Skip to main content

■P100 Hyspysiad Pwysig í Tocyn Yswiriol" Yr ündebwr Cymreig!" oU lvvi riS- Gwel y Tudalen olaf. pgr Gwel y YR Undebwr Cymreig COFNODYDD ac ADOLYGYDD MISOL RHIF 8. AWST, 1890, PRIS CEINIOG. Y diweddar Mr, David Davies, Llandinam. GAN Y GOLYGYDD. Nid yn aml yr ymaiìsom yn ein hysgrifell gyda theimladau mor drist a hiraethlawD i geisio gwneyd ychydig gofnodion am un oedd mor adnabyddus ac auwyl yn mysg ei gydwladwyr a'r diweddar Mr. David Davies, Llandinam. Er na chymmerodd ei farwolaeth le yn an- nysgwyliadwy, achosodd y newydd am y dygwyddiad gofidus deimladau o drymder a galar cyffredinol drwy yr holl Dywysogaeth. Yr oedd yn amlwg er ys cryn amser fod iechyd Mr. Davie8 wedi pallu, ac er ys rhai wyth- nosau, yr oedd ei bertliynasau a'i gyf- eillion agosaf ac anwylaf yn ymwy- bodol fod awr ei ymddatodiad gerllaw. Gwnaeth rhai o feddygon penaf Cymru a Lloegr bob peth oedd yn eu gallu er gwrthweitbio yr afiechyd ddarfu ddi- nystrio eigyfansoddiad iach achadarn; ond methiant fu pob ymdrech, tyner- wch, gofal, a medrusrwydd, ac oddeutu 4 o'r gloch prydnawn dydd Sul, Gorphenaf 20fed, bu farw yn ei bres- Wylfod, Broneirion, Llandinam, yn 71 mlwydd oed. Ganwyd Mr. Davies mewn lle bychan o'r enw Draintewion, sydd yn sefyll ar lethr y dyffryn, tua milldir i'r De-Ddwyrain o Landinam, ar y 18fed o Ragfyr, 1818—" Tri 18," fel y dy- Wedai yn aml. Efe oedd yr hynaf o Wyth o blant. Yr oedd ei dad yn dylyn ei alwedigaeth fel llifiwr yn gystal a gweithio ar ei dyddyn. Prynai goed, ac ar ol eu llifio yn estyll, gwerthai hwynt. Cafodd Dafydd hyny o fantais ag a fedrai gael yn yr ysgol a gedwid yn hen Eg- Iwys Llandinam—yr unig ysgol yn y gymmydogaeth,—hyd nes yr oedd yn 10 oed, a dyna, mae yn debyg, yr holl addysg dder- byniodd, gyda'r eithriad o'r hyn fedrodd ddysgu ei hun yu Mhrif Yegol fawr Profìad. Bu raid iddo aros gartref i gynnorthwyo ei íieni gyda gwaith y tyddyn, a'r llifìo; a diau na fu rhagorach amaethwr na llifíwr yn Nghymru erioed. 0 Draintewion symmudodd y teulu i dyddyn mwy—Neuadd- fach ; lle rhagorach oddeutu milldir i gyfeiriad Llanidloes o Landinam. Yn fuan iawn cynuyddodd y fasnach goed, a gwerthai y tad a'r mab lawer o estyll derw drwy yr holl wlad. Dywedodd From a Photograph by Mr. W. Briggs, Baher St., London Mr. Davies wrthym iddo fyned unwaith am dro i Aberystwyth, a sylwi fod y bobl oedd yn byw yn y tai goreu yno yn bur hoff o ddodrefn derw. Daeth y syniad i'w feddwl yn uniongyrchol fod yno le dai werthu estyll derw ; ac yr oedd yn iawn. Prynodd goed yn Sir Drefaldwyn—un o'r siroedd mwyaf euwog yu Nghy- mru am ei derw—llifiodd hwynt, a gwerthodd yr estyll yn Aber- ystwyth. Hon ydoedd ei anturiaeth gyntaf, a gwnaeth lawer o arian oddiwrthi,—yr arian cyntaf gynnilodd, meddai efe. Pan oedd haul llwyddiant fel yu dechreu gwenu ar y teulu, daeth cwmmwl tywyll du dros ei ffurfafen. Bu y tad farw, a gadawyd Dafydd yn amddifad pan yn ugaiu oed, gyda theulu o fam weddw, tri brawd, a pbedair chwa«r i ddybynu arno. Medrai weithio, a thrwy ei fod yn ddyn ieuanc cryf a sobr, o gymmeriad gloew, ao o deimladau tyner, bu yr amgylchiad pruddaidd hwn \n foddion i'w sym- bylu i wneyd mwy o ddefnydd o'r galluoedd fu yn nodweddu ei fywyd wedi hyny ; 8ef craffineb, yni, pender- fyniad, gwoithgarwch, a dyfalbarhad; a thrwy ei l'od yn uuddu y fatli yspryd auturiaethus ond gwyliadwrus, ac yn cael ei lywodraethu gan egwyddor gywir a gonest, llwyddodd pob antur- iaeth o'i eiddo, gwenodd Bhagluniaeth ar ei holl ymdrechion, ac yn fuan iawn decbreuodd gasglu cyfoeth. Ond nid casglu cyfoeth fel y bydd hen gybydd- ion yu gwueyd, sef trwy gadw pob ceiniog, yr oedd efe. Credai yn gryf mewn cyfrauu at bob achos da, a'i brofiad oedd mai po mwyaf a roddai mwyaf a dderbyniai. Yn y flwyddyu 1848, cymmerodd Mr. Davies fferm fwy, sef Tynymaen, ger Llandinam, ac yn mheu rhyw ddwy fiyuedd drachefu cymmerodd un aralJ ati, sef Gwererin, yr lion a saif ar yr ochr arall i'r afon Hafreu. Ad- roddai Mr. Davies amgylchiad ddyg- wyddodd iddo tua'r adeg hon. Un diwrnod aeth i arwerthiant Jle yr oedd nifer fawr o wartheg yn cael eu gwerthu. Gan fod arno eisieu amryw dechreuodd gyunyg yn bur fywiog. Yr arwerthwr a daflai gil ei lygad arno, ac wrth ei weled yn edrych mor gyífre- din ei wisg, a ofynodd iddo mewn llais go uchel, " Pa le mae eich meichiau ?" Tynodd Mr. Davies hen bwrs mawr, garw, ond llawn, o'i logell, a chan ei ysgwyd, gwaeddodd, «* Ewcli yn mlaen ! Dytna'r meichiau !" Wrth reswm, tarawyd pob peth iddo ag a ddymuuai gael; ac ni auughofìoud yr arwerthwr ei wyneb ar ol hyny. Parhaodd i ddylyn ei alwedigaeth fel llifiwr a masnachwr coed; a phan yn byw yn Gwernerio de- chrcuodd ar y gwaith o wneyd ffyrdd. Y gwaith cyntaf gym- merodd o'r natur hwn ydoedd gwneyd y ffordd sydd rhwng