Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÜIOO. HysPysiad Pwysigî Tocyn Yswiriol "Yr Undebwr Cymreig!' [tâ" Gwel y Tudalen olaf. YB Undebwr Cymreig COFJSTODYDD aö ADOLYGYDD MISOL RHIF 9. MEDI, 1890. PRIS CEINIOG. Erlid y Protestaniaid Gwyddelig. GAN Y GOLYGYDD. Ychydig iawn o Brotestaniaid Cymru sydd yn gwybod fod eu brodyr Gwyddelig yn cael eu herlid gan y Pabyddion yn yr Ynys Werdd. Gellir barnu wrth glywed ambell weinidog yr Efengyl yn Nghymru yn siarad yn nghylch Pabyddion yr Iwerddon eu bod yn bobl hynod am eu hynawsedd a'u cariad brawdol, ac y byddai yn waith rhwydd iawn i gyd-grefydda achydfyw â hwynt. Nid ydym yn amheu nad oes ambell un yn ddigon anwybodusjyn mysg pregethwyr Cymru i feddwl na fyddai unrhyw wrthwyneb- iad gan rai o'r offeiriaid Pabaidd i " newid pwlpudau " à hwy. Er mwyn rhoddi cyfleusdra i'n darllenwyr i ddeall gwir sefyllfa pethau yn yr Iwerddon mewn cyssylltiad â'r dull yr ymddygir at y Protestaniaid gan y Pabyddion, ceisiwn alweu sylw atyr erled- igaeth fawr sydd yn cael eu dwyn yn mlaen yn y dyddiau hyn yn Arklow, tref fechan ar lan y môr yn WicMow. Gan fod y new- yddiaduron a'r pregethwyr Parnellaidd Cymreig yn, ac wedi llwyr anwybyddu yr hanes, drwy ofalu peidio gwneuthur unrhyw gofnodiad na chrybwylliad am dano, hyderwn y goddefir i ni roddi ychydig o'r manylion. Mae yn yr Iwerddon gymdeithas grefyddol Brotestanaidd, a elwir y Gymdeithas Efengylaidd Wyddelig (lrish Evangelisation Society), dyben yr hon ydyw danfon allan bregethwyr i'r " Prif ffyrdd a'r caeau," ac i leoedd lle y mae pobl yn byw nad ydynt byth yn cael cyfleusdra i glywed yr Efengyl yn cael ei phregethu gan Brotestant. Er fod yn yr Iwerddon luaws mawr o addoldai Protestanaidd, gwaherddir i'r bobl fyned iddynt gan yr offeiriaid Pabaidd, a hyny dan boen esgymundod. Yn Arklow, ychydig fisoedd yn ol, penderfynodd y Parch. R. C. Hallowes, ArMow ; J. Hoffe, Eilbride ; J. W. Harrison, Arklow ; tri gweinidog Es- gobyddol; a'r Parch. W. Harpur, gweinidog Wesleyaidd, Ark- low, i gynnal cyfarfodydd crefyddol yn yr awyr agored, dan nawdd y gymdeithas uchod. Prydnawn dydd Sul aethant i gym'dogaeth a elwir " Y Bysgodfan " (The Fishery), rhan isel o dref ArMow, ar lan y môr, yn cael ei phoblogi yn benaf gan bysgotwyr ; aç^ yn eu canlyn yr oedd mintai fechan o Brotestan- iaid yn cerdded dan ganu. Darfu i'r olwg ar orymdaith Brotes- tanaidd yn cerdded dan ganu hymnau am rinwedd Gwaed y Groes, gael yr un effaith ar y Pabyddion ag y mae ysgwyd cadach coch yn gael ar darw. Mor fuan ag y darfu i un o'r gweinidog- ion ddechreu y cyfarfod, rhuthrodd torf fawr o Babyddion nwyd- Wyllt ar y Protestaniaid, gan luchio Uaid, cerryg, &c, atynt; ac Udo, rhuo, ac ysgrechain fel creaduriaid cynddeiriog. Gellid dychymygu wrth edrych arnynt fod holl wallgofiaid y wlad, yn Ughyd a phreswylwyr y pwll diwaelod, wedi eu gollwng yn *hyddion ; gan fel yr oeddent yn udo, yn rhegi, ac yn melldithio y Protestaniaid. Ceisiodd Mr. Hallowes a Mr. Harrison dawelu ychydig amynt, ond yn ofer ; ac ar ol canu tair hymn, a darllen rhan o'r Ysgrythyr, gorfu i'r Protestaniaid ymgilio. Oud nid cynt y gwuaethant hyny nag y rhuthrwyd arnynt gan droschwe' chant o'r weriuos anwybodus. Canlynwyd hwyut ganddyut ar hyd yr ystrydoedd, a tharawyd Mr. Harrison a charreg ; ac oni bai i'r heddgeidwaid ddyfod allan gyda'u gilydd i rwystro y dorf Babyddol, mae yn fwy na thebyg y buasai y canlyniadau yn ddi- frifol. Er i'r ymosodiad bawaidd hwn i gael ei wneyd arnynt, ni ddi- galouwyd y fiutai fechan Brotestanaidd. Credent eu bod mewn gwlad rydd, ac na ddarfu iddynt wneyd dim ond ufuddhau i orchymyn eu Harglwydd. Peuderfynasant fyned i'r un lle y Sabboth canlynol a'r Sabbothau dylynol; ac yn hytrach na cheisio rhoddi desgrifiad o'r hyn gymmerodd le, cyhoeddwn y cyfieithad canlynol o lythyr a ysgrifeuwyd gan Mr. Hallowes ei hun :— " BAIìLYBAINE, Arklow, " 23ain Awst, 1890. "AnwylSyh,—Derbyniais eich llythyr yn amserol, ond gan fy mod yn brysur ar y pryd rhoddais ef o'r neilldu, gan obeithio cael adeg mwy cyfaddas i'w ateb. Ceisiaf yn awr i roddi i chwi ychydig o hanes ein helbulon. " O herwydd fod ymddygiadau y Pabyddion mor dreisiol, a'u bod mor benderfynol i wneyd ymosodiadau personol i'r dyben i'n niweid- io, gorfu i'r awdurdodau gael 200 o heddgeidwaid i'r dref i'n ham- ddiffyn, ac am y chwech Sabboth diweddaf buom dan eu hamddiffyn- iad. Bygythir fy mywyd ar hyd ystrydoedd y dref fechan h«n hyd y nod yn ystod dyddiau yr wythnos. Mae dau o heddgeidwaid areu dyledswydd bob rhyw gan' llath, ac nid ydynt byth yn gadael i mi fyned alian o'u golwg, pan y byddaf yn myned oddiamgylch ar fy nyledswyddau gweinidogaethol. Dirmygir fi yn y dull mwyaf di- gywilydd, a chyhuddir fì o gyflawnu pechodau gwarthus. Gwaeddir ar fy ol, a phan y byddaf ar fy ffordd i'm tŷ, pa un, fel y gwyddoch sydd ychydig bellder oddiwrth y dref, bydd pump neu chwech o heddgeidwaid yn fy nghanlyn. " Pa bryd y gwna y rhai hyny a ddywedant eu bod yn credu yn, ac yn caru y Gwaredwr agor eu llygaid ? Dylai fod cywilydd ar bobl Lloegr a Chymru, y rhai a alwant eu hunain yn Brotestaniaid, am. droi eu cefnau arnom, a chredu y rhai a elwir yn Genelwyr (Nationalists). Ni fyddai yn bossibl i chwi dderbyn gwaeth na chyn- ddrwg triniaeth oddiwrth baganiaid ; ac etto mae y Pabyddion sydd yn ymffrostio yn eu sel a'u ffydd, yn taflu atom yr iaith fwyaf aflan a chableddus, pryd bynag y beiddiwn sefyll ar y Sabboth i ddarllen Gair Duw, rhoddi anerchiad Efengylaidd, a chanu hymnau ! " Gallaf hefyd ychwanegu fod pob ymdrech yn cael ei gwneyd i andwyo y masnachwyr Protestanaidd. Boycottir hwynt yn y modd mwyaf creulawn, yn unig am fod y cyfarfodydd crefyddol hyn yn cael eu cynnal. Gallaf eich sicrhau na fedrwch sylweddoli yn briodol yr hyn ddy wedais wrthych heb fod yn llygad-dyst o'r hyn sydd wedi, ac yn cymmeryd Ue yma. Esgusodwch y llythyr hwn a ysgrifenwyd mewu brys mawr. " Yr eiddoch yn wir, "ElCHARD C HALLOWES." "H. T. Evans, Ysw." Ychydig wythnosau yn ol, ar brydnawn Ddydd Sul, buom am dro dros Hampstead Heath, yn Llundain. Gwelsom yno o leiaf hanner dwsin o gynnulleidfaoedd bychaiu yn sefyll, gan