Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

34 Y DAELUNYDD. ddwfr yn llawer llai cronell, ond yn cydmaru yn ddynmnol iawn o ran ei rin a'i ansawdd. Goferig risialaidd i ddiodi cenedl, oedd ei awen ef, ac nid morlyn eang i nofio a physgota ynddo. Yr oedd ei athrylith ef f el y fíynnonig lachar-loew ar y grodir glaslân, yn tragywyddol fwrlymu allan yn ddigyfrwng o fynwes natur. Pob ystenaid olynol ohoni, yn ddwfr pur a newydd grëedig o ddistyllfa anian—dwfr ffynnon Mai! trwyadl. Saif ei gymeriad fel bardd ac fel Uenor yn gwbl wrtho ac arno ei hun. Dirmygai y meddyl- ddrych o rodio mewn arfogaeth fenthyg. Ei unig offer ef, ar gyfer pob gornest, oedd ffon-dafl ei gynhenid awen, a ehôd y ped- war ar hugain ; a pha gareg bynag a ddodai yn ei dafi, ergydiai hi i gnewyllyn talcen ei wrthddrych âg anffaeledigrwydd tynghedfen. V r oedd ei hyddysgrwydd naturiol â threigliadau priodol y Gymraeg, ac â nodweddion cynhenid ei llen a'i llafar, yn nghyd â'i adnabyddiaeth gyfarwydd o holl anian-deithi ei gwir farddon- iaeth, yn gwneyd y gorchwyl o benderfynu teilyngdod cydmariaeth- ol gwahanol gyfansoddiadau, yn hawdd a di-drafferth iddo. Yr oedd mor annaturiol i Drebor Mai gamgymeryd mewn barn, ag ydyw i ambell ymhonwr di-awen ddigwydd bod yn iawn. Dywedwyd eisoes, na addefid ef gan bawb, efallai, yn un o'r beirdd mwyaf a chyfoethooaf a feddai y genedl, er y rhaid i mi aros cael fy argyhoeddi pwy sydd yn rhagori arno o ran purdeb a phereidd- der ei farddas, Yn sicr ddigon, " Y mae diwrnod cyn- hebrwng fy mam," "Pawb a phobpeth yn myn'd yn hen," cywydd y "Bedd," hir a thoddeidiau drylliad y "Eoyal Charter"; englynion y " Bywyd-íâd," heblaw ei ugeiniau ereill o gyfansoddiadau arob- ryn, a'i " Fil o Englynion " hapus ar destynau neillduol, yn rhes- ymau digonol dros osod iddo y safie fiaenaf yn mysg beirdd ei genedlaeth. Y prif reswm am ragoroldeb ei chwaeth, a'i feistrol- aeth drwyadl ar egwyddorion iaith a barddoniaeth Gymreig, yw ei fod wedi eu hefrydu a'u meistroli o'r cyfeiriad priodol, wedi eu dadrys o'r pen deheuig ! Cymro hunan-addysgol oedd efe. Bu mewn ysgol ddyddiol yn brin ddigon o hyd i ddysgu ysgrifenu ei enw, a digon f el ag i wybod ychydig am ffurf ac ystum y gwahanol lythyrenau, a dyna y cwbl ! Mab ydoedd i Eobert Wiliiams, teiliwr, Trefriw, ac Ann ei wraig, yr hon oedd ferch Ty'n-yr-ardd, yn ngodreu mynydd Llan- rhychwyn, lle hefyd y ganwyd Trebor, ac y treuliodd y pedair Mynedd cyntaf o'i fabolaeth. Oddiyno, symudodd i Dy'n-y-coed, yn ymyl eglwys henafol Llanrhychwyn, ac yno, dan yr un tô ag ef, y preswyliai Owen Boberts, yr hwn yn mhen enyd a ddaeth yn bregethwr poblogaidd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac a ymsefydlodd yn Llwyngwril. Yr oedd y ddau fachgenyn athrylithgar, yn gyfeillion anarferol, yn gyd-addysgwyr yn yr Ysgol Sul, ac yn gyd-efrydwyr gartref. Mynychent y gwasanaeth a gynnelid yn yr eglwys gerllaw, un- waith bob Sul, yna i'r Ysgol Sul i'r Tai-isa,', ac i gapel y Method- istiaid Calfinai'dd i Drefriw i'r oedfaon hwyrol. Dyna oedd y dyddgvlch Sabbathol, rheolaidd a diwahaniaeth. Eu cydymdrech gwastadol, bob nos arall o'r wythnos—gartref ac oddicartref—oedd blaenu a rhagori, y naill ar y lla.ll, mewn gwybodaeth, a chôf, a dysg. Fel, erbyn i'r Trebor ieuanc orfod gadael hen aelwyd ddedwydd Ty'n-y-coed—ar symudiad ei rieni i Lanrwst, pan nad oedd ef ond tair ar ddeg oed,—yr oedd wedi gwneuthur cynnydd anghyffredin mewn gwybodaeth a medr llen- yddol. Pan oedd yn ddeg oed, derbyniwyd ef i seiat y plant yn nghapel y MethodistiaidCalfinaidd yn Nhrefriw. Ystyriai hyny yn gyfnod dyddorol yn ei fywyd. Dyma yr amser y cyfansoddodd ei linellau barddonol cyntaf erioed. Yr oedd wedi bod yn darllen am fynediad Israel trwy y Môr Coch, yn yr Ysgol Sul y prydnawn hwnw ; a chan fod y pennill yn waith bachgenyn 10 oed, dodir ef yma yn gyfiawn :— Ffarwel i gwmpeini'r Aiphtiaid, ac i'r holl gaethiwed blin, Môr o haeddiant Crist yn unig, a'm gwaredodd iddo'i hun; Er gwaethaf Pharao a'i gerbydau, cefais rhwng y bryniau serth, Do, mi ges fy nghadw'n hollol, trwy anfeidrol ddwyfol nerth. Ar ol i'w dad a'i fam symud i Lanrwst, daeth ei gefnder, Enoch Williams (Llithrig Arfon), i gyd-fyw â'r teulu, ac i gael ei egwydd- ori yn y gelfyddyd. Daeth y ddau gefnder awenol yn gyfeillion anghyfíredin, a thrwy fod y penteulu eihunan yn rhydd brydydd- wr o gryn nôd, daeth cyfansoddi pennillion, ar wahanol destynau, yn un o'u prif ddifyrion, wrth gydweitho. Yr oedd y diarhebol Bobert Owen, y nailor (Einion), yn gweithio yn Llanrwst, y cyfnod hwnw. Cafodd y ddau fardd isuanc bob hyfforddiant ac addysg ganddo, i ymberffeithio yn y gynghanedd, ac yr oeddynt mor gyfartal dda fel englynwyr, fel na wyddid yn y bycí,—am rai blynycldoedd—yn ffafr pa un ohonynt y troai mantol athrylith ac enwogrwyd'd. Cydymdrechent yn mhob cystadleuaeth englynol a ddigwyddai yn eu cyrhaedcl, ac nid yw y beirdd craffus,—a ddarllenasant y " Llwyn Awen," o waith y naill, a " Fy Noswyl," o waith y llall,—heb sylwi ar y llinell o debygrwydd nodweddiadol sydd ynddynt, yn gystal yn ffurfiad y gynghanedd ag yn nelwedd y dychymygiad. Yn y cyfwng hwn, daeth y prif-fardd Caledfryn i weinidogaethu i Lanrwst, ac nid hir y bu cynnyrchion y ddau fardd ieuanc heb enill ci sylw a'i edmygedd. Daeth y ddau yn wrthddrychau ei ofal a'i addysg farddol, yn gystal ag yn aelodau llewyrchas o'r eglwys oedd dan ei ofal. Daeth Trebor yn ebrwydd wedi hyn, i enilly flaenoriaeth ar ei gydefrydydd—mewn coetîider, arabedd, a dychymygiad, ac o'r amser hwnw hyd ddiwedd ei yrfa ddaearol, daeth i enill y flaenoriaeth ar y naill a'r llali o'i gydoeswyr, hyd nes y cyfiawn ryglyddodd y cyfenwad o arch-englynwr Cymru ! Dywed y prif-fardd cadeiriawg o Dyddyn Cethin,—yn ei awdl odidog ar Syr John Wynn o Wydir—fod athrylith a chynneddf yn disgyn " yn y gwaed ;" eu bod yn cadw eu llinach o genhedl- aeth i genhedlaeth, ac mai " Un nôdd a dawn—yn ddi dòr, Yw llin y bardd a'r llenor." Y mae y sylw pert yna yn gwbl wir o'i gymhwyso at Trebor Mai. Yr oedd awen yn y teulu. Bravvd i'w daid ef oedd Sion Bobert, o'r Perthi,—awdwr y llyfr o Emynau gafaelgar a gyhoeddwyd yn Nhrefriw, yn y ganrif o'r blaen. Yr hwn oedd hefyd yn un o brif ddadgeiniaid Gwynedd gyda'r delyn.—Ei dad, a'i ewythr, a'i gefnder hefyd oeddynt gyflawn o'r un ysbrydiaeth. Priododd y ddau gefnder awenol eu gwragedd ar y 13eg o Ilydref, 1854. Y naill yn gweinyddu fel gwâs a morwyn i'r llall, a dyna yr adeg y gadawsant aeiwyd ddyddorol Bobert Williams, yn Heol y Plâs Helyg. Unig ferch y diweddar William Thomas, crydd cyfrifol o Lanrwst, oedd priod Trebor, a bu iddo yn gydmares werthfawr ac egniol. Ar ol ei briodas. aeth Trebor a'i briod i fyw i'r ty a elwid yr Hen Fanc, yn mhen isa'r clref. Ganwyd eu merch Ann, a'u mab William Bobert yn ystod y ddwy flynedd gyntaf o'u priodas, ac ni bu dad erioed a roddodd fwy i fabiaetb ac anwes i'w blant nag a roddai. Wedi i'r awenydd ymsefydlu fel hyn yn y byd, dechreu- odd weithio ei ffordd trwy rwystrau ac anfanteision i wneyd llwybr hyffordd iddo ei hun trwy ei anialwch. Pa biyd bynag yr elid i'w dy—ai boreu, ai nawn, ai hwyr,— ceffid ef bob amser yn dygn erlyn ei alwedigaeth â dyfalwch ac â diwydrwydd un wedi ymddiofrydu i enill iddo ei hun safle gysur- us a pharchus mewn bywyd. Ni byddai un amser mor ddedwydd yn nghyfansoddiad éi linellau barddonol, nac mor ddifyr a hoenus ei ysbryd, a phan yn diwyd weithio a'i ddwylaw—ar y bwrdd. Dyna oedd ei brif bleser a'i hyfrydwch. Os mynid cael ymgom bleserus a dyddorol âg ef, yr oedd rhaid myned ato i'r ystafell weithio. Yno yr oedd yn ei elfen. Ychydig iawn o'i gyfansodd- iadau buddugol sydd yn dyddio yn foreuach na'i sefydliad yn yr Hen Fanc—dim ond yr englyn i'r " Fuwch," yn Ffestiniog. Yn yr Hen Fanc yr oedd y wir athrofa, Ue yr ymwneid â holl gyfrinion llen a barddas : yno yr ymgyfarfycidai Llithrig Arfon, loan ab Gwilym, Glan Conwy, Gwilym Cowlyd, Ieuan Doged, Dewi Arí'on, Getliin Jones, Deiniol Dclu, a phob bardd a phrydydd arall yn y rhandir, ac y pwysid pob cyfansoddiad yn nghlorian pwyll a chelfyddyd. Yn Chwefror, yn y flwyddyn 1855, sef ar ddiwrnod cynhebrwng Ieuan Glan Geirionydd, y dechreuodd y gyfeillach dra chyfeillgar rhyngddo ef â Gwilym Cowiyd. O'r dyddiad hwnw hyd 1868, yr oeddynt yn wastadol gyda'u gilydd, yn mhob man, ac ar bob adeg ddichonadwy, a buont o ddirfawr adeiladaeth a chyfnerthiad y naiil i'r UalL Yn ystod y dra chyfeillach yma, y cyfansoddodd pob un o'r ddau eu holl ddarnau buddugol. Yr oeddy brawdgarwch rhyngddynt mor gryno fel na chyfansoddai y naill un amser ar destyn y gwyddai fod y Uall yn cystadlu arno. Digwyddasant ganu yn ddiarwybod, ar haner dwsin o fân destynau, yn ystod yr amser. Cafodd Trebor y llawryf am yr englyn i'r Cudyll Coch, a beddargraph Owen Owens, Dolwydd- elan, a cha'dd Gwilym y flaenoriaeth am alargerdd Dafydd am Saul a Jonathan, englyn y Lili, a hir a thoddaid y Cae Gwenith. Bhanwyd y wobr rhyngddynt am y chwe' englyn i H. W. Kyflin, dan feirniadaeth Pyll; ac ymffrostiai Trebor fwy oherwycld bod yn gyd- fuddugol â'i gyfaill yn yr amgylchiad hwnw, nag a wnai am un- rhyw fuddugoliaeth gyflawn arall a gafodd yn ei oes. Nid oddiar deilyngdod neillduol yr englynion yr ymgodai y teimlad hwnw, yn ddiddadl, ond o'r meddwl uchel a goleddai y naill am y llall. Yr oeddynt wedi cyd-ddysgu, cyd-olrhain, a chyd-farnu pob pwnc a phob nôd angen, perthynol i farddoniaeth a'i pherthynas- au, ac yn gallu cydweled lygad yn llygad ar yr oll. Aent yn nghyd i bob cystadieuaeth ac Eisteddfod, a chydfeirniadent eu rhagorion a'u diffygion o'u cydmaru â hanesiaeth yr Eisteddfodau gynt. Aethant hwy eu dau a Dewi Arfon yn nghyd i Eisteddfod Dinbych, 1860; yno yr aeth Gwilym a Dewi gyntaf trwy gyntedd dynwarediad o Orsedd y Beirdd, i dderbyn urdd. Yr oedd Trebor wedi derbyn yr unrhyw yn Eisteddfod Porthmadog, 1856. Yr oedclynt eu tri yn bresennol yn nghyfarfod y beirdd yn y neuadd, pan y proffesid ffurfio urdd i gario yn mlaen " Yr Eistedd- fod;" ond gomeddasant uno, am nad oeddynt yn gallu dygymod â newyddianwaith y cynllun. Credent hwy mai henafiaeth yr Or- sedd a'r Eisteddfod oedd ei gogoniant. Wedi i'r ddau gyfaill ym- bresennoli yn mhob Eisteddfod o hyny hyd 1863, a chanfod er eu gofid nad oedd unrhyw reo', na chyd-ddealltwriaeth sefydlog, yn mysg y beirdd gyda golwg ar Ddefion ac Urddau Gorsedd, daeth i f eddwl Trebor y buasai yn ddymunol iawn cael math o gynnull- iad difyrus (pic-nic) o feirdd a llenorion, er mwyn rhoddi cyfleus- dra idcíynt i ymgydnabyddu â'u gilydd, ac felly eu dwyn yn fwy unol ac unfarn. Dyna oedd y meddylddrych a roddodd fodolaeth i Arwest Farddonol Glan Geirionydd. Mewn Uanerch deg ar lan llyn Crafnant y cynnygiai Trebor ar y cyntaf iddi gael ei chynnal, ond digwyddodd i'r meddylddrych gael ei grybwyH wrth Miss Jane llogers, Trefriw, yr hon a nododd mai ar lan llyn Geirionydd, lle yr oedd Taliesin ben beirdd yn byw, a'r lle oedd mor anwyl gan Ieuan Glan Geirionydd, y dylid ei chynnal, ac felly mewn canlyniad y penderfynwyd. Yr oedd y prif-fardd Gethin Jones, y pryd hyny yn adeiladu gwesty y Queens Hotel, yn Llanrwst,_ ac ymunodd ef â Mr. O. Jones (Adeiladydd) yn galonog yn nygiad yn mlacn yr amcan. Anfonwyd allan gyichlythyrau at 45 o feirdd a Uenorion. Bhoddodd y mwyafrif ohonynt eu presennoldeb. Agorwyd gorsedd rag^ barotoawl ar ben Bryn y Caniadau, gan Gwilym Hiraethog, I. D.