedi syrthio i mi fel ei unig ferch, yr ydwyf o angenrheidrwydd, yn y blynyddoedd diweddaf hyn, gyda theirnladau cymmysgedig o ddigrifwch a soriant, wedi darllen yr ebychiadau a'r cyhuddiadau anesponiadwy a gofnodir yn y wasg Eadicalaidd Seisnig, sef nad yw y tirfeddiannwyr Gwyddelig yn gwneuthur dim, ac fod y deiliaid Gwyddelig yn gwneyd yr holl adeiladau, dyfr-ffosydd, ffyrdd, &c, maddeuer i mi am grybwyll ychydig ffeithiau o hanes bywyd fy nhad i egluro y pwnc hwn. " Daeth Charles Cobbe o Newbridge, Sir Dublin, i feddiant o'i etifeddiaethau yn Sir Dublin, ac yn Louth, tua'r flwyddyn 1806; a chyda'r eithriad o ryw bedair blynedd, treuliodd yn Newbridge, sef hyd ei farwolanth yn 1857, yspaid o yn agos i hanner canrif. Priod- odd Saesnes o Bath, ac ar ddydd pwysig ei briodas, gadawodd ei wraig am rai oriau i'r dyben o astudio cynllun ar yr hwn yr adoilad- wyd carchar newydd Bristol. Cyfeiriwyd gan ei doulu at y peth mewn dull cellweirus am flynyddau ar ol hyny. Ei aincari ydoedd uieistroli y cynllun, er mwyii ei alluogi i gynnorthwyo ei gyd-ynadon oeddent yn gwneuthur egnion i adeiladu Carchar Ealmainharu. Oddiar yr adeg hono, am tua hannor can' mlynedd, o'r braidd yr ymgymmerwyd ag unrhyw waith cyhoeddus yn y Sir. mp,vys yspyt- tai, ffyrdd, tlotdai, cyfarfodydd yr uchel-reithwyr, y ìlys cuwarterol, &c, heb fod ganddo law a rhan egniol ynddynt. " Cafodd ei etifeddiaoth—yn mhlith poblog;:eth o agos dau cant i un filldir ysgwàr—wedi ei britho à chabanod ac annedd-dai, y rhai a adeiladwyd à llaid, a'u nenau wedi eu toi â gwellt; a blwyddyn ar ol blwyddyn, ysgubwyd y cutiau a'r cabanod ymaith, a gosodwyd tai ccrryg wedi eu toi â llechi i fyny yn ou lle, ac yn mhlith y rhai hyn, yr oedd pump o ysgolion neu ysgoldai, y rhai a gynnolid yn gyfan- gwbl ganddo ef ei hun. Gan ei bod yn syrthio i'm rhan } n aml, fel yr oeddwn yn tyfu i fyny, i dynu allan gynlhiniati o'r annodd-dai a'r masnachdai hyn, yn ogystal ag amcan-gyfrifon o'r draul ì w hadeil- adu, gellir deall mor wrthnn ac afresymol i mi ydyw darden mai y tenantiaid yn unig sydd yn gwneuthur gwelliantau yn yr iwerddon. " Ar un achlssur, gan nad oedd ganddo aria,n mevvn Uaw i wneu- thur yr holl welliantau a dtimlai yn angenrheidiol eu gwneyd ar ei eiddo yn Glenasmoil—yr hwn sydd i'w weled o'r Phcenix Park—■ penderfynodd, gyda chydsyniad ei fab, i wneuthur gwir abcrth, sef gwerthu y ddau ddarlun (painting) goreu yn ei feddiant, y rhai a baentiwyd i'w dadcu (daid) gan Pilkington, awdwr y Dictionary of Painters. Gwerthodd y ddau hyn i fasnachwr. Prynwyd un o'r darluniau, yr hwn a adnabyddid wrth yr enw " Cobbe Hobbema," gan Mr. Holford oddiwrth y masnachwr, ac y mae y darlun i'w weled yn awr yn arddangosfa Mr. Holford yn Dorchester House. Gyda'r arian a dderbyniodd am y darluniau gwerthfawr hyn, tynodd i lawr yr holl gabanod a chuthm cywilyddus oeddent i'w canfod yn y cwm hwnw, ac adeiladodd dai cerryg golygus wedi eu toi â llechi yn eu lle, ac ni chododd ddimai yn rhagor o ardreth frentj ar un o'r deil- iaid hyn, er fod eu tai wedi eu hadnewyddu. Arfereru, ar ol hyny, alw y tai hyn yn " Hobbema Cottages." Pan ddaeth y newyn â'r dwyuiyn fawr i'r wlad, nid oos angen dywcdyd i fy nhad, a phawb a berthynai iddo, lafurio cymmaint ag a fedrent ì borthi a chynnorth- wyo, nid yTn unig ei ddeiliaid ei hun, ond hefyd holl dlodion y gym- mydogaeth yn ogystal. Er hyn i gyd, darfu i un o newyddiaduron Dublin, a enwid yn onest " Y Drwgweithredwr" (Th<a FelonJ, ei arddatgan fel un ag yr oedd yn ddymunol iawn ei " bicellu ;" a darfu i rai o'n cymmydogion tlodion, y rhai yr arferwn ymweled â hwy y1 ystod y dwymyn, ac yn mhlith y rhai y rhenais ychydig arian, droS-