Skip to main content

YR Undebwr Ctmreig COFNODYDD ac ADOLYGYDD MISOL RHIF 4. EBRILL, 1890. PRIS CEINIOG. Y Weinyddiaeth Undebol ac Addysg Gymreig. Ychydig flynyddau yn ol, sefydlwyd Cyradeithas, yn benaf drwy ymdrechion y diweddar Mr. Dan Isaac Davies, B.Sc, un o Arolygwyr Ysgolion ei Mawrhydi, er rhoddi chwareu teg i'r Gymraeg yn yr Ysgolion Elfenol, hyny yw, er mwyn rhoddi caniatad i'r ysgolfeistr i'w defnyddio fel cyfrwng i ddysgu Saes- öeg i'r plant. Gwnaethpwyd llawer cynnyg gan wahanol ber- sonau, o bryd i bryd, i geisio llacio ychydig ar y cylyraau trymion drwy y rhai y rhwymid plant Cymru i ddysgu iaith y Sais ; ond yr oedd y llinyn coch yn rhy anhawdd i'w ddattod. Tua dwy flynedd-ar-bymtheg yn ol, gwnaeth dau ysgolfeistr yn ardal Aberteifi gais taer, drwy y diweddar Mr. Evan Mathew Bichards, yr Aelod Seneddol dros Geredigion y pryd hwnw, at Arglwydd Aberdar, Prif Arglwydd y Cynghor Addysg, i ddymuno arno i ganiatau ychydig o fantais i blant Cymru rhagor plant Lloegr mewn cyssylîtiad à darllen a sillebu Saesneg. Gofynwyd yn garedig iddo ganiatau i un llyfr wneyd y tro yn lle dau i blant y Bafónau isaf, ac fod rhyddid i gael ei roddi iddynt i ddefnyddio geirian Cymreig i esponio geiriau Seisnig. Er fod Arglwydd Aberdar yn aelod o Weinyddiaeth Byddfrydig, gwrthododd yn bendant i wneyd dim rhagor na chaniatau i blant Cymreig roddi gair Cymreig yn lle un Seisnig wrth esponio ystyron y geiriau a ddarllenid ganddynt. Yn ol ei farn nnffneledig ef a'i gydwein- idogion Bhyddfrydig, yr oedd yn Uawn mor rhwydd i blant tlodiony Dywysogaeth—plant na fedrent siarad hanner dwsin o eiriau Seisnig—i ddarllen llyfran. Seisnig, ac i esponio geiriau íSeisnig, ag ydoedd i blant Lloegr wneyd hyny ! Mewn cydsyniad â chais y gymdeithas hon a gamenwir yn " Gymdeithas yr Iaith Gymraeg," yn lle " Cymdeithas y Gym- raeg," darfu i'r Cynghor Addysg, tua dwy flynedd yn ol, gan- ìatau mesur helaeth o ryddid i ysgolion ac ysgolfeistri Cymru, ac eleni, mae y Cynghor wedi caniatau holl ofynion y gym- deithas l Er i brif bapyrau Cymreig y Dywysogaeth gyhoeddi darpariaethau diwygiedig Trefnlen Addysg Newydd 1890, ni ddarfu i un o honynt gymmaint a chydnabod fod y Weinydd- ìaeth Undebol bresenol wedi caniatau yr hyn wrthodwyd gan tyeinyddiaeth Mr. Gladstone. Ein dyledswydd ydyw talu parch ì*r sawl y mae parch yn Hdyledus. a rhoddi clod i'r sawl sydd yn haeddu clod ; oud yraddençys fod dallineb a rhagfarn papyrau Gladstonaidd Cymru mor fawr, ac mor gryf, fel tia fedrnnt wneyd dim ond moli Mr. Gladstone, na gweled nnrhyw deilvug- dod na daioni mewn dim ond yr hyn gynnyrchiryn Mheuarlag ! Ac nid y papyrau Gladstonaidd Cymreig ydyw yr unig bechaduriaid yn y cvfeiriad hwn. Drwg genym orfod cyhoeddi fod Mr. B. Gwynfe Evans, yssrifenydd cytìogedig " Cymdeithas yr Iaith Gymraeg" isic), yn lle dangos ei ddiolchgarwch i'r Weinyddiaeth Uudebol am ei rhyd ifrydedd, yn defnyddio y frawddeg ganlynol yn ei adroddiad i'r newyddiadnron o dlarpar- iaethau ÿDrefnlen Newydd, 1890 :—" Felly, mae Cym leithas yr laith Gymraeg (nc) wedi ennill bnddugoliaeth lwyr can belled ag y mae a fyno â'r Llywodraeth." Yn lle derbyn y peth yn ddiolchgar fel ffafr, rhaid i Mr. Evans siarad am dauo fel " buddugoliaeth lwyr can belled ag y mae a fyno à'r Llywod- raeth!" Gwyddom fod Mr. Evans yn un o olygydìion y South Wales Daily News, ac fel y cyfryw, gallwn oddef iddo ddywedyd y peth a fyno yn ngholofnau y papyr Parnellaidd hwnw; ond yn ei gymmeriad o Ysgrifenydd Cymdeithas y Gymraeg, dylasai gweddeidd-dra a gonestrwydd ei gyfarwyddo i ymddwyn yn wa- hanol. Mae yn mysg cefnogwyr y gymdeithas Geidwadwyr, Bhyddfrydwyr Undebol, a Gladstoniaid, a dyledswydd y gwr sydd yn eu gwasanaethu fel ysgrifenydd cyflogedig ydyw siarnd yn barchus am y naill blaid fel y llall. Yn lle hyny, ceisia Mr. Evans roddi hergwd i'r Llywodraeth bresenol, drwy alw y ffafr a dderbyniodd Cymru oddiwrthi yn "fuddugoliaeth lwyr!'' Ceisia ei diraddio a'i darostwng er mwyn dyrchafu tipyn ar Mr. Gladstone, mae yn debyg! " Buddugoliaeth lwyr can belled ag y mae a fyno â'r Llywodraeth " yn wir! Pe dywedasai Mr. Evans fod y gymdeithas wedi cael " buddugoliaeth lwyr " ar y Mri. Gladstone, Mundella, & Co., buasai yn agos i'w le. A fydd efe mor garedig a hyspysu ein darllenwyr pa fendithion cys- sylltiedig ag addysg elfenol dderbyniodd Cymru yn arbenigol oddiwrth y Blaid Gladstonaidd ? Wele grynodeb byr o'r breint- iau ganiatawyd gan y Weinyddiaeth bresenol yn ngeiriau Mr. Evans ei hun :— " Y mae yr Adran Addysg newydd gyhoeddi y code newydd am 1890, oddiwrth yr hyn y gwelir fod trefniadau neillduol yn cael eu gwneyd o barthed i ddefnyddiad yr iaith Gymraeg yn yr ysgolion dyddiol. I'w gosod yn fyr caniateir y pethau canlynol: — 1. Gellir dysgu grammadeg Cymraeg fel testyn arbenig yn safonau V., VI., VII., a cheir tâl gan y Llywodraeth o bedwar swllt am bob plentyn ä yn llwyddiannus drwy yr arboliad. 2. Yn lle y cynllun presenol o ddysgu grammadeg Seisneg, cania- teir cynllun o gyfieithadau graddoledig o'r Gymraeg i'r Seisneg, yn mhob dosparth drwy yr ysgol. Bydd hyn yn appelioynuniongyrchol at reswm a deall y plentyn, yn lle yraddybynu ar y cof yn unig, ac niewn eflfaith yn cynnwys dysgu Cymraeg a Seisneg yn rheolaidd ochr yn ocbr, a cheir tâl o ddau swllt y pen ar gyfartaledd yr holl ysgolos bydd yr arholiad yn foddhaol. 3. Yn mhob safon ac i bob testyn ddysgir yn yr ysgol, gellir def- nyddio llyfrau dwy-ieithog; gall y copiau ysgrifenu gynnwys ar- wyddeiriau Cymreig, gyda'u cyfieithiadau Seisneg, i'r plant eu hys- grifenu ; gall tonau Cyrareig, gyda geiriau Cymreig neu Seisnig, gael eu dysgu i'r plant, a cheir tâl o swllt y pen ar gyfartaledd yr noll ysgol os bydd y canu yn foddhaol. 4. Gellir dysgu daearyddiaeth Cymru i fyny hyd Safon III., a hanes Cymru drwy yr holl ysgol, trwy gyfrwng ìlyfrau Cymraeg a Seisneg, a cheir tàl o ddau swllt y pen ar gyfartnledd yr holl ysgol am bob uu o'r ddau destyn uchod os bydd yr arholiad yn foddhaol. 5. Gall ysgolion fydd yn cymmeryd Cymraeg fel testyn dosparthol (gwel rhif 2) hawlio hefyd i osod cyfieithu o'r Gymraeg i'r Seisneg yn y safonau uchod, a thrwy hyny siorhau mantais ychwanegol. 6. Yn olaf, gall yr ysgolion bychain gwledig sydd mor lluosog yn y Dywysogaeth, ac yn y rhaifel rheol uad oes ondychydigoatbraw- on, ail drefnu yr ysgol at ddybeniou dosparthol, i dri dosparth yn lle saith safon; er enghraifft, gellir trefnu y safoimu fel hyn:—Dospartli 1, Safonau L, II.; Dosparth 2, Safon Iíl.; Dospaith3, SafouauIV., V., VI., VII. Bydd hyn yn ysgafnhad pwysig i athrawon yn yr ysgolion hyny.