Skip to main content

: .. YK Undebwr Cymreig COFNODYDD ac ADOLYGYDD MISOL RHIP 3. MAWRTH, 1890. PRIS CEINIOG. Yr AnfFyddwr a'r Pabydd ar Addysg Rydd. [Ysgrifenwyà yrerthygl ganlynol gan Annghydffurfiwr Cymreigad- nabyddus. Gwell ganddo beidio rhoddi ei enw wrthi am y rheswm ei fod wedi cael ei hanner foycottio eisoes.—Gol.] Y mae cryn lawer o ddadleu wedi bod o bryd i bryd, ac yn bod, ar yr hyn a elwir Addysg Rydd. O'r braidd y mae eisieu adgofio y darllenydd mai tad y meddylddrych hwn, yn ei gyssylltiad â'r Ymherodraeth Brydeinig, ydyw y Gwir Anrhydeddus Joseph Chamberlain, A.S. Nid rhyfedd ei fod ef yn ddyn y werin, gan öaai ei amcan yn wastadol (cyn cael ei ethol gan bobl oleuedig a Rhyddfrydig dinas fawr Birmingham i'w cynnrychioli yn y Senedd, ac uediei ethol,) yw cynllunio mesurau daionusi'r bobi, sefyll yn wrol wrthynt, a goleuo ei gydwladwyr yn eu cylch. Fe gofia y darllenydd ddarfod i Mr. Chamberlain draddodi amryw areithiau ac anerchion ar wahanol bynciau mewn amryw fanau yu Lloegr yu misoedd diweddaf y flwyddyn 1885. Yn mysg amrywiol bethau da a ddymunai eu cael er llesoli y werin, sylw- odd yn neillduol a siaradodd yn helaeth ac eglur ar y pwnc o Addysg Rydd. Nid rhyfedd fod hyn wrth fodd calon y lluaws. Yr oedd gweithwyr a thlodion y deyrnas yn cydlawenhau yn y gobaith o weled y meddylddrych godidog hwn yn cael ei ddwyn oddiamgylch, yn nghyd à materion dyddorol ereill y traethai efe mor rhagorol arnynt. Ond, ysywaeth, nid oedd y pwnc hwn, yn nghyd â rhai pynciau ereill, wrth fodd yr hwn oedd Brif Weinidog ar y pryd. Gelwir y mesurau daionus hyny y dymunai Mv. Chamberlain a'r bobl eu gweled ar ddeddf-lyfrau y wlad gan y lluaws, " Y Rhaglen Anawdurdodol." Y mae y Demosthenes o Birmingham yn gwylio pob cyfie i hyrwyddo yr amcan mawr o gael Addysg ìiydd i'r bobl. Ceisia hwn a'r llall guro tipyn ar y llwyni yn awr ac eilwaith oddiar hyny; a dylid cydnabod hefyd fod dosparth mawr o'r adran hono o'r Blaid Ysgarol a elwir y Blaid Gladstonaidd, yn cymmeryd dyddordeb yn y pwnc o Addysg Rydd. Nid ydym yn dywedyd fod eu pennaeth wedi cymmeryd y meddylddrych i fyny. Dichon nad yw o nemawr bwys pa un a ydyw neu nad yw, nac ychwaith o nemawr bwys a ydyw ai oad yw y blaid fain Ysgarol hon yn unfrydol ar y pwnc hwn ; Ond dyledus yw cydnabod fod y blaid wrou-addolgar hon, trwy íwbio Uygaid eu gilydd, yn graddol ddyfod i weled a gwerthfawr- Ogi goleuni llachar Haul y Bobl. Fe ofala yr haul hwn, yn ei gylchdro o amgylch cymdeithas, roddi y fendith o Addysg Rydd yn ei amser priodol i dlodion a gweithwyr Prydain Fawr, beb Ûdiolch llawer am gymhorth y blaid fain, na cbymhorth yr hyn- afgwr sydd wedi gosod cymmaint o hynodrwydd arno ei hun yn ei henaint drwy rwystro y wlad, hyd ag y medr, i gael deddfau àaionus. Dymunir sylw y darllenydd mewn modd arbenig at yr hyn a lefarwyd ar y mater hwn gan Anffyddwr a Phabydd yn Nhy y Cyffredin prydnawn Chwefror yr 21ain. Gosodwn y dyfyniadau yn Saesneg ac yn Gymraeg, ac yna ni chaiff neb le i'n beio na'n oyhuddo o wneyd cam â'r geiriau. Cofìer fod yr Anffyddwr yn siarad ar ran y Gladstoniaid, a'r Pabydd ar ran y Parnelliaid. Mr. John Morley a siaradai fel y canlyn :—" Our position I think is this, that when a school is intended for all, it should be man- aged by the representatives of the whole community. Where, on the other hand, the school claims to be for the use of a section of the community, as, for example, the Catholics or the Jews, it may continue to receive public support as long as it is under the management of that sect." Mr. Sexton eaid, " I accept the declaration which allows us to maintain the principle that when a school is under the management of persons of a particular creed, it may still remain under that management after the system of free education has been adopted." Wele y dyfyniadau yn Gymraeg:—" Ein safie, yr wyf yn meddwl, yw hyn, pan fyddo ysgol yn cael ei bwriadu i bawb, y dylai gael ei rheoli gan gynnrychiolwyr yr holl wladwriaeth ; tra, ar y llaw arall, panfyddo ysgol yn hawlio bod at wasanaeth adran o'r wladwr- iaeth, megys, er esiampl, y Pabyddion neu yr luddewon, y gallai barìiau i ddeìbyn cymhorthoddiwrth y cyhoedd, cyhyd ag y bydd dan reoliad y cyfryw,enwad." Dywedodd Mr. Sextou, " Yr wyf yn derbyn y datganiad sydd yn caniatau i ni gadw yr egwyddor houo, sef, pan fyddo ysgol dan reoliad personau o gredo neill- duol, y caiff barhau dan reoliad y cyfryw bersonau ar ol i'r gyf- undrefn o addysg rydd gael ei mabwysiadu." Onid oes nyth glyd a chynhes yn ngeiriau y Pabydd mewn atebiad i'r geiriau ydym wedi osod mewu llythyrenau Italaidd ? " Wele i chwi, y Pabyddion, ysgìyfaeth ragorol,' meddai yr Anffyddwr. " Yn sicr," meddai y Pabydd, " y mae yu dder- byniol iawn." Yn awr, ddarllenydd ystyriol, pa beth a ddywedi yn ngwyneb y petbau hyn ? Gan fod Mr. Morley wedi siarad ar ran y Glad- stoniaid, ouid yw yn ymddaugos fod y blaid faiu hon, i ryw ddybenion neillduol, wedi ymostwng o'r diwedd i gusanu bawd y Pab ? Nid oes raid wrth ddeonglydd i'n goLuo yu nghylch y rheswm, gan ei fod yn amlwg taw awydd am swyddau sydd wrth wraidd y cyfan. Beth ddywed Anughydffurfwyr Cymru yn ngwyneb y pethau hyu ? Dychymygwu glywed llais cwynfan- us angel rhyddid pan yn ehedeg gvda chyflymder mawr dros fynyddoedd a dyffrynoedd Gwaüa Weo, gan alw heibio i Soar, Tabor, Hermon, Bethel, Bethlehem, Nazareth, Bethània, Beth- esda, &c, ac yn gwaeddi:—" 0 heu addoldai anwyl, a oes rhaid i mi alw cewri Cymru o'u beddau,—Thomas Charles, Ebeuezer Morris, Christmas Evans, John Elias, Williams o'r Wêrn, Jolin Herriug, Ieuan Gwynedd, Joseph Harries (Gomer), Morgan Howells, Dr. Daniel Davies (Y Gwr Dall), Gwilym Hiraethog, Dr. Rees, Abertawe, &c, i amddiffyn rhyddid ? Y mae Pro- testaniaid Cymru yn teimlo yn ddigou esmwyth er fod arwydd- ion amlwg fod y Bwystfil Rhufeinig yn graddol nesu atynt! Pa beth a wnaf! 0 ! beth a wnaf! í mae trethdalwyr Prydain Fawr mewn perffaith dawelwch yn myned i wneyd rhaff i grogi eu hunain drwy gynnorthwyo y Pabyddion i roddi addysg Babyddol i'r rhai fedrant ddenu i'w hysgoliou. Y mae yr an- ffyddwr Morley, a'r blaid Gladstonaidd, yn cyunyg gwaddoli ysgolion Pabyddol yn Nghymru a Lloegr, ac nid oes neb i reoli y cyfryw ysgolion ond Pabyddion! A oes neb a wrendy fy nghwyn ?"