Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

50 Y DABLUNYDD. " Fe'n dygwyd ni i fyny raewn cymydogaeth oedd yn ffafriol i ffurfìad syniadau uchel am Dr Edwards, sef y gymydogaetli lle y treuliasai efe ei ddyddiau boreuol. iTstyrid ef gau y preswyí- wyr fel y dyn mwyaf a roddasai eu cymydogaetli hwy ì'r byd ; yn wir, y dyn mwyaf a roddasai unrhyw gymydogaeth yn Ngliymru i'r byd. Cyfrifid ei awdurdod ef mewn pynciau duwinyddol ac athronyddol o bwysigrwydd cyfartal i'r eiddo St. Paul neu St. loan, ac yn bwysicach o gryn lawer na'r eiddo unrhyw un o'r deg apostol ereill. Pa un bynag ai cywir ai anghywir, darfu i'r syniad uchel hwn am dano ein llanw âg edmygedd dwfn tuagato cyn i ni erioed ei weled ; ac yn awr a phryd arall..gwnelai i TTchelgais ysgwyd ei hadenydd yn ein mynwes fechan. Nis gallwn fod yn sicr na fu y traddodiad a ffynai yn y gymydogaeth yn foddion i ysprydoli amryw ddynion ieuainc âg amcanion uchel, a'u symbylu hwynt yn mlaen i ym- drechion ardderchog. Pa fodd yn amgen yr ydym i gyfrif am y ffaith fod y llecyn hwnw o dir wedi rhoddi i Gymru nifer mwy o ddynion mawr a defnyddiol nag, efallai, unrhyw gymydogaeth arall yn Nghymru % Yno y magwyd Ieuan Gwyllt, i ddiwygio cerddoriaeth gysegredig y Dywysogaeth; yro y dygwyd i fyny John Khys, yn awr Proffeswr Llenyddiaeth Geltaidd yn Bhyd- ychain ; ac amryw ereill y gallasem yn hawdd eu henwi. Yr unig lfordd i gyfrif ain hyn ydyw, fod y traddodiadau am un dyn mawr wedi enyn tân athrylith mewn rhai ereill a ddaethant ar ei ol. Y mae ymddangosiad allanol Dr Edwards yn fynegai cywir, ar cyfan, o'i ansoddau meddyliol. Yn dal, syth, a chymesurol, y mae yn un o'r dynion harddaf y gallech ei gyfarfod mewn taith diwrnod. Y mae ei dalcen yn fawr ac uchel; ond yn y llygad ac o amgylch rhan isaf y wyneb, y mae yn ganfyddadwy gysgod dwfn o mclan- choly (prudd-der). Nid ydym yn defnyddio y gair melancholy i ddynodi teimlad afiachus, yr hwn yw yr ystyr gyffredin a roddir i'r gair ar lafar gwlad ; ond yn yr ystyr o ymwybodolrwydd bywT- iog a dwys o ddirgelwch y bydysawd, neu yn hytrach o ddirgelwch prynedigaeth y bydysawd. Y mae'n amlwg fod ei feddwl wedi syìlu mor hir ac mor agos ar y pynciau enfawr sydd yn wynebu dyn ar y terfyngylch rhwng goleuni a thywyllwch, rhwng y meidrol a'r anfeidro], nes y maent wedi tafiu eu cysgodion tros ei wyneb- pryd. Yn sicr, y mae yn argraphedig ar ei wyneb ddelweddiad sefydlog o ddirgelwch, weithiau yn ymylu ar y pruddaidd. Ond nis gellwch gael cysgod heb oleuni; ac y niae cysgod mor ddwfn a'r eiddo ef yn profi ei fod yn mwynhau cryfach goleuni na chy- ffredin. Ond y mae un peth ys neillduol wedi ein taraw ni, sef bychander ei law, a'r anghyfartaledd amlwg sydd rhwng maintioli y llaw a maintioli y pen. Pa beth mae hyny yn ei arwyddo? gofyna y darllenyd'd. Y mae yn arwyddo cryn lawer : y mae y llaw yn rhy fechan i'r pen—mae y gallu gweithrediadol yn rhy fychan mewn cydmariaeth i'r gallu meddyliol. Nid yw efe wTedi ysgrifenu cymaint a allasai, na chymaint ag a ddylasai. Yn lle dwy gyfrol--er eu bod yn drwchus—dylasai fod wcdi ysgiifenu pedair, c'r hyn lleiaf. Y mae amryw o'i feddyliau goreu a dyfnaf yn aros heb eu hysgrifenu. Gresyn na buasai Natur wedi ei gyn- nysgaeddu ef â law fwy ! Y mae yn un o'r anffodion penaf a ddaetli erioed i ran llenyddiaeth y Dywysogaeth. Yr oedd ei gyfrol gyntaf, yn cynnwys ei draethodau llenyddol, yn anrheg werthfawr i'r Cymry. Arweiniodd hwynt i deyrnas o wybodaeth a dull o feddwl hollol wrahanol i dclim araìl ag y gwyddom am dano yn yr iaith Gymraeg. Nis gallwn gelu ein hanhoffedd (dislihe) o'r wasg Gymreig, ar y cyfan. Gwneir newycldiaduron i fyny yn benaf o adroddiadau am gyfarfodydd tê, cyfarfodydd pregethu, a chwedleuon diymenydd ac aflesol wedi cu hysgrifenu gan bobl anllythyrenog ac anniwylliedig. Oferedd yw gwenieithio i'r Cymry o berthynas i'w cyflawniadau llenyddol, eu cymwynaswr goreu a'u cyfaill cywiraf yw yr hwn a ddywed wrthynt y gwirionedd noeth a diaddurn. Ond arweiniodd Dr Edwards hwynt i weled pa beth ydoedd gwir lenyddiaeth. Gwnaeth ei ddeall cryf a phybyr ei fíordd i deyrnas y meddwl, a dangosai mor anghydmarol ragorach ydyw nag aflywodraeth dryblithawl chwedleuaeth. Wrth gwrs, nid yclym yn meddwl haeru fod ei gynnyrchion llenyddol ef yn uwch na dim a geir mewn unrhyw iaith ; ond y maent yn anfcsurol ragorach na dim a ysgrif- enwyd yn yr iaith Gymraeg. Yn wir, teimlwn anhawsder, y foment bresennol, i nodi unrìiyw gyfrol o draethodau yn yr hon, ar y cyfan, yceir ymeddwl yn gryfach, yr amgyít'rediad o egwydd- orion yn í'wy nerthol, a'r arddull yn burach ac eglurach. . . . Y niae yr ail gyfrol yn cynnwys ei bregethau a'i draethodau duwinyddol, yn sefyll yn uwch nag hyd yn nod y gyntaf. Y mae yn hynod ar gyfrif ei meddylgarwch dwfn ond cglur; ei harddull syrnl a grymus ; ac yn neillduol ei nerth ysprydol. Gwyddom am cldigon o weinidogion mwy hyawdl yn y pwlpud na Dr Edwards ; ond nis gwyddom am un sycld yn gwneyd cymaint o wir les i ni ag ef. Ni byddwn byth yn ci gly wcd yn pregethu heb i ni bender- fynu cychwyn o'r newydä yn nghyfeiriad ysprydoirwydd a sanct- eiddrwydd'ar ein gyrfa grefyddo]. Ac am hyny byddwn yn dal ar bob cyfleusdra i'w wrandaw. Yr ydym yn adgoíio yn fywiog am un aelilysur pan oeddym yn gwrandaw ar Dr Edwards a gweiuidog cnwog arall yn gweinyddu yn yr un gwasanaeth. Yr oecld yr olaf yn llithrig ei barabl, yn brydferth, boddliaus, ac yn doreithiog mewn ymadroddion cain a meddwl cyfoethog. Ar ei ol ef daeth Dr Edwards yn dawel, diymhongar, a thipyn yn glogyrnaidd mewn traddodiad ; ond daeth y meddyliau mawrien allan yu arafaidd, ond yn nerthol; ac nis anghofiwn byth yr efíaith dwfn a gafodd ei bregethu arnom. Yy ydym wedi llwyr anghofio yr hyn a ddy- wedodd y pregethwr hyawdl ac addurniadol a bregethodd gyntaf ; ond ni bydd i ni anghofio yr hyn a ddywedodd Dr Edwards tra parhao ein cof. Yn gyflredin, ceir ef yn trafod, gyda phwyslais ac eneiniad, ar athrawiaethau sylfaenol yr efengyl. Y mae ei feddwl yn gyfosodawl (synthetic) o ran ei nodwedd. Yn hyn gwahaniaetha yn í'awr oddìwrth y Parch David Charles Davies, A.C., un arall o bigion pregethwyr y Dywysogaeth. DosranawÌ (analytic) ydyw nodwTedd Mr Davies. Y mae yn wledd ddanteith- *ol i cistedd dano, a'i weled yn hollti derw neu yn hollti gwellt, fel y digwyddo, gyda medrusrwydd rhyfeddol a cirywirdeb diféth; oganlyniad, ei air mawr ef ydyw " ond." Efe a ddyry i lawr ei osodiadau; " ond," meddai, ac yna ä yn mlaen i ddosranu. Ceir gosodiad pwysig arall ganddo : " ond," meddai efe drachefn, a dyna raniad cywrain arall. Pwy byth a all anghofio " ond" Mr D. Charles Davies % Y mae ei allu mawr fel dosrauwr yn ei wneyd yn hoífddyn ein myfyrwyr duwinyddol. Ond gallu cyfosodawl fel yr awgrymwyd, yw yr eiddo Dr Edwards; nid yw ele yn dos- ranu—hyny yw, nid dyna ei linell amlwg—cyfuno y mae efe ; nid yw efe yn gwahanu, ond yn cysylltu; gan hyny, ei air mawr ef ydyw "ac." O "äc" i " ac" yr ä yn mlaen nes yn fuan y cymer afael yn yr Iawn. Ni chlywsom ef erioed yn pregethu heb cldwyn yr Iawn gerbron. Dyma ganolbwynt ei weinidogaeth— " Iawn." Dyma hey-word ei dduwinyddiaeth—" Iawn." Ac nis gall neb a'i clywodd yn pregethu yn ei ddull hapus ei hun yn hawdd anghofio yr " Iawn. Clywsom ef yn ddigon marwaidd (flat) lawer gwaith ; ac un o'r profion digamsyniol nad yw ei feddwl mewn hwyl ydyw ei ail- adroddiad o'r frawddeg dra adnabyddus—" Dyma i chwi beth mawr." Darllena ei destyn : cä yn mlaen yn arafaidd. petrusgar, ao efallai tipyn yn drymaidd ; cyn hir daw yr hen frawddeg allan— " Dyma i chwi beth mawr." Chwi wrandewch, ond nid yw y " peth mawr" yn gwneyd ei ymddangosiad. Mae yn hertian yn mlaen yn araf a thrymaidd drachefn am bum' mynyd arall ; yna ceir y geiriau, y waith hon gyda phwyslais trymach—" Dymai chwi beth mawr ; " ond y mae y " peth mawr " eto yn gomedd dyfod yn mlaen. I ni sydd wedi ei glywed yn fynych, ac sydd yn gallu adnabod " arwyddion yr amserau," bydcl ei farweidd-dra bron mor fwynhaol a'i hwyl. Ond pan fydd y gwynt yn llanw ei hwyliau yn dêg, efe a ä yn mlaen i fyny ac i lawr yn fawreddog, fel Môr y Werydd mewn tymhestl. Y pryd hwnw efe a ddyry ei bethau mawrion heb grybwyll dim am eu mawredd ; ceir meddwl ar gefn meddwl, nes eich llethu âg ofn a syndod. Ai am Jean Paul y dy- Avedwyd ei fod yn chwáreu pêl gyda'r ser ] Eodd bynnag, bydd Dr Edwards, pan mewn hwyl, yn lluchio allan feddyliau fel byd- oecld—yn fawr, crwn, a llawn ; ac yn eich gorlethu â syniad ofnad- wy am annherfynoldeb mawredd. Yn hyn, eto, ceir ef yn gwa- haniaethu oddiwrth y Parch D. Charles Davies. Bydd Mr Davies, mae'n ddiau, yn ein dallu â'i ddisglaerdeb ; ond, fel yr awgrymwyd yn barod, tra mai meddwl pellddrychawl (telescopic) sydd gan Mr Edwards, meddwl chwyddwydrawl (microscopic) sydd gan Mr Davies. Dengys Mr Edwards ryfeddodau y sêr, dengys Mr Davies ryfeddodau gronynau. Mr Edwards a arddengys fawredd y byd- oedd, dengys Mr Davies fawredd mân lwch y clorianau a'r perlau gwTerthfawr a gyfyd efe i fyny. Dengys y ddau ryfeddodau anfeidroldeb ; ond dengys Mr Edwards anfeidroldeb mawredd, a Mr Davies anfeidrol bychander. Ond prin y mae y frawddeg olaf yn gwneyd tegwch â Mr Davies, oblegid ystyriwn ef mor fawr yn ci ffordd ei hun ag ydjrw Mr Edwards yn yr eiddo yntau. Y mae rhyfecldodau y chwycldwydr yn hafal i ryfeddodau y pellwelyr : nid yw y chwyddwydr yn ddim amgen na'r pellwelyr yn wrthdrö- edig. Dywedasom maiprif air duwinyddol Dr. Edwards ydyw "Iawn." Wel, enw ei brif wTaith duwinyddol ydyw " Athrawiaeth yr Iawn." Yr unig adgof annymnnol sydd genym mewn cysylltiad â Dr. Edwards ydyw digwyddiad a gymerodd le unwaith mewn dosparth a gyfarfyddai i ddarllen y llyfr hynod hwn. Yn niniweidrwydd ein mebyd anturiasom ddangos ein anghydsyniad â rhyw ym- resymiad sydd yndclo ; daliasom yn ein gwrthwynebiad. efahai ychydig yn annoeth; ac Ow dyna Iau yn taflu taranfollt. Anturiwn feddwl fod yr holl fyfyrwyr oedd y pryd hyny yn yr athrofa yn parhau i gofio y ffrwydriad. Ond yr hyn a gyfeiriocld ein greddf i ni y pryd hwnw fel ditìyg yn y llyfr, a gadarnhawyd gan ein barn addfetach. Ystyriwn ef y gwaith galluocaf a ysgrifenodd Dr. Edwards ; ond eto nid ydyw yn foddhaol. Yn mha beth y mae ei ddiffygion yn gyHnwysedig ì ebe'r darllenydd. Yn hyn—nid ydyw y darlleniad mwyaf gofalus ohono yn rhoddi i'r meddwl y gorphwysdra a ddymuna. Nis gwyddom yn sicr pa beth a feddylia y Beibl; nis gwyddom yn sicr beth a feddylia Dr. Edwards ; nis gwyddom yn sicr pa beth i'w feddwl ein hunain. Y mae amryw flynyddau er's pan ddarllenasom ef, ac felly yr ydym yn agored i gael ein cywdro ; ond ymddengys i ni fel wedi gadael yr ymresymiad heb gasglu yn nghyd yr edefynau, a'i ddwTyp i derf'yniad boddhaol. Ei brif waith, meddwn eto, ond y lleiaf boddhaol. Ond ai bai Dr. Edwards yw hyny ì Nis gwyddom ni; efaìlai nad yw yn fai o gwbl. Gall fod athrawiaeth yrlawn yn herio eglurhad ! Dyna'r pwnc. Y mae Dr. Edwards wedi gwneyd llawer; hwwrach y byddai allan o le ynom i awgrymu y dyíai ychwanegu pennod arall fel math o derfyniad i'w ymresymiad ; efallai icldo beidio gorphen ei ymresymiad oherwrydd fod yr athrawàaeth mor fawr, mor ddofn, ac mor uchel fel ag i herio gorpheniad. Fodd bynag, gellir myntumio un peth—mae y llyfr yn dra thebyg o argraphu ar feddyliau eì ddarllenwyr ddirgelwch mawr yr athrawiaeth, ac rnae y dirgelwch yn fwy yn y diwedcl nag yn y dechreu. Ond dylem gofio mai goleuni yn unig all ddangos dirgelwch. Efallai y dywedir ein bod wTedi aros gormod gyda rhagorion Dr. Edwards. Atebwn—dyna oedd ein hamcan, oblegid dyna ein hunig hawl gyfreithlon. Gellir edrych ar feirniadaeth mewn dwy