Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYHOEDDIAD MISOL Y BOBL RHIF. XXXVI CYFROL IV. MAWRTH, 1879. PRIS GEINIOG. Y DIWBDDAR BAROH. J. JONBS (MATHBTBS). OR chwith yw y syniad i filoedd mai darlun y gwr enwog uchod a geir syllu arno bellach, ac nid edrych ar ei wyneb siriol ac expressive. Oymerodd y cyf- newidiad le yn ei breswylfod yn Llansawel, neu Briton Ferry, nos Sabbath, Tachwedd 17eg, 1878. Nid oedd ond dyn cydmarol ieuangc gan fod rhyngddo bedair blwydd a chyrhaedd ei dri-ugain oed. Yr afiechyd a'i ond odid i rywrai eraill ymysgwyd oddiwrth y difaterwcli cyffredin sydd yn nodweddu eu cydardalwyr, ac yn hytrach na bod fel hudlewyn yn y gors disgleiriant fel ser tanbaid yn ffurfafen llenyddiaeth a dysg. Wrth rodio glanau afon Teifi o Landysul i Gastellnewydd Emlyn, ac hyd dyfrgwymp Cenartli, canfyddir ar bob llaw dai a murddunod lle magwyd rhai o brif gewri y pwlpud yn y Dywysogaeth. Mae y Bedyddwyr yn neillduol wedi cael dygodd ymaith oedd y cancer yn y cylla, yr un peth a brofodd yn farwol i'r gwyr athrylithgar Cynddelw a Mynyddog. Mae Ír afiechyd hwn yn bur gyffredin i rai sydd yn treulio llawer o'u amser yn eu myfyrgelloedd, ac yn dueddol i feddwl mwy am sefyllfa iach yr ymenydd nag eiddo y cylla. Rhyf edd fel y mae ambell lecyn yn Nghymru wedi ei hynodi fel mangre genedigaeth llu o enwogion mewn rhyw gylch neu gilydd. Nid ydym yn credu mai i unrhyw swynion o eiddo natur yn y lleoedd hyny, nag i ddylanwad golygfeydd dyddiau maboed, yr ydym yn ddyíedus am hyn. Wedi i un glew a dewr ymgodi drwy rwystrau dirfawr o fro, rhydd ei esiampl ef gynhyrfiad effeithiol llawer gwr nerthol o'r parthau hyn, er y buasai y ffaith mai yn Llandysul y ganwyd Christmas Evans yn ddigon i wneyd y cwmwd yn gysegredig iddynt hwy. Yn ardal Castellnewydd y ganwyd Mathetes. Nid ydym yn gwybod faint oedd ei oedran pan symudodd oddiyno, ond gwyddom iddo pan yn lled ieuanc fyned ar bererindod fel Abraham, a chael ei hunan yn nghanol berw y gweithfeydd. Bedyddiwyd ef, ni a gredwn, yn Dowlais gan y ParchW. R. Davies, a than gyfarwyddyd a bugeiliaeth y gwr enwog uchod dechreuodd bregethu, gan draddodi ei bregetli gyhoeddus gyntaf o flaen ei weinidog ryw nos Sabboth yn Hirwaen. Yr oedd hyn tua'r fiwyddyn 1838. Wedi cael derbyniad i Athrofa Hwl-