Skip to main content

YR Undebwr Ctmreig COFNODYDD ac ADOLYGYDD MISOL RHIP 1, IONAWR, 1890. PRIS CEINIOG. Y diweddar John Bright. Gan y Golygydd. Ganwyd John Bright yn Greenbank, Eochdale, Tachwedd yr 16eg, 1811. Enwau ei rieni oeddynt Jacob a Martha Bright. Bu iddynt saith o feibion a phedair o ferched. Johu oedd yr ail blentyn. Yr oedd y teulu mewn amgylchiadau cysurus, a chaf- odd y plant addysg dda; hyny yw, addysg fasnachol neu yinar- ferol. Nid oedd Prif Ysgolion Caergrawnt a Ehydychain yn agored i Annghydffurf- wyr y pryd hwnw; ac felly, ni fedrent fyned yno pe byddai awydd arnynt, o herwydd eu bod oll yn aelodau o Gym- deithas y Cyfeillion. Yr oedd gan Jacob Bright law-weithfa neu felin gotwm yn ymyl ei breswylfod, a thystiolaetb.ei hen weithwyr yw, na fu gwell meistr yn y byd erioed. Ehoddai gyflog dda iddynt oll, a blwydd-dâl i'r hen a'r methedig. Yr oedd Martha Bright yn hynod ofalus am y tlodion a'r cleifion, y gweddwon a'r am- ddifaid, ac adroddir llawer hanesyn todd- edig am ei thiriondeb a'i thynerwch. Un tro, pan yn rhodio ar hyd Cronkey-shaw Common, a " John bach" yn ceisio cerdded wrth ei hochr, cyfarfu 'â gweddw dlawd gyda bachgenyn carpiog, oddeutu yr un oedran à John. Ar ol gwrando ar y weddw yn adrodd ei hanes, cymmerodd Martha Bright hi i'w thý, a rhoddodd bâr o ddillad newydd John i'r plentyn carpiog. Cafodd y plant ereill waith yn melin got- wm Jacob Bright, a daeth un o honynt yn oruchwyliwr y sefydliad. Cyfansoddiad gwanaidd ydoedd eiddo John Bright pan yn blentyn, ond drwy ddyfalwch a gofal ei fam cryfhaodd, a danfonwyd ef i ysgol Mr. W. Littlewood, Townhead, Eocbdale, ac oddiyno i ysgolion y Cyfeillion yn Ack- worth, York, a Newton-in-Bolland. Yr oedd yn hynod hoff o gwn ac o bysgota pan yn fachgen, a pharhaodd felly drwy ei oes. Yn ystod ei gystudd olaf bu ei gi bach yn gorwedd yn dorch yn ei ymyl am wythnosau; ac wrth siarad â rhywun un diwrnod dywedodd Bright mewn dull chwareugar, gan gyfeirio at y ci, " Fe fedr efe gael dau pen y llinyn yn nghyd pan fyddom ni yn aml yn methu.'' Ymadawodd John Brigbt à'r ysgol ar yr 16eg o Chwefror, 1827, ac aeth i'r felin at ei dad. Dysgodd holl gangenau y gwaith, a gwnaeth ei frodyr ereill yr un peth. Yn y fiwyddyn 1889 priododd John Bright â Miss Elizabeth Priestman, merch Jonathan Priestman, o Newcastle-on-Tyne. Ganwyd iddynt ferch—Helen Priestman—ar y lOfed o Hydref, 1840. Bu o was- JOHN Oddiwrlh ddarlu anaeth mawr i'w thad fel ysgrifenyddes. Priododd â Mr. W. S. Clark, o Street, Somerset. Yn Medi, 1841, bu Mrs. Bright farw. Priododd John Bright yr ail waith à Miss Leatham, merch Wil- liain Leatham o Wakefìeld, ar y lOfed o Fehefin, 1847. Mae "defod briodasol" y Cyfeillion yn un hynod o syml. Y tro hwn, yn nhy cwrdd y Cyfeillion, Wakefield, ymgynnullodd y cwmni priodasol. Eisteddodd pawb mewn dystawrwydd am ryw dri chwarter awr. Cyfododd John Bright ar ei draed, ymaflodd yn llaw ddehau Miss Leatham, a dywedodd mewn llais isel ond eglur, " Gyfeillion, yr wyf yn cymmeryd fy ughyfeilles, Margaret Elizabeth Leatham, i fod i mi yn wraig, ac yn addaw, drwy gymhorth Duw, bod iddi hi yn wr ffyddlawn a chariadlawn hyd nes y gwelo yr Arglwydd yn dda ein gwahanu yn angeu." Dywedodd Miss Leatbam eiriau cyffelyb. Eisteddodd y ddau am ychydig funydau, ac yna aeth un o'r Cyfeillion oeddynt yn bresenol i weddi, i ofyn am fendith Duw ar yr un- deb, a phawb yn set'yll ar eu traed. Dar- llenodd Cyfaill arall dyistysgrif, yr hon a arwyddwyd gan y priodfab,y briodasferch, eu perthynasau, Cyfeillion, ac amryw ereill o'r gwyddfodolion, a dymunwyd " priodas dda" i John Bright a'i wraig. Ganwyd iddynt Mawrth y 18fed, 1848, fab—John Albert; Medi y 30ain, 1849, ferch—Mary Harriet; Awsty 12fed,1851, fab—William Leatham ; Mawrth y laf, 1854, ferch—Anna Elizabeth ; Mai 27ain, 1856, ferch—Margaret Sephia ; Chwefror y 24aiu, 1859, í'ab—Leonard; ac ar y 23aÌD, fab—Philip. Pan ar ymweliad à Llandudno yn Nhachwedd, 1864, bu Leo- uard farw yn chwe' blwydd oed, a chladd- wyd ef yn mynwent Eglwys St. Tudno. Dywedir ei iod yu debyg iawn mewn pryd a gwedd i'w dad. Yn Ebrill, 1843, denwyd John Bright i gynnyg ei hun fel ymgeisydd am sedd yn Nhy y Cjffiedin dros Durham. Ei wrthwynebydd ydoedd Arglwydd Duugannon, yr hwn a ddychwelwyd drwy 507 o bleid- leisiau yn erbyu 405 a roddwyd i Bright. Deisebwyd yn ei erbyn ar y sail iddo lwgrwobrwyo, a chafodd ei daflu allan. Gor- pheuaf y 26ain, o'r un flwyddyn, etholwyd John Bright drwy 488 yn erbyn 410 o bleidleisiau a roddwyd i'w wrthwynebydd Ceidwadol—Mr. Thomas Purvis. Yn 1847 ac 1852 etholwydef dros Manchester. Ni oddefa terfynau y cofnodion hyn i roddi hanes gorchestion John Bright mewn cyssylltiad á'r Dreth Eglwys, Dyddimiad Treth yr Yd, Masnach Eydd, Helaethiad yr Ethoìfraint, Ehyfel- oedd y Crimea, China, India, &c, Tànbeleuiad Alexandria, hel- yntion yr Iwerddon, &c. Digon ydyw hyspysuiddo gaeleiraddio yn "Teyrn y Bobl" ("The Peoples Tribune") gan y bobl; ond BRIGHT. n rjan Russell és Son