Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sulicm Hyd y Byd. 57 TWINDE-1'OS, Rhwng Voss a Stalheim, Norway. SULIAU HYD B YD. II.—SUL YNG NGWLAD Y RHEIEIDR. WE D I cyrraedd Vossevangen yn Norwây, rhan nesaf y daith yw mynd mewn cerbyd dros ddeg milldir ar hugain i Cudvangen. Wedi cinio canol dydd y mae y cerbydau'n barod, ddeg ar hugain neu ddeugain ohonynt. Cawn ffordd dda, ond cul, a chwmni afon Voss, drwy goedwigoedd pîn a ffynidwydd. Da yw cael cysgod a gorffwys yn Tvinde, y mae'r tywydd yn boeth a llwch y ffordd yn codi. Yn ymyl dyma un o raiadrau'r wlad,— y dwfr yn ymdaflu i lawr o lethr i lethr yn y dull mwyaf ardderchog. Wrth edrych arno o'r ffordd, synnwn o ble'r oedd yr holl ddwfr yn dod; ond, o'r pellder, cawn weled fod mynyddoedd enfawr, ac eira drostynt i gyd, y tu ol i'r rhaiadr. Cydymaith,—Elias Jone», U.B., Llandudno. Os oes rhai ohonoch yn rhy uchel i ysgwyd llaw â'r gyrrwr, buasai'n well i chwí aros gartref. Y mae'r gwladwyr yn garedig a boneddigaidd iawn, ond gwelir eu hysbryd gwerinol yn eu dull o ymwneyd â dieithriaid. Pryd bynnag y rhoddir rhywbeth iddynt, ysgydwant ddwylaw i ddangos eu diolchgarwch. Ond dyma westy Stalheim,—tŷ mawr a hardd, yn meddu cant a hanner o welyau, a lle i ddau gant giniawa. Yma, ar nos Sadwrn, wedi i'r haul beidio llosgi, cawn ginio. Y mae pawb yn brysur iawn yn parotoi at ddyfodiad Ymherawdwr yr Almaen, yr hwn a fydd yma yfory. I fynd i Cudvangen, lle mae ein llong yn ein haros, rhaid i ni fynd drwy Fwlch Naerodal, saith milldir a hanner o hyd,