Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYHOEDDIAD MISOL Y BOBL RHJF. XXXVII. CYFROL IV. EBR/LL, 1879. PRIS UN OEINIOG. MR. JOHN OEIRIOG HUGHES, CAERSWS. ELE i ti, ddarllenydd, ddarlun rhagorol o'r bardd enwog a phoblogaidd, John Ceiriog Hughes. Gwelir yn union wyneb rhadlon ac agored, a chyn belled ag y medr celfyddyd efelychu bywyd, wele'r awenyddwr Cymreig fel pe byddai yn fyw o'th fiaen. Llawer a ddisgwyhd, o dro i dro, am ei ddarlun yn y ' Darlunydd !' Bydd yn dda gan y rhai hyny na welsant ei wyneb o'r blaen ei gan- fod ar y ddalen hon. Teimlem braidd yn wylaidd wrth wneutlmr ychydig sylwadau am dano ac yntau ei hun yn fyw. Carasem wneuthur Uawer nodyn ac awgrym y buasai yn dda gan y miloedd eu gweled. Ónd efallai, er tewed ei groen, mai nid boddlon fyddai hyny ganddo. Ganwyd ef ar y 25ain o Fedi, 1832, sef y diwrnod y claddwyd Syr Walter Scott. Yn ol y " Book of Days," ar y 25ain o Fedi, 1793, y ganwyd hefyd Felicia Hemans, y farddones a ganodd Saesneg oreu o neb, hyd yn hyn, ar ein hen alawon cen- neb, hyd yn hyn, yn fwy adnabyddus, ac y mae poblogrwydd ei waith yn debyg o ddal ei dir, am mai ar ei deilyngdod noeth ei hun y mae yn sefyll. 'Dyw ef ddim yn bregethwr efo un enwad, nac yn berson mewn un Eglwys, i helpu ei boblogrwydd yn ystod ei fywyd. Nid gwr y llwyfan mohono, ond carwr y gornel dawel aílan o lygaid torfeydd a bloeddiadau pobloedd. Er y gall ef ganu, neu yn hytrach fwmian canu, gannoedd o dônau i foddio ei hun, eto ni welodd neb erioed mohono ar ei draed yn lleisio cerdd, ac nid oes dim a gasha yn fwy na gorfod adrodd rhyw ddarn o'i waith ei hun. Gan hyny nid ei waith ef yn canu, nac yn dyweyd, nac yn gwneyd dim mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn Nghymru, Lloegr, ac America sydd yn gwneyd ei enw'n boblogaidd a'i ganeuon o " Myfanwy Fychan" i lawr mor dderbyniol gan ei gydwladwyr. Safant ar deilyngdod mewnol ac annibynol, ac ar y swyn anfarwol sydd ynddynt. Y mae gan bob gwir fardd y stamp hwnw ag y gellir ei adwaen a'i deimlo yn y fan. Gellir yn hawdd adwaen gwaith Dafydd ap Gwilym, Huw Morus, Goronwy Owen, Williams, Pantycelyn, Dafydd Ionawr, Dewi Wyn, &c, heb wybod yn flaenôrol mai hwy vs| Sm''^"'^ ^.•>?'• ^W'.^' v'v -M '-M--À wÊÈ: : "' m Lä //fiÙè'^U ■ÉiinÉI ^&SSÌsisSuäm \Xv!ss!ẅä yŵN^cJCjS ^MmMÌì ISfl wm \X^ ?^P IPPPIP edlaethol. Mab ydyw i fíermwyr cyfrifol o'r enw Bichard a Phebe Hughes, Pen-y-bryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, swydd Ddin- bycn. Saif yr amaethdy ar fryn tua thair milltir yn uwch i fyny'r afon Ceiriog na Phont y Meibion, lle yr oedd cadair yr hen fardd awenber, Huw Morus, ar fin y ffordd, hyd yn ddiweddar, pryd y cymerwyd hi er diogeíwch i ardd yr Erw Geryg, dipyn yn uwch. Ni chafodd Ceiriog ddiwrnod o ysgol oddigerth yn mhentref bycban a dinod Nant-y-glog. Ar ol y plant yr ydoedd fel cyfrif- ydd, ond yn mhell ar y blaen fel gramadegydd. Dysgodd ramadeg Cymraeg trwy i'w dad gamddeall yr ysgolfeistr, a phrynu yn lle Linley Murray, swllt, Ramadeg Tegai am yr un bris oddiar gy- hoeddwr yn y Bala, o'r enw Saunders. Dysgodd barsio y Gram- adeg Cymraeg mewn tuag wythnos neu naw diwrnod, a chafodd y blaen yn mhell ar y plant ereill am ei fod yn dysgu yr iaith Saesneg trwy gyfrwng Gramadeg y Gymraeg. Mae hwn yn bwnc inawr y dyddiau hyn yn mysg Arolygwyr Ysgolion y Dywysogaeth, sef yr angenrheidrwydd o ddysgu geiriau Saesneg i blant Cymru trwy ofyn beth yw y geiriau hyny yn Nghymraeg, ac y mae llawer ys- golfeistr o Sais yn ein gwlad mewn penbleth yn fynych efo'i well, am nas gŵyr Gymraeg i'r diben crybwylledig. Y mae'n debyg nad oes un .Be.yn y byd mawr, heblaw Cymru, lle dysgir Saesneg gan ysgolfeistriaid a phroffeswyr na ivyddant yr un gair o iaith y bobl a ddysgant l Ond yr ydym ni, ysy waeth, wedi ymgynelino a llwydo mewn gwaseidd-dra, ac ni wyddom ddim amgenach ! Am farddoniaeth Ceiriog Hughes y mae'n debyg nad oes eiddo ydoedd awdwyr y cywydd hwn a'r awdl arall. Felly yn gymhwys yr adwaenir gwaith Ceiriog Hughes. Y mae ganddo yntau ei arddull arbenig nad ydyw yn perthyn i neb arall ond iddo ef ei hun. Nis gwyddom am neb eto ag sydd wedi deall sut i gyfan- soddi geiriau ar fiwsig yn debyg iddo, hyny ydyw mor felodaidd a barddonol. Saif ef yn uwch na ni oll yn y byd caneuol, fel y saif y Wyddfa yn uwch o'i hysgwyddau na mynyddoedd ereill hen Wlad y Gân. Efe ydyw Ceiriog y Cymry, ac ni raid i ni gywil- yddio yr olwg arno yn ochr Burns, Tom Moore, a Beranger. Y drwg yw rhaid iddo farw cyn y caiff fyw gyda hwynt. Ei ganeuon yn y "Songs of Wales" sydd yn gwerthu y llyfr hwnw, ac yn lladd y llall. Rhaid fod ein bardd yn gerddor wrth reddf natur. Nid cerddor lleisiol mae'n wir—nid cerddor yn deall y nodau. O nage. Wel, pa fath gerddor ydyw ] Un i'el hyn : dysga yr alaw yn gyntaf cyn cyfansoddi arni. Yn wir bum i fy hun yn ei ddysgu ddengwaith ; ac yna y galluogid ef gyda y ciwtrwydd hwnw i ddeall anianawd yr alaw, a chyfan- sodda eiriau cymhwys o'r un natur a'r gerddoriaeth. bydded leddf neu lòn. Wrth edrych dros y " Songs of Wales yr ydym yn dotio ar y caneuon " I Blas Gogerddan," " Eryri Wen," " Llwyn On," k,c. Rhoddwn y gyntaf er esiampl:— " I Blas Gogerddan heb dy dad ! Fy mab erglyw fy llef, Dos yn dy ol i faes y gâd, Ac ymladd gydag ef !