Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYHOEDDIAD MISOL Y BOBL RHIF. XXXV. CYFROL IV. CHWEFROR, 1879. Y PARCH. D. HOWELL, B.D- (LLAWDDEN), GWRECSAM. MAE enW Llawdden yn dra adnabyddus trwy Ddeheudir a Gogledd Cymru er's blynyddau bell- ach. Pa un bynag ai fel bardd, ai fel llenor, ai fel pregethwr, ai fel offeiriad plwyfol, ai ynte fel dyn, y mae Mr Howell yn addurn i'r Eglwys o'r hon y mae yn aelod, ac yn anrhydedd i'r wlad a'i mag- odd. Ganwyd y Parch D. Howell ar y 16eg o Awst, 1831, yn mhlwyf Llangan, yn sir Forganwg. Mab ydyw i Mr John Howell, o Ben- coed, yn mhlwyf Llangrillo, adnabyddus yn y Deheudir fel bardd, ac ysgrifenydd Cyfarfod Misol y Trefnyddion Calfinaidd yn y sir uchod. Treuliodd yr un mlynedd ar hugain cyntaf o'i oes yn ei blwyf enedigol. Dygwyd ef dan argraphiadau crefyddol dan weinidog- aeth hyawdl a difrifol yr Archddeacon Griffith, periglor Castéll- nedd, y pryd hwnw yn gurad Llangan. Canlyniad yr argraph- iadau daionus hyn ydoedd i Mr Howell gael ei ducddu i ym- weinidogasth ffyddlawn yn y dref hon, dewiswyd ef yn 1864 i ficeriaeth St. Ioan, Caerdydd, lle y bu ei lafur diflin yn bur effeithioJ,a'i weinidogaeth yn hynod gymeradwy,fel y profai gwaith pobl Caerdydd yn ceisio ei gadw rhag myned oddiwrthynt pan y panodwyd ef yn 1875 yn ficer Gwrecsam, yn yr hwn le, y mae yn hyfryd genym ddeall, mae ef eisoes yn boblogaidd iawn gyda'i blwyfolion. Y flwyddyn ddiweddaf, 1878, derbyniodd y radd o B.D. oddi- wrth Archesgob Caergaint, fel cydnabyddiaeth o'i wasanaeth a'i allu. Y mae blynyddau lawer er's pan yr arferai ysgrifell Llawdden gyfoethogi colofnau barddonol ein cyhoeddiadau. Ychydig, mewn cydmariaetb, a wnaeth efe yn y maes llenyddol er y pryd hwnw ; ond y mae lawer gwaith wedi gwasanaethu ei wlad a'r eisteddfod fel bcirniad craffus a chydwybodol. Yr Eglwys, modd bynag, sydd wedi caely fantais o'i dalentaua'i ymroad; ac os haeddodd dyn da erioed urdd oddiar law arch. gysegru i waith y weinidogaeth mewn cysylltiad â'r Eglwys Sefydledig, a pharatowyd ef at y gwaith yn Ysgol Dduwinyddol Esgobaeth Llandaf yn y Fenni, swydd Fynwy, dan y diweddar enwog ysgolhaig, Canon Williams. Yn y flwyddyn 1855 urddwyd ef gan Esgob presennol Llandaf i guradiaeth Castellnedd, lle y bu yn llafurus a chymeradwy iawn. Penodwyd ef yn 1857 yn Ysgrifenydd Teithiol y Gymdeithas Genadol Gartrefol Eglwysig. Da yr ydym yn cofio ei ymweliad â'r Gogledd yn ystod yr amser hwnw, a'r pregethau a'r arcithiau hyawdl a draddododd efe ar ei rhan. Y pryd hwnw, yr oedd clywed clerigwr yn pregethu yr efengyl gyda thân a hwyl yr hen Gymry gynt yn beth lled newydd a dieithr; ac nid rhyfedd, gan hyny, fod yr offeiriad ieuanc o Forganwg a'i bregethau cyrhaeddol, grymus, yn tynu cannoedd i'r gwahanol eglwysi i'w wrando. Yn 1861 penodwyd ef yn ficer Pwllheli, ac wedi tair blyneddo esgob, Llawdòen, yn ddiau, oedd hwnw. Serch ei fod yn fab i un o brif flaenoriaid y Trefnyddion Calfinaidd yn y Deheudir, ac yn frawd-yn-nghyfraith i un o brif weinidogion y cyfundeb hwnw, sef y Parch David Saunders, Eglwyswr gonest, selog, brwdfrydig yw ficer Gwrecsam. Dylid cofio, ar yr un pryd, mai nid Eglwyswr gor-selog, ffol, erlidgar, a fu nac a ydyw Llawdden. Na, y mae wedi bod yn ddigon doeth i ymfoddloni ar " bregethu Crist" fel y moddion mwyaf effcithiol i hyrwyddo llwyddiant yr hen Eglwys i ba un y perthyna. Gŵyr ef yn dda na ddichon yr Eglwys hono, mwy nag unrhyw eglwys arall, sefyll yn hir ar ddim llai na gwir- ioncdd fel ei chrodo, ac achubiaeth pechaduriaid fel ei hamcan . a phregetbu y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu, yn nghydag ym- drechu achub eneidiau, a fu prif uchelfryd gweinidogaethol Mr Howell hyd yn hyn. Parhäed felly hyd y diwedd, a chaffed iechyd, a nertb, a Uawor o fiynyddau yn rhagor i wasanaethu e1 oes, ei genedl, a'i Dduw. Edeyrn.