Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

78 Y DARLUNYDD. Y TRI CHYMRO DBWR. DRYDD un o'n cyfoslolion yr hanes tarawiadol a ganlyn :— Tybiwn mai nid annyddorol a fyddai yr eng- rhraifft ganlynol, yn dyfod o Awstralia, am dri Chymro yn ffyddiawn i'r fîwn sydd yn " Obaith holl gyrau y ddaear, a'r rhai sydd bell ar y môr.' Dychwelwyd y tri at grefydd drwy offeryn- oliaeth Mr Mesach Bowen, a chafwyd hwynt ill 1 tri yn weithgar gyda'r achos goreu. Yn ngwres eu cariad cyntaf, gwnaethant ammod â'u gilydd, ac â'u Duw, y byddent ffyddlawn i'w proffes, deued a ddeuai i'w cyfarfod. Yn mhen tair blynedd c'ododd anesmwythder yn eu meddw) am fyned i New Zea- land, i'r diben o wella eu hamgylchiadau tymhorol; a'r meddwl hwnw a roddwyd mewn gweithrediad. Cyfeiriasant eu camrau yn gyntaf tua Melbourne ac yno, heb golli dim amser, aethant i chwilio am long i'w cludo drosodd i New Zealand. Ond oher- wydd lluosogrwydd ymfudwyr ar y pryd, yr oeddynt yn methu cael yr hyn a geisient; a thafiwyd hwy i fawr ddyryswch. Eithr yn mhen enyd, cawsant hanes llong fach oedd ar fedr hwylio y dydd canlynol. Y boreu dranoeth yr oeddynt ar ei bwrdd, yn gwneyd rhifedi y teithwyr yn un ar bymtheg. Yr oedd y nifer hwn yn gynnwysedig o wahanol genedloedd : Italiaid, fGerman- iaid, Gwyddelod, a'r tri Chymro. Yr oedd yn rhy amlwg na fwr- iadesid i'r cyfryw lestr gludo teithwyr; oblegid gorfu arnynt fyned i dwll anghelfydd yn mhen blaen y llong, i blith cadwyni yr angor a chwmniaeth llygod ffreinig oedd bron yn ddirif. Wedi morio am oddeutu pedwar diwrnod, wele, yr oedd blwyddyn newydd y pryd hwnw yn dyfod i mewn ; ac yr oedd raid i'r lleill o'r teithwyr, sef y rhai nid oeddynt Gymry, gael rhyw ddifyrwch er croesawu'r flwyddyn newydd ; a'r difyrwch y penderfynasant arno, oedd cael spree iawn, yr hyn, ganddynt hwy ydoedd yfed gwlybyron meddwol i ormodedd a cheisiasant gan y tri Chymro ymunojì hwy yn nghyfeddach y felldith. Ond ofer fu y cais. Eu hymwrthodiad a achosodd i ddigofaint eu cyd- deithwyr anwaraidd enyn ac ymddyrchafu fel cymylau duon. Dechreuwyd ar y spree yn gynar y prydnawn, a pharhaodd hyd y bore. Wedi myned i waered, ymwthiodd y tri chrefyddwr i ystlys y llong, ar feddwl cael ychydig orphwysdra. Ond yr oedd rheg- feydd ac udiadau y creaduriaid dibris ereill yn gwneyd gorphwys a huno yn beth anmhosibl iddynt. Siarad Saesneg gan mwyaf yr oedd y cyfeddachwyr ; a deallid mai prif bwnc eu hymddiddan oedd condemnio'r tri Chymro oedd yn nacau ' cyd-redeg gyda hwynt i'r unrhyw ormod rhysedd.' Oddeutu hanner nos, aeth yr oferwyr ati i wneyd rhywbeth a alwent hwy yn.ganu, ond oedd yn hytrach yn oernadu annaearol. Yr oedd raid iddynt oll ganu yn eu hiaith eu hunain. Dechreuwyd gan yr Italiaid, ac yna, aeth y Gwyddelod ati, ac yna'r Germaniaid. Yr oedd y brodyr Cymreig yn awr yn teimlo eu sefyllfa yn un lwyr enbydus; oherwydd deallent fod yn mryd y giwed anrasol geisio ganddynt hwythau ganu, ac os anufuddhaent i'w cais y byddent yn wrth- ddrychau eu llid a'u gwrthwynebiad. Ystyriai y tri Christion, o'r ochr arall,os cydsynient â'r cyfry w gais, y byddent yn fraich i blant Lot, ac yn cefnogi y gyfeddach annuwiol. Wrth ymddiddan â'u gilydd, äywedai un o'r enw Lewis Jones, " Mae yn rhaid i ni sefyll yn wrol dros ein penderfyniad yn Epsom, ac ymlynu wrth ' Dduw, heb ildio yn nydd y brofedigaeth." " Rhaid," ebe yr ail, o'r enw John Parry/ " oherwydd rhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion." Ac yr oedd y trydydd o'r un feddwl yn well i ni," meddai, " nag ymddiried yn y Duw sydd yn abl i'n gwaredu o safn y brofedigaeth sydd ar ein goddiweddyd." Cyn ymron i'r ymddiddan rhyngddynt derfynu, wele un o'r Germaniaid, dyn talgryf, esgyrnog, yn nesau atynt, ac yn dywedyd gyda llais awdurdodol, fod yno bawb wedi canu ond y tri Chymro, ac mai rhaid yn awr oedd iddynt hwythau roddi iddynt gân, neu os anufuddhaent,y gorfyddai iddynt ddioddef y canlyniad. Ond ateb- asanthwy ar unwaith nas gwnaent. Gofynodd yntau am eu rheswm, a'r ateb gan un oedd, y buasai eu hufudd-dod iddynt hwy yn an- ufudd-dodi Dduw; a'r lleilla atebasant yn benderfynol yr un modd. Parodd hyn i'r creadur aflywodraethus ymgynddeiriogi yn aruthr, a chan falu ewyn, tywalltodd gawodydd o regfeydd ar eu penau ; ac yna, dychwelodd at ei gymdeithion dirinwedd. Ac wedi ychydig o ymddiddan gyda'r rhai hyny, dychwelodd yn ol at y Cymry gyda chyllell hir yn ei law; a chan godi hono i fyny, dywedai, " Chwi a welwch yn awr beth fydd eich tynged os na chenwch fel yr ydym yn peri i chwi. Gofynaf i chwi y drydedd waith, A ydych chwi, y Cymry, ar fedr canu i ni ?" Ond yr un oedd eu hateb y waith hon a'r tro cyntaf. Y German yn gyn- ddeiriogwyllt a chwyrnellodd y gyllell finiog uwch eu penau yn ol ac yn mlaen, heb ganddynt hwythau ond disgwyl bob eiliad iddo ei chladdu yn eu cyrph ; a pharhaodd hyn am oddeutu dau neu dri o fynydau. Ond rhywfodd, wrth weled gwroldeb di-ildio y tri Chymro, ac yn ddiau trwy oruwchreolaeth y Duw a wasanaeth- ent, gcstegodd ei gynddaredd, ac yn ei ol fel y daethai yr aeth at ei gyd-oferwyr; ac yn mhen ychydig o amser, yr oedd pobl y spree wedi syrthio i drwmgwsg. Gellir yn hawdd gredu na chysgodd y Cymry nemaAvr drwy'r nos ; a'r bore canlynol, gyda bod yr haul wedi codi, dyma'r tri ar y dec, yn ymddiddam ain yr hyn oedd wedi cymeryd lle y nos o'r blaen. Yn annisgwyliadwy iddynt, wele'r cadben yn dyfod hyd attynt, ac wedi'r cydgyfarch, efe a ofynodd, " Beth oedd y terfysg yn mhen blaen y llong neithiwr ì" " Dim o bwys," oedd eu hateb. " Na," medd efe, "yr wyf fi yn deall yn amgen, ie, fod ymosodiad beiddgar wedi ei wneyd arnoch chwi, y Cýmry ; ac yn awr, yr wyf yn dymuno arnoch ddywedyd i mi pwy a ymosododd arnoch." Gwyddent ill tri pa fath oedd y cyfreithiau llongwrol; ac ebe Lewis Jones wrth y cadben, " Os gwelwch yn dda, syr, ein dymuniad ni ydyw, na byddo i ddim ymchwiliad gael ei wneyd i'r achos neithiwr." Felly ar eu cais taer hwy, cydsyniodd y llonglywydd i adael ar hyny ; ond medd efe wrtlíynt, " Mi a wnaf hyn : nid oes yr un dafn o wlybwr meddwol i'w arfer gan yr un o'r teithwyr am weddill y fordaith ond trwy eich caniatad chwi." A'r tri^Cymro a ddiolchasant yn wresog iddo. . Gyda bod y cadben wedi troi ei gefn, pwy a welid yn'esgyn i fyny o ben blaen y Uong, ac euogrwydd yn argraphedig ar ei wyneb, ond y llarp Germanaidd oedd wedi bod mor ffyrnig wrthynt y noson gynt. Cerddodd yn araf at y Cymry, ac wedi dyfod atynt. gofynodd, A wnewch chwi faddeu i mi ì Bu'm yn greulawn iawn wrthych neithiwr." " Do, chwi a fuoch," ebent hwythau ; " buom o fewn ychydig a chael ein llofruddio genych, ond er hyny, yr ydym yn maddeu i chwi, gan obeithio y maddeua Duw i chwi hefyd, ac na wnewch ymddwyn yn gyffelyb eto tra byddoch byw." " Na wnaf byth, Gymry anwyl," meddai efe ; " chwychwi oedd yn eich lle, a minnau yn wallgof." Yr oedd llew'r nos flaenorol yn awr wedi dyfod yn oen ; a phe buasai ei allu yn ogymaint â'i edifeirwch, mae yn ddiau mai nid gormod ganddo a fuasai nofio am y gweddill o'r fordaith gyda'r tri Chymro ar ei gefn, pe gwnaethai hyny iawn am ei ymosodiad beiddgar arnynt. GLAN-Y-MOR TAWELOG. jR fod y wlad hon, sef Glan-y-mor Tawelog, yn tra ragori ar wlad y bryniau mewn llawer o bethau ; ond mae y dyfroedd __ yn tymblo yn glychau gloewach lawr afonydd Cymru; y gloynbyw (butterfiy) a'i adenydd yn fritha'îh, ac yn disgyn yn ysgafnach ar beu y blo lau ; a'r wenynen fach yn brysurach o flodyn i flodyn, yn canu yn bereiddiach, a'r liaul hefyd yn do'd i edrych am danoch chwi yna, yn llawer mwy prydlon ; mae yn ein cadw ni yma mewn tywyllwch am lawer o oriau bob dydd. Tra mae Cymru yn ei fwynhau, 'rydych bob amser yn cael y flaenoriaeth arnom. Mae yn do'd yma pan y gwel yn dda ei hunan. Ond gyda ni, mae y winwydden wedi ei gorlwytho â grawn, a'r ffigysbren fel pe yn glaf, mewn distawrwydd yn plygu o dan lwyth o ffigys ; mae fel pe bai yn sisial yn ei iaith, " O ! cymerwch hwy ymaith, maent yn drymion iawn. Mae genym hefyd bob math o ffrwythydd ereill ag sydd mewn hanesyddiaeth ; nid wyf yn gwybod am ddim nad ydyw yn tyf u ar lanau y Mor Tawelog yn doreithiog. FEL HYN yr ydym yn mwynhau ein hunain yn yr haf o dan gysgod y coed mwyaf yn y byd, yn bwyta ffigys a grawn, ac ambell i waith yn cael y fraint annrhaethol o ddarllen yr ' Herald Cymraeg' —y creadur bychan Cymreig wedi teithio y ffordd agosaf 7000 o fiìldiroedd, yn un pwrpas i siarad Cymracg â myfi. Mae yn dyfod weithiau o sir Gaernarfon, Maldwyn, a Efestiniog. 'Roedd yn hynod o ddrwg genyf, ryw amser yn ol, ei glywed yn dyweyd fod fy hen gyfaill hotf (Ffestinfab) yn methu yn glir a chyfnf y pontydd yn y Llechwedd ! Y tro dirweddaf, 'roedd yn dyweyd fod holl athrofeydd Cymru, o bob enwad, yn son am fyned gyda'u gilydd i Brifysgol Aberystwyth. Campus iawn ; mae y dydd gerllaw pan y bydd yr holl wahanol enwadau fel yr afonydd yn rhedeg y naill i'r llall, nes y byddant wedi uno yn gyfan gwbl yn un afon fawr cyn cyrhaedd y mor. Y mynydd- oedd ydyw yr achos bob amser o lawer o afonydd. A rhag- farn a hunanoldeb sydd fel mynyddoedd y byd yn chwalu enwadau crefyddol y naill oddiwrth y llall. Mae yr Americaniaid yu cwyno fod crefydd yn myned di[)yn yn rhy drom ar y werin, pan ag y maent yn talu o 2000p i 4000p y fiwyddyn i lawer o'i gweinidogion, hefyd mae y cantorion yn cael cyfiogau mawrion. Ond er yr HOLL BREGETHU, mae yn ddrwg genyf ddyweyd, mai pobl annuwiol a rhyfygus ydyw llawer ohonom yn y wlad hon, ie, er cael ein hysgwyd gan ddaeargryn, braidd bob blwyddyn, nes mae y ddaear yn taflu ei hunan o'r naill ochr i'r llall fel cryd ; pryd arall, yn neidio fel cerbyd ar ffordd arw, nes y mae y dyfroedd yn cael ei daflu o'i wely, á llawer o dai yn syrthio i'r llawr,—eto pobl feddw a drygionus yw llawer ohonom. MAE PETHAU politicaidd ein gwlad yn hynod o ddyryslyd ar hyn y bryd. Mae un o'n hen gymydogion o'r Iwerddon, o'r enw Denis Eerney, wedi creu llawer o son a pheth dychryn yma; mae yn dy weyd fod yn rhaid i'r pagan ymadael o'r wlad ar frys. Mae Kerney ^yedi bod yn y carchar am saith neu wyth o Ayeithiau am arfer iaith ddychryn- llyd tuagat ddynion mewu swyddiuchel yn y Llywodraeth. Gan ei fod wedi d'od allan bob tro yn ddigosp, mae y carchar wedi ychwanegu llawer yn ei boblogrwydd. Mae Affrican mangolion, o'r caenes mangolion, fel rhyw ymborth annrheuliadwy i'r cyfan- soddiad Americanaidd, nid ydynt yn pasio yn esmwyth fel cen- edloedd ereill, ond yn suro ac yn chwerwi. * Acosnaddaw rhyw feddyginiaeth buan, bydd y bobl o angenrlieidrwydd wedi eu tatìu i fyny ! W. Lodwice, Caspee, Mendoleno Co., California, Mehefin 25ain, 1879.