Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYHOEDDIAD MISOL Y BOBL RHIF. XL CYFROL IV. GORPHENHAF, 1879. PRIS CEINIOG. Y PAROH- LBWIS BDWARDS, A.O., D.D., BALA. DARLLENYDD, y mae hawl berffaith genym i roddi y teitlau uchod ar ol enw hybarch brif- athraw Coleg Methodistiaid Calfinaidd Gogledd Cymru. Nid oes Gymro yn awr yn fyw yn fwy haeddiannol ohonynt, neb wedi llafurio yn fwy gonest a llwyddiannus am danynt, na neb wedi eu hanrhydeddu yn fwy am flynyddau lawer, na gwrthddrych enwog y sylwadau hyn. Megis, yn fynych, mai " y dillad yw y dyn," felly, hefyd, y teitlau yn unig sydd. yn dynodi yr ysgolhaig; ond y mae holl Cyffredin. Wedi efrydu yno am beth arnser, ymgymerodd â bugeiliaeth eglwys fechan y Methodistiaid Calnnaidd yn Laug- harne, sir Gaerfyrddin, a bu yno am flwyddyn. Oddiyno aeth i Brifathrofa Edinburgh lle y bu yn efrydu am yspaid tair sesiwn. Gymaint ydoedd ei ragoriaeth fel ysgolhaig fel y darfu Proffesor Pillnns, Dean of the Faculty of Arts, gynnyg i'r Senatus fod i'r efrydydd galluog, Lewis Edwards, yn groes i'r rheolau mewn grym ar y pryd, gael caniatäd i enill y radd o A.O. mewn tair blynedd, yn lle gorfod aros i hyny am bedair blynedd. Felly fu, ac enill- wyd y radd hono gydag anrhydedd anarferol. O Edinburgh dy- r' Gymru—yn Ëglwyswyr yn gystal ag yn Ymneillduwyr—yn parod gydnabod fod ysgolheigdod addfed, a meddylgarwch cryf Dr Edwards wedi cyflawn brofi i'w gyd-wladwyr mai efe sydd yn addurno ei deitlau, yn hytrach na'i deitlau yn ei addurno ef. Ganwyd Dr Edwardsar yr 27ain o Hydref, yn yflwyddyn 1809, mewn (efallai) le o'r enw Pwllcenawon, yn mhlwyf Llanbadarn- fawr, gerllaw Aberystwyth. Aeth i fyny i Brifathrofa Llundain (fel y'i gelwid y pryd hwnw), yn y flwyddyn 1831, pan ddygodd Arglwydd John Èussell ei Fesur Diwygiadol gyntaf i sylw Ty y chwelodd y Dr i Gymru, gan ymsefydlu, ar gaìá Cymdcithasi';i Chwarterol y Methodistiaid Calfinaidd, fel prifathraw cyntaf eu Coleg yn y Bala ; ac yno er's llawer blwyddyn bellach y mae efe wedi llafurio yn galed a doeth, er dirfawr fantais i'w wlad a'i gen- cdlaeth yn feddyliol, foesol, a chrefyddol. Nis gwyddom am ddim a ysgrifenwyd ar Dr Edwards yn fwy gwreiddiol a dyddorol nag ysgrif y Parch J. Cynddylan Jones yn y ' Christian Echo,' oddeutu deunaw mis yn ol. Y mae yn hyfryd- wch i ni gael ail-argraphu rhydd-gyfieitîiiad ohoni yma :—