Skip to main content

YB Undebwr Cymreig COFNODYDD ac ADOLYGYDD MISOL RHIF 2. CHWEFROR, 1890. PRIS CEINIOG. Rhagoifreintiau y Tenantiaid Gwyddelig. Gan y Parch. D. Lloyd Jones, M.A., Llandinam. Haerir gan lawer o ddyuion gonest a chydwybodol, ond hollol ^nwybodus am y cyfreithiau sydd yn ffynu yn yr Iworddon, fod ÿ tenantiaid Gwyddelig yn cael cam. Dywedir eu bod yn cael 6u gorthrymn a'u hyspeilio gan y tirfeddiannwyr. Yn awr, y gwirionedd yw, fod cyfreithiau y wlad, flynyddoedd yn ol, yn goddef i'r tirfeddiannwyr godi gormod o rent, ac i droi dynion O'u tyddynod yn ol eu mympwy ; ond sylwer ar y ffaith hon—y ""Hae pob un o'r deddfau uchod yn ddieitliriad wedi eu dileu o fewn yr iigain mlynedd diireddaf. Y gwir reswm paham y clywir y fath ^aeddi a Uefain yn erbyn cyfreithiau y tir yn yr Iwerddon yn Hwr yw, am fod y boblogaeth yn rhy drwchus i'r wlad ei chyn- öal, ac o ganlyniad, y trigolion yn ymladd am y tir. Prif itireiddyn y cynhwrf yw fod 218,199 o deuluoedd, a phitmp neu Ẃwech o hersonau yn mhob Un, yn ceisio hyw ar dyddynod bychain dan bedair punt (£4) y flwyddyn yr un o rent. Y mae y gyfraith ÿn awr yn fwy ffafriol i'w dyogelwch a'u llwyddiaut nag yw i un *han arall o'r deyrnas. Ni cheir cyfreithiau mor ffafriol i ftmaethwyr yn Lloegr, Ysgotland, Cymru, nac America. Birned ÿ darllenydd drosto ei hun : yr ydym yn rhoddi y sylwedd iddo ÿn awr. 1. Nid yw yn ddichonadwy i un tenant Gwyddelig gael ei orfodi i dalu gormod o rent gan ei dirfeddiannwr yn awr, oblegyd os yw y tenant yn barnu fod ei rent yn rhy uchel, gall ar unwaith appelio i'r Llys Tirol, os na fydd wedi gwneyd hyny ÿn barod, a gwua y Hys hwn o farnwyr bennodi ar rent teg iddo. Y mae hyd y no i gan brydleswyr (leasehoiders) hawl 1 wneyd hyn, ac unwaith y bydd rhent teg wedi ei benderfynu, íiis gall y tirfeddiannwr, wedi hyn, ei godi un ffyrling. 2. Wedi i'r rhent gael ei bennodi, mae y tenant yn cael gydag ef M Sefydlogrwydd Tir-ddaìiad" (Fixity of Tenure). Nis gall tirfeddiannwr gyffwrdd ag ef am bymthej mlynedd, ac nis gall V tenanl gael ei droi allan am ddim ond am wrthod talu ei rent ; a chofier mai rhent teg, wedi ei bennodi mewn llys tirol, yw y *hent hwnw. 8. Rhoddwyd y rhagorfreintiau hyn gan Fesur Tir 1881. ÌSr yr amser uchod. ac er pan benderfynwyd rhent teg dan fesur 1881, darfu i brisiau cynnyrchion amaethyddol gwympo yn ỳr Iwerddon, ac am hyny, haerir fod y rhenti yn rhy uchel Srbyn hyn. Ond sylwer yn awr, y mae y Llywodraeth bresenol wedi pasio y caiffholl, denantiaid yr Iwerddon, y rhai y pennodwyd e« rhenti cyn 1886, ostyngiad yn eu rhent yn cyfateb i'r cirymp yn tyhrisiad pob math o gynnyrchion amaethyddoi, a hyny heb wneyd lìn appêl at unrhyw lys. Bu y trefniant hwn mewn gweitb- *ediad am 1887, 1888, 1889, ac ar ddiwedd y flwyddyn hon, fcddawa y Llywodraeth ddwyn i fewn fesur helaeth o dir bryniant, ârwy yr hwn y trosglwyddir y tir yn eiddo i'r tenant. Wrth gwrs, y mae yr holl denantiaid sydd yn ystyried fod eu hen *enti yn deg, ac am hyny, na ddylent appelio at y llysoedd sirol, at eu rhyddid yn awr i gael eu rhenti wedi eu penderfynu yn ol y prisiau presenol. 4. Nis gall un tenant gael ei droi allan o'i fferm gan ei dir- feistr, na chael ei fygwth i gael ei ddifeddiannu, os na fydd yn ol o dalu rhent am ddeuddeg mis cyfan. Yn mhellach, nis gall un tenaut sydd yn talu llai na £100 y flwyddyn gael ei droi allan o'i íferm hyd nes y bydd chwe' mis wedi myned heibio ar ol y deuddeg mis uchod. Felly, nis gellir troi un tenant tlawd allan o'i fferm, os na fydd wedi bod am 18 mis heb dalu dim rhent. 5. Os bydd tenant nen ei ragflaenor wedi soddi arian yn y fferm drwy godi adeiladau, gwneyd cloddiau neu ffosj'dd, drwy roddi tail yn y ddaear, ac felly, ei gwella, a thrwy ddiwvllio tir gwyllt, rhaid i'r tirfeddiannwr gydnabod hyn trwy roddi llawn iawn iddo am ei holl wd/iantau cyn y gall ei droi allan. Pe bai ar y teuant bum' neu chwe' mlynedd o reot i'w dir-feistr, nis gall ei dir-feistr gyff.vrdd ag ef nes yn gvntaf roddi Uawn iairn iddo am bob gwelliaut a fyddo wedi ei wneyd. G. Os bydd tenant yn rhoddi fferm i fyny o'i wirfodd, rhaid i'w dir-feistr roddi yr iawn hwn iddo, neu os bydd y tenant yn dewis, gall werthu y gwelhantau i denant arall a fyddo yn cym- meryd y fîerm. Sylwer liefyd ar hyn :—Cymmerir yn ganiataol, os na fydd prawf pendant i'r gwrthwyneb, mai gan y tenant y byd 1 yr holl welliantau wedi eu gwneyd. 7. Os bydd y tenant yn rhoddi ei fferm i fyny yn wirfoddol, neu os bydd yn cael ei <ìroi allan, gall, mewn unrhyw amser o fewn chwe' mis wedi i'w dir-feistr gael barn yn ei erbyn, we'thu ei dir-ddaliad (tenartcy) i'r cynnyghcr uchaf. Rhoddir ugain gwaith swm y rhent yn aml yn yr Iwerddon gan y naill denant i'r llall, am fod y blaenaf yn foddlawn talu cymmaint am fyned i fewn o rent ar y fferm ag a bennodwyd mewn llys tirol. 8. Os bydd i denant suddo i ddyled trwy beidio talu rhent, a thrwy hyn, ddod yn agored i gael ei droi allan, gall y llys attal i hyn gymmeryd lle os bydd yr achos yn deilwng, ac os bydd yn argyhoeddedig na fydd anallu y tenaut yn codi oddiar ddim bai ynddo ef ei hunan. Gall y llys roddi amser iddo dalu, a threfnu iddo wneyd hyny drwy fân ran daliadau. Ystyried y darllenydd yn bwyllog y ffeithiau uchod, ac os yw yn ddyn didnedd, ac heb gael ei ddallu gan deimlad politicaidd, daw i'r casgliad nad oes cyfreithiau mewn un wlad ar y ddaear mor ffafriol i'r amaethwyr a'r rhai sydd yn aior yn yr Iwerddon. Ond nid oes dim ond gwyrth a all gynnal 218,198 o deuluoedd ar dyddynod bychain dan bedair punt y flwyddyn yr un o rent, heb iddynt suddo i ddwfn dlodi. Gall cyfreithiau wneyd llawertuag at ieddfu dyoddefiadau y trigolion, ond nis gallant en dyrchafu i'r un cyflwr o gysur a llwyddiant a thrigolion Ysgotland, Lloegr, a Chymru. Y mae'r wlad agos yn gwbl amddifad o adnoddaa tanddaearol, megys glo, haiarn, a phlwm. Ymdyra'r tris;olion ar fân lauerchau o dir hollol annigonol i'w cynnal. Y mae Pabyddiaeth yn ffynu drwy yr ynys, a 26 o bob cant o'r trigolion yn hollol anllythyrenog. Y mae dros 90 o bob cant o erwau o'r tir yn psrtbyn i dirfeddiannwyr Protestanaidd, ac y mae nifer mawr o'r bobl yn teimlo yn chwerw yn erbyn Lloegr, a'r teimlad hwnw wedi ei gynnyrchu gan heu gyfreithiau gorthrym- us a rhyl'eloedd gwaedlyd yr oesoedd a aethant heibio. Y peth-