Skip to main content

JBIOO. Hyspysiad PwysigT Tocyn Yswiriol " Yr ündebwr Cymreíg!" 13?" Gwel y Tudalen olaf. YR Undebwr Cymreig COFNODYDD ac ADOLYGYDD MISOL RHIF 6. MEHEFIN, Í890. PRIS CEINIOG. Mr. Gladstone a Dadgyssylltiad. GAN Y GOLYGYDD. Bu newyddiaduron Gladstonaidd y Dywysogaeth am rai blyn- yddau yn ceisio argyhoeddi eu darllenwyr fod Mr. Gladstone yn bleidiol i Ddadgyssylltiad yr Eglwys yn Nghymru, ac nad oedd eisieu ond ei roddi mewn awdurdod unwaith etto er dwyn hyn oddiamgylch. Llwyddasant i gael gan agos holl weinidogion Annghydffurfiol Cymru i gredu hyny. Gwir fod rhai yn amheu y petb, ond rhyw bobl go ryfedd ydoedd y rhai hyny — pobl feiddient feddwl, baruu, a phwyso pethau yn ngoleuni ffeithiau yn hytrach nag yn ngoleuni haeriadau disail y Wasg Gladstonaidd Gymreig. Edrychid arnynt gyda gwg, «c wrth reswm, gelwid hwy yn " üoriaid " neu yn «' Un- debwyr," a chyngborid blaenoriaid yr eglwysi Aurjghydffurfiol i'w boycottio dan yr esgus taw pregethwyr diddawn a didalent oeddent, &c. Pa fodd bynag, yn ystod yr etholiad diweddar yn MwrdeÌ8drefi Arfon, codwyd y- pwnc i sylw gan y Parch. Evan Jones, gweinidog talentog a pharchus perthynol i'r Methodist- iaid Calfinaidd yn Nghaernarfon. Achosodd hyny dipyn o gyn- hwrf yn ngwersyll y " Blaid Ryddfrydig," ac er mwyn ceisio lleddfu ychydig ar eu gofid, aeth tyrfa o bererinion o Fwrdeis- drefi Arfou i Benarlag gyda'r bwriad i fytiu cael rhyw ddatgan- iad pendaot gan Mr. Gladstone o'i fwriadau mewn perthynas i Ddadgyssylltiad. Wele y cynghor gawsant ganddo :— " Yn awr, y mae genym i edrych yn mlaen ychydig. Nid oes ond un peth a all, trwy unrhyw bossiblrwydd, yn fy marn I, wneyd niwed ì ni; a hyny yw, annghytundeb yn ein plith ein hunain. Y mae yn ddiddadl fod cydyrndrech mawr iawn a difrifol yn mysg cwestiynau gwahanol sydd yn dylanwadu yn bwysig ar y bobl, ac yn neillduol yn effeithio ar un dosparth o'r wlad neu ar y llall. Wel, foneddigion, öis gallaf eich cynghori yn yr amgylchiadau hyny, ond i fod yn amyneddgar ac yn ymarhous. Gellwch fod yn eithaf sicr y bydd fhan fawr o ddirgelwch ein nerth yn gorwedd mewn bod yn amyn- eddgar, yn hir ymarhous, ac mewn tuedd i farnu yn rhesymol ein hawliau neillduol ein huuain wrth eu cymharu â hawliau cyffredinol y deyrnas. Y ffaith yw hon, y mae gwaith y senedd yn ddyehryn- ílyd ar ol. Yr hyn sydd yn ei gadw felly ydyw yr Iwerddon. Y funyd y ceir yr Iwerddon o'r ffordd, bydd yr anhawsder hwnw yn newid ei ffurf yn gwbl, a dygir ef o fewn terfynau hynod fychain. Nid wyf yn petruso dweyd hyn—y bydd awdurdod yn cael ei roddi i gyrff lleol, ac y bydd angenion a hawliau lleol Cymru ac Ysgotland yn cael sylw. Yr wyf yn siarad fel hyn am eich bod chwi yma. Pe buasai nifer o Ysgotiaid yma, buaswn yn dweyd Ysgotland a Chymru. Gellwch ymddiried i hyn—pa beth bynag ydyw manteision neillduol Cyuiru, pa beth bynag ydyw manteision neillduol Ysgotland, pa beth bynag ydyw manteision neillduol sir Gaerefrog, a pha beth bynag ydyw manteision neillduol y Gogledd a'r Deheu, y mae un Peth gauddyut sydd yn taflu y cwbl i'r cysgod; a hyny ydyw, cael yr Iwerddon o'r ffordd." Wele farn y Faner am ddydd Mercher, Mehefin y 4ydd, am y dyfyniad uchod o araeth Mr. GladstoDe :— " Dyma'r hen gynghor yn cael ei adgyfodi etto—fod eisieu amyn- edd, hir-ymaros, a theimlad o hawliau rhanau ereill o'r deyrnas! Yr ydym wedi clywed hyn lawer gwaith, bellach; ac wedi llwyr flino arno erbyn hyn. Yr ydym yn llwyr gredu ein bod, trwy ein gweith- redoedd, wedi arddangos yspryd hynod o amyneddgar, a'n bod hefyd yn feddiannol ar y rhinweddau ereill a argymhella efe arnom. Nis gall neb, hyd y nod o gyfeillion mwyaf niynwesol Mr. Gladstone, wadu hyn am foment. Ÿr ydym wedi aros hyd yn hyn heb unrhyw ddatganiad eglur o fwriadau Mr. Gladstone ar gwestiwn yr Eglwys— heb unrhyw sicrwydd o gwbl fod hwn yn gwestiwa y mae Mr. Glad- stone yn ddifrifol yn bwriadu ei gymmeryd mewn llaw ei hun—heb un datganiad pendant gandtlo y dylid ei gymmeryd felly yn ddioed ar i Ymreolaeth i'r Iwerddon gael ei benderfynu—ac heb unrhyw wybodaeth pa un a fydd hwn yn un o'r mesurau y bydd cynnrychiol- wyr yr Iwerddon yn cael pleidleisio arno wedi iddynt gael trin achos- ion yr Iwerddon mewn senedd yn Dublin. Dyma ' amynedd, a hir- ymaros, ar ystyriaeth o hawliau ereill'—a hyny yn y tywyllwch !— nas gall un rhan arall o'r deyrnas ymffrostio yn ei gyffelyb! "Ẅedi aros cyhyd, a phrofi trwy weithredoedd diymwad ein bod fel cenedl yn ffyddlonaeh i'r blaid Ryddfrydig nag unrhyw ran arall o'r deyrnas; a chyda hyny, fod genym hyder mawr yn ein harwein- ydd, yr ydym yn synu at dri pheth. Yn gyntaf, na ddatganodd Mr. Gladstone ei gydnabyddiaeth o'r 'aniynedd" a ddangoswyd gan y genedl Gymreig hyd yn hyn ; ac na roddodd efe unrhyw hyspys- rwydd ynghylch ei fwriadau yn y dyfodol gyda golwg ar Ddadsef- ydliad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru ; a chyda hyny, ei fod yn galw arnorn etto i fod yn amyneddgar. Er cymmaint ydyw ein parch i Mr. Gladstone, yr ydym yn merìdwl y dylasai, y tro hwn, yn enwedig, gan ei fod yn gwybod fod teimlad anesmwyth yn bodoli yn ein mysg—y dylasai, meddwn, egluro ei fwriadau. Sylfaen ' amynedd ' ydyw 'ffydd,' a sylfaen ' ffydd' ydyw 'tystiolaeth wir.' Nid ydyw hyd yn oed yr Anfeidrol yn disgwyl i'w bobl fod yn amyneddgar ond dan yr ammodau hyn. Ond pa dystiolaeth eglur a diamwys sydd genym ni o eiddo Mr. Gladstone o'i fwriadau gyda golwg ar ' Eglwys Loegr yn Nghymru P' Nid mater o gyfleusdra a theimlad ydyw hwn i ni mewn un modd. Nage ! Y niao Dadsef- ydliad a Dadwaddoliad hon yn fater o ' egwyddor' gan filoedd lawer o etholwyr y Dywysogaeth ! Caiff y deyrnas weled hyn yn eglurach etto yn fuan, pa beth bynag a ddaw o Fesur Degwm y llywodraeth! ac yr ydym yn teimlo yn llawer niwy angerddol o'iblaid nagyr ydym dros estyn Ymreolaeth i'r Iwerddon. Ond pleidiasom Ymreolaeth, ac ymfoddlonasom i roddi y llo cyntaf iddo, o barch i farn Mr. Glad- stone yn unig—heb dderbyn unrhyw sicrwydd eifodam daflu ei holl ddylanwad o blaid Dadsefydliad a Dadwaddoliad ' yr Estrones yn Nghymru.' Ac etto, er hyn i gyd, gofynir i ni etto ymdawelu—amy rheswm fod pwngc y Gwyddelod yn ' blocio' y ffordd, heb roi cym- maint ag addewid y bydd i'n cerbyd ninnau gael ei gosod arni yn nesaf. Dyma sydcí arnom eisieu ei gael; a dyma sydd raid i ethol- wyr Cymru gael ei wybod hefyd, os ydyw Mr. Gladstone am gadw y Dywysogaeth mor ffyddlawn iddo yn yr etholiad nesaf ag y bu yn yr etholiadau blaenorol. " Cyffyrddodd Mr. Gladstone â Chymru ac âg Ysgotland, mae'n wir, yn ei anerchiad ddydd Iau; ond ni ddywedodd ddim y gellid cael gafael ynddo ynglŷn âg achosion ein gwlad ni. Y cwbl a gawsom, meddwn etto, oedd cynghor i fod yn arnyneddgar ! " Yr ydym wedi derbyn ei gynghor am flynyddoedd, ac wedi anfon mwyafrif mawr o gynnryohiolwyr o blaid Yinreolaeth i'r senedd. Yr ydym, gyda hyny, wedi anfon mwyafrif mawr o blaid Dadsefydliad a Dadwaddoliad yr Eglwys i'r senedd ; a thrwy hyny, wedi gweithredu ar amneidiau a roddodd efe flynyddoedd yn ol, mai y ffordd i wthio hawliau y Dywysogaeth ar y senedd oedd anfon mwyafrif o gyn- nrychiolwyr pleidiol i'r cyfnewid hwn. Ond pa beth, attolwg, ymae