Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

66 Y DABLUNYDD. ddadblygu heb gynnorthwy gwrteithion cryf y prif ysgoliou, na llaw gelfyd d athraw gwarantedig. Pa beth bynag a gynnyrch- odd maes ei feddwl—a chynnyrchodd lawer iawn yn ddiau—y mae y cyfan yn ffrwyth ddiledryw natur gynhenid. Ond bu ganddo athrawon anrhydeddus ac uchelryw er hyny—athrawon dihafal yn eu cylch—Anian a'r Beibl—ac y mae ol eu hysgol a'u gwersi hwy arno hyd y dydd hwn. Buasem yn casglu oddiwrth ei bregethau, ei areithiau, a'i ysgrifeniadau ddarfod iddo fod yn ddisgybl cyfrin a ffafriedig ganddynt, canys y mae efe yn arfer ag adrodd mwy o'u cyfrinachau cyfoethog hwy nanemawr i ddisgybl o'r eiddynt a wrandawsom erioed. Y mae rhyw berärogl maes hyfryd yn esgyn oddiwrfLo nes swyno a chyfareddu pawb o'i wrandawyr, yr hyn a brawf, er iddo dyfu yn fachgen mawr er's llawer dydd, eto amlwg yw, mai " bachgen ysgcl" yw efe eto ; ni fyn ymadael â'i hen athrawon er gwaethaf henaint ac aml nych- dod. A buom yn meddwl unwaith pan y canodd efe i'w draed, nes myned ohonynt yn gwbl iach, fod un o'i athrawon—Natur— wedi ei gymeryd ati ei hun a dadguddio iddo gyfrinddysg sydd wedi ei cholli yn ein mysg er dyddiau yr oraclau, y tylwythion têg, a'r morforwynion ! Tueddir ni y fynyd hon i ddiolchgar gyd- nabod Bhagluniaeth am omedd ei anfon i'r un ysgol ond i'r hon yr anfonwyd ef; oblegid cawn drwy hyny fantais i weled enghraifft ragorol o blentyn undad unfam natur—gwr wedi tyfu a dysgu yn hollol o dan ei bendith a'i chyfarwyddiadau hi. Myn dyn, fel athraw, naddu a thocio cymaint ar gangenau naturiaeth fel mai prin y gellir adnabod plant natur y dyddiau hyn, os ydyw yn ffaith fod y cyfryw yn cael eu geni y blyiiyddau nyn. Pa nifer bynag ydyw rhif cangenau athrylith Hiraethög, amlwg yw mai eiddo natur ydynt oll—felly y ganwyd ef. Gwir iddo lafurio yn galed mewn amser ac allan o amser, ond nid oes ôl " gwneyd " ar ddim a berthyn iddo ; yn hytrach, ôl tyfiant tirf ac iraidd a welwn ar bob dawn a berchenoga. Os crynhown wahanol nodweddau ei feddwl yn nghyd, tybiwn y gellir yn briodol eu dosranu i dair gradd gogyfuwch, nid amgen L—Yr Areithiwr. II.—Y Bardd. III.—Y Llenor. I.—Nid oes neb a faidd amheu nad yw Gwilym Hiraethog yn areithiwr. Y mae efe yn offeiriad urddedig o'r swyddogaeth hono. Nid dawn gloff, lerciog, ydyw ei eiddo, ac nid un ynfydwyllt ddi- reswm mohoni ychwaith. Nid oes anaf arni o'i chory» i'w sawdl. Y mae ei areithyddiaeth yn hoew, boneddigaidd, gref, hyawdl, a phur. Bu unwaith, ac y mae eto i raddau pell, yn feistr trwyadl ar y gwaith o siarad. Y mae ffynnonell ei eiriau, fel yr eiddo Mr. Gladstone, yn ddihysbydd—a geiriau detholedig cryfion, diledryw ydynt. Ei ddychymyg hefyd sydd gryf a hoew, bywiog a hynod chwarëus ; gall yru cynnulleidfa i sefyllfa hollol ddilywodraeth arnynt eu hunain pan y myn—y mae fíbrdd y dagrau a ffordd y crechweniadau yn gwbl hysbys iddo ef. Yn nyddiau ei nerth yr oedd ei lais yn gryf a pheraidd. Jii olwg yn y pwlpud sydd fawr- eddog i'r eithaf; dullwedd ei draddodiad hefyd sydd yn meddu ar nodwedd arbenig iddynt eu hunain—y disgyniadau, yr ysgyd- wad pen, y corph-fynegiant, a'r pwysleisiadau ; y mae gan yr oll o'r pethau hyn y fath allu cyfareddol ar lygad a meddwl fel nas gellir gwrthsefyll eu grym a'u dylanwad. Y mae ei ymadroddion yn araf, eto yn hylithr; a'i frawddegau yn ddoniol a gogleisiol, eto yn gwbl hamddenol a thawel. Diangenrhaid iddo weithio ei hun i uchelbwynt neiUduol o frwdfrydedd er cyffroi ac awchlymu ei feddyliau pan ar wynebu cynnulliad pwysig o bobl. CynlJun gwyr areithyddiaeth gelfyddydol ac annaturiol ydyw hwnyna ; y mae nod-angen dawn gynbyríus natur ar ei ymadroddion ef. Ar faes cymanfa bu fel Saul, mab Cis, yn uwch ei ysgwyddau na neb o'i frodyr ; a diau ddarfod iddo wneyd argraphiadau yn y cyfryw ddegau o weithiau na ddilëir mohonynt byth. Efallai mai cuddiad ei fawr nerth ef ydyw ei allu dihafal i wneyd fí'eithiau tryfrith y Beibl yn fyw. Y mae ei dafod fel pwyntell yr arlunydd medr- usaf—Dorè y pwlpud yw efe. Cysegrodd ei areithyddiaeth yn foreu ar ei oes ar allor yr efengyl —bu yn gweinidogaethu yn Mostyn a Dinbych, wedi hyny yn Liverpool, o'r hwn le yr ymddëolodd o'r weinidogaeth. Ni bu ei enwad yn ol o'i barchu a'i anrhydeddu; ac y mae efe yn parhau fel canwyll eu Uygaid. Ymneillduodd i unigedd tawel dinas Caer- lleon ar Hdyfrdwy ychydig flwyddi yn ol; ond parha i efengylu yn odiaethol o gymeradwy yn yr eglwysi liyd heddyw, ac nyni a obeithiwn mai felly y bydd am lawer blwyddyn eto. II.—Gwelsom ddarfod i'r gymrodyddiaeth farddol yn Eisteddfod Llanrwst gydnabod Gwilym Hiraethog yn Bencerdd godidog, ar gyfrif purdeb a pherffeithiwydd un o'i ganiadau caeth, ond nid ydyw ein syniadau ronyn yn uwch am dano fel bardd, oblegid yr arwydd hon o edmygedd beirddion tuagato. Y mae yr " Emma- nuel"—cyfansoddiad meithaf a galluocaf y bardd—yn rhagorach cofgolofn, ac yn sicr o ddwyn anrhydeddusach clod i'w enw na dim a all yr un gymrodyddiaeth byth ei osod arno. Byddai yn wrthun i'r eithaf ynom i amcanu proíi fod y gwaith hwnw yn farddoniaeth, pe hyny fuasai ein diben, a gofod yn caniatau. Y ffaith yw, nad oes genym fel cenedl farddoniaeth amrol gyffelyb i'r * Emmanuel" yn ein hiaith. A meiddiwn ddyweyd yn ostyng- edig yr ymddengys Hiraethog i ni yn llawer rhagorach fel bardd rhydd nag fel bardd caeth. Nid am nad ydyw efe yn berffaith f áisti ar y cynghaneddion, ac yn gallu canu yn gryf ac yn naturiol ynddynt; ond angenrhaid yw i hualau mor gaeth, er yn gelfydd, attal llawer ar ymddyrchafiadau pob darfelydd, gan fod ei nwyfre wedi ei haml-linellu allan gan ddeddfau cyfyng, gogoniant pa rai ydyw eu cywreinrwydd ac nid eu defnyddioldeb. Tybiwn fod Hiraethog wedi gosod ei genedl o dah deyrnged arbehig iddo.ar gyfnf ei rodd farddol ddiweddaf i'r cyhoedd—" Twr Dafydd." Meiddiwn ddyweyd nad oes gan yr un genedl ragorach cyfieithiad mydryddol o'r Saìma na ni: a llawen fuasai genyni weled Salmau Dafydd, fel y ceir hwy yn " Nhwr Dafydd," yn cael eu harfer ar y Sabbothau yn holl gysegroedd Cymru. Nid oes genym, er dyddiau Gwalíter Mechain a Chaledfryn, yr un beirniad Eistedd- fodol sydd yn arferol a rhoddi mwy o foddlonrwydd i'r ymgeiswyr na Hiraethog. Ni ddigwyddodd i ni erioed glywed cymaint ag un ymgeisydd siomedig yn nieiddio taflu allan yr awgrym lleiaf o anymddirieiaeth yn. ngdnestrwydd a barn Hiraethog fel beirn- iad. Ac nid peth bach na dibwys ydyw hyny mewn oes mor amheus, ac yn nghanol cenedlaeth o ymgeiswyr na phetrusant gyhuddo llawer o'n beirniaid barddol fel rhai nasgtóllirrhoddi coel ar eu dyfarniadau. Wrth reswm, ý maa yn g'wbi ddealladwy nad ydym ni yn golygu cyhuddo yr un o feirniaid parchus ein Heisteddfodau o weithredu yn groes i reolau euraidd tegwch a chyfiawnder ; a llawer pellaeh ydyni o roddi cred i chwedlau felly, , yn unig yr ydym yn nodi hyn allan fel peth cwbl ddieithr yn nglyn â ehymeriad Gwilym Hiraethog. Dymunol ac anrhydeddus iawn fuasai gweled rhyw gyhoeddwr glew a gwrol, neu wladgarwr eiddgar, yn dwyn allan argraphiad cyflawn o holl weitaiau bardd- onol Hiraethog mewn un g)frol—cyffelyb o ran argraph a phJyg i eiddo Golygydd y 'Cyinrodor,' o weithiau Goronwy Owain. Md oes ddadl am deilyngdod y farddoniaeth, a phe y dygid y gwaith yn rhanau swllt gerbron gweithwyr Cymru, nid ydym yn amheu na ddèrbynid y cyfryw gydag awch ediuygol a gwladgarol. III. -Fel ysgrifenydd rhyddiaith ddammegolyr adnabyddir Hiraethog yn benaf mewn oesau sydd i ddyfod. Barddoniaeth ydyw ei ryddiaith ef. Ni fu yn Nghymru, o bosibl, er dyddiau awdwyr y Mabinogion y fath feistr ar ddammegion ac allegau. Gallasai fod yn Esop pe y dyoiunasai. Ac onid yw ei " Gaban F'ewyrth Twm," "Aelwyd F'wyrth Bobert," "Llythyrau 'Rhen Ffannwr," " Llythyrau 'Rhen Deiliwr," &c, yn profi y gallasai fod yn un o brif ffugchwedleuwyr ei oes ? Y mae holl elfenau rhamantwr godidog yn cydgyfarfod ynddo. Tueddir ni hefyd, wrth ddarllen ei weithiau, i dybio í'od ganddo chwaeth gref at rai o'r gwyddorau, yn benaf seryddiaeth. Y mae ei Esboniad ar yr Epistol at yr Hebreaid hefyd yn dangos ei fod yn ddeonglwr Beiblaidd rhagorol. Ac yn ddiau fe dystia ei holl bregethau yr un peth. Rhoddasem fwy o bris ar bregethau llefaredig Gwiíym Hiraethog—yn enwedig y rhai ar faterion hanesyddol—na dim a wrandawsom nag a ddarUenasom er's blynyddau. Y mae i Dr. Rees le anrhydeddus fel un o brif golofnau llenor- iaeth ei wlad. Os nad ydym yn camgymeryd y mae efe bellach yn un o'n llenorion henaf, os nad yr henaf oll. Ond y mae uu peth hynod yn perthyn iddo fel bardd a llenor Cymreig—ni bu a fyno a'n Heisteddí'odau drwy roddi ei bresennoldeb yuddynt ond diuytuaith yn ystod ei oes faith. Os nad ydyin yn gwneyd cam âg ef, dywedodd ar gyhoedd, yn Eisteddfod ddiweddaf Llanrwst, fod hanner can' mlynedd wedi myned heibio er pan fu mewn iùstedd- fod cyn y pryd hwnw ! Ffaith lled ryfedd, pan ystyriom ddarfod iddo bellach fod yn brif feirniad ein Heisteddfodau er's llawer o flynyddau. Gwr tawel yw efe, ac yn caru tawelwch ; a holiol ddi- drwst fu ei daith fel llenor a bardd er ei ymddangosiad cyntaf fel gwr cyhoeddus. Ymrydd yn bwyllog i gyfoethogi llenyddiaeth ei wlad, a phan y gwna wrhydri, nid ydyw byth yn crochlefain ei hun, nac yn gosod arall ar hyny o orchwyl, er gwneyd y ffaith yn hysbys. Ni fu gan Gymru wleidyddwr mwy effro a gwasanaethgar nag ef; y mae wedi bod yn llawn mor lwyddiannus i educatio ein cenedl yn egwyddorion lly wod-ddysg rydd, eang, a doeth ag a f u Ar- glwydd Beaconsfield gyda'r Oeidwadwyr. Byddai yn chwith iawn gan Gymru weled dydd éi golli—dydd du a galarus a fyddai y dydd hwnw—a nyni a hyderwn yn gryf ei fod yn dra phell oddi- wrthym. Dymunwn i Gwilym Hiraethog brydnawn-ddydd hir a thawel, dedwyddyd a hapusrwydd diboen fyddo ei ran. Eled i mewn ac allan eto am faith flynyddau yn ein cysegroedd, ac na ddeled loes i'w glwyfo. J. E. OWEN. Llanberis, Awst 30ain, 1878. CYNGHOR DA TR IBUANC. ÌITH gyfarch Ysgol Sabbothol Prince's-road, Liverpool, ymgynnulledig yn ddiweddar yn Mryngwenaílt, Abergele, dywedai Mr. John Roberts, A.S.:— Mae fy adgofion boreuaf yn gysylltiedig â'r eglwys a'r Ysgolion Sabbothol a arferent ymgyfarfod yn Beilord-street, ac a ymgyn- nuìlant yn awr yn Prince's-road, ac yr wyf yn edrych yn oi gydag hyfrydwch at fy mherthynas â'r ysgol hono fel ysgolor, athraw, arolygwr, ac fel un y n dal swydd yn yr eglwys. N i udaeth hapus- ach gwaith i fy rhan na chyflawniad y dyledswyddau hyny, ac yr wyf yn edrych gyda theimladau diolchgar at yr amser pan y gad- ewais yr ysgol hono, ac yr ymgymerais â masnach, ac y daethym yn ymwybodol o'r peryglon a'r temtasiynau y inaft yr ieuenctyd yn agored iddynt, pryd y dygwyd fi i gysylltiad â gwaith yr eglwys hono, ac i gymeryd dyddordeb ynddi. Yr wyf yn credu fod y gwaith hwnw wedi bod yn fendith a moddion o ddiogelwch i mi, a dymunwn ddyweyd wrth y bobl ieuaine sydd yma heddyw " Cysylltwch eich hunain â phob rhwymyn wrth bobl dda a gweith- redoedd da. Bydd i'r ymdeimlad o'ch rhwymedigaeth yn y fath fodd eich Rerthu chwi yn nghanol y temtasiynau y byddwch yn agored iddynt." .bijv