Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYHOEDDIAD MISOL Y BOBL RHIF. XLI/. CYFROL IV. MEDI, 1879. PRIS CEIN/06. Y VORD GRON: ARHOLIAD A LLWYDDIANT ANARFEROL JOHN JONES, CAERNARFON. I. Wele ystafell gyntaf y Vord Gron. Yma eisteddai y prif arholwr yn ei gadair freichiau swjddogol yn ymyl y ford gron, ar ba un y mae inc, ysgrifbinau, phapyrau. Y mae dau arholwr arall yn bresennol. O'u blaen safai John Jones, genms gwladaidd, a golwg syn, dychrynedig ar ei wynebpryd syml, ei ddwylaw yn llogellau ei lodrau, a'i het wedi ei gwasgu yn deisen dan ei gesail, fel y byddai arfer Siencyn Penhydd gynt. Cydsyniai y tri arholwr fod dealltwriaeth a thalent yn argraphedig ar wynebpryd John, a bod AFODD ein cyfaill athrylithgar John Jones, Caernarfon, gymhelliadau taerion i ymweled âg Eisteddfod Genedlaethol Conwy i'r diben o fyned dan arholiad y Vord Gron. Yr oedd ef, lanc *ÿ?$L gwladgarol, wedi dymuno a breuddwydio er's íÇ% blynyddau am allu cydio y llythyrenau A. V. G. (Aelod o'r Ford Gron) wrth ei enw syml ei hun; ond meddiennid ef yn hir gan ofn ac amheuaeth fod ei gyrhaeddiadau llenyddol yn llawer rhy fyr, ac mewn can- lyniad pallai gasglu yn nghyd ddigon o wroldeb i gynnyg ei hun fel ymgeisydd am yr anrhydedd. Eleni, modd bynag, " ar daer ddeisyfiad ei edmygwyr," a chymhelliadau calonogol ei gyfaill Gwilym Pen y Wyddfa (llenor o safle uchel yn Nghymru), antur- iodd John Jones fyned gerbron y Vord, a bu yn hynod lwydd- iannus, fel y canfyddir oddiwrth yr adroddiad a ganlyn, a'r darlun- iau a welir o waith ei gyfaill G. P. W. ffurf ei benglog, yn nghyda'i ystum yn sefyll y mynydau hyny o'u blaen, oll yn arwyddion o wreiddioldeb ei feddwl ac annibyn- rwydd ei yspryd. II. Wele ystafell neillduol yr arholiadau. Yma eisteddai tri o'r arholwyr wrth y Vord Gron, gan gyfeirio cwestiynau at John Jones, yr hwn a eisteddai wrth fath o ddesc a wnaed, os gwir a ddywedir, o hen dderwen a dyfai yn Nghaerwys ar adeg cynnal- iad yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn nheyrnasiad a thrwy fäT Dydd Mercher Nesaf, Medi 3ydd, Cyhoeddir Rhipyn Arbenig o'r ' DarLunydd,' Pris Ceiniog, yn cynnwys " Cadeirio Gwilym Alltwen yn Eisteddfod Mon ;" " Agoriad Eisteddpod Conwy )" " Helynt y Gwynt ac Eisteddfod Eryri;" yn nghyda Darluniau ereill.