Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DAMJJNYDD. 63 YMWELIAD Y DIWBDDAR BAROHN. HBNRY RBBS A DR. T. PHILLIPS A LLYDAW. AKCH. JAMES WILLIAMS, gynt o Lydaw, a yggrifena fel y canlyn i un o'n cyfoesolion:— Yn mhen ychydig amser (1864), cyrhaeddodd y cyfeillion anwyl a ddisgwyliem i Lorient. Byth nid anghoflwn ein llawenydd wrth weled Thomas Phillips, John Eoberts, Edinburgh, a Henry Kees yn gwneyd eu hymddangosiad ar yr esgynlawr. Buasem yn dymuno myned i fanylion pan aethom i'r gwesty, &c, ond mae'n rhaid i ni fyned at agoriad capel ar foreu Sabbath. Yr oedd yn ddiwrnod byth- gofladwy i Brotestaniaeth yn Llydaw. Nid oedd dim llai na naw o weinidogion wedi ymgasglu yn vestry-room y capel, i'r diben o wisgo eu gotons a'u bands. Yr oedd cwmni o weithwyrYsgotaidd oeddynt yn gweithio gerllaw Brest, ac i'r rhai yr oeddym wedi pregethu mor arol ag y gallasem, wedi ein anrhegu ychydig ddyddiau yn flaenorol â gown a bands ysplenydd, am y rhai yr anfonwydi Edinburgh. Yr oedd 'llawer ohonynt yn gwenu pan yr hysbysasom " na chaffai neb ei wisgo hyd oni fyddai wedi ei gysegru gan berson Mr Rees." Pan rwymwyd y bands, ac y rhoddwyd y gotcn yn ei le am dano, dymunasom arno sefyll i fyny, yr hyn a wnâeth, gan wenu yn serchog. O! Gymry, pe cawsech ei weled ef y foment hono! Y fath ben ysplenydd, a'r gwyneb nefol aidd hwnw! Edrychai yr oll o'r gweinidogion yn hynod dda, ond pan oeddem yn cerdded o'r festri i fyny aisle y capel, ymddengys mai Mr Rees oedd yn derbyn mwyaf o u sylw. Yr oedd yr holl bobl yn edmygu ei ben hardd. Yn eu mysg yr oedd boneddwr meddygol medrus iawn, gyda'r hwn yr oeddym yn adnabyddus er's blynyddoedd, a'r hwn a ysgrifenodd erthygl ardderchog i un o'r newyddiaduron Ffrancaeg yn rhoddi hanes agoriad ein capel; efe a ddaeth atom gan ddy wedyd, " Dywedwch wrthyf, fy ngbyfaill, a ydyw y boneddigion dieithr acw yn gydwladwyr i chwi r " "Ydynt, yn sicr," oeddyrateb- iad. "Ẁel* meddai, "maentyn enghreifftiauysplenyddoddynoliaeth; gyda golwg ar yr hynaf ohonynt, ni welais ddim erioed yn fwy hardd na phen y dyn hwnw." Mor fuan ag y gadawodd ni, nis gallem lai na gofyn i ni ein hunain, " Beth yw y rheswm fod Ffrancwyr yn cym- eryd y fath sylw neillduol o benauCymry?" Blynyddau lawer cyn agoriad ein capel, daeth Cymro arall i Lorient, fel cynnrychiolydd Cymru ar adeg ordeiniad Mon. Planta. Efe ydoedd cyfaill galluog Henry Rees— y gwr o'r Bala. Y bugeiliaid Ffrengig a benodwyd 1 gymeryd y rhan f wyaf arbenig yn yrordeiniad oeddynty diweddar Fred- erick Monod, o Pans, a Mon. Yaurigaud, o Nantes. Nid angofiwn byth y cyfarfod a gynnaliwyd yn flaenorol i wasanaeth yr ordeinio i wneyd arholiad ar yr ymgeisydd, ac yn yr hwn yr oedd y proffeswr o'r Bala yn bresennol. Goíynodd y bugeiliaid iddo a oedd ganddo rywbeth ì'w ddyweyd, a chawsom ni yr anrhydedd o gyfleithu ei gwestiynau i'r Ffrancaeg. Y pwnc ydoedd " Cyfiawnhad trwy ffydd." Rhoddodd yr atebion foddlonrwydd mawr. Pan oedd y cyfarfod drosodd, daeth Mon. Yaurigaud, dan wenu, atom, a dywedodd, " Williams, nis gallwn beidio edrych yr holl amser ar dalcen a llygaid ysplenydd eich pro- ffeswr. A ydych chwi wedi sylwi arnynt?" "Do, yn sicr," oedd yr atebiad, " a hyny am Hwer o flynyddoedd. Nis gwelwch chwi ond yr oc'ir allanol ì'r pen. Beth pe byddai i chwi weled y tu mewn i'w benp" " Wel," meddai y Ffrancwr 'Un wenu, " mae ỳr olwg allanol yn brawf eglur o'r hyn sydd oddimewn."—Ar ol y crwydro hir yira, goddefer i ni ddychwelyd at Mr Rees. Pan ocM yr holl wasanaeth drosodd yn Lorient, aethom i O.'iimper. Er ein galar, bu raid i Mr Robertsddychwe'yd i Loegr. Ymddangosai Mr Rees a Dr Phillios yn hynod hapus o fod yn mhlith yr hen Lydawiaid. Cymerasom hwy ì ffair gerilaw Quimper, a boddhaAvyd tíwy yn ddirfawr wrth sylwi ar y sel a ddangoswyd wrth brynu a gwerthu. Rhoddodd gwisgoedd gwreiddiol yr hen Lydawiaid foddhad neillduol iddynt, ac yn aml yr oedd Mr Rees yn chwerthin â'i holl galon. Ôarfu i'n cyfaill . serchog y Milwriad Hawker eu cyfarfod yn Lorient a gwahoddodd hwy i dreulio cymaint o ddyddiau ag a allent yn ei breswylfod, ar lanau y Bay of Biscay. Ni anghottwn byth y pleser a'r boddhad a deimlem wrth fyned gyda'r ddau wr duwiol hyn i Lanhuron (mae yn ddrwg genym fod y milwriad a'i deulu wedi ymadael o'r gymyd- ogaeth ychydig amser wedi hyny). Addefodd y ddau na ddarfu iddynt erioed dreulio eu hamser yn hapusach nag yn Lanhuron. Dy- wedodd Mr Rees wrth Dr Phillips ei fod yn ystyned Mrs Hawker yn un o'r boneddigesau duwiolaf a gyfarfyddodd erioed. Ymddangosai y ddau yn teimlo yu ddwys pan y darfu i bump o'n dychweledigion (gwasanaethwyr a gweithwyr y milwriad) sefyll o'u blaenau. Dywed- wyd ychydig eiriau caredig a Christionogol wrthynt gan y ddau wr da, a gwrandawyd arnynt gyda theimladau dyfnion a dwys. Teimlai Mr Rees yn awyddus i ymddiddan â'r hen Peter, un o'n dychweled- igion. Yn ganlynol i hyny, aethom i'w dy, a chawsom yr hen wr yn darllen ei Feibl. Boddhawyd Mr Rees ya fawr wrth weled hyn, a dywedodd wrth Dr Phillips, " Mae o yn debyg iawn i hen Gymro. Yr wyf yn awr," meddai, " am roddi ychydig gwestiynau iddo, y rhai y rhaid i chwi eu cyfieithu," ac yna ychwanegodd, gydag ysgydwad arwyddocaol ei ben, " gwyddom am eich tymher frwdfrydig, ac felly byddwch yn onest, a rhoddwch atebion Peter, ac nid eich atebion chwi." Gwnaethom addewid ddifrifol i wneyd felly. Yr oedd y gofyniadau yn seiliedig yn benaf ar resymau Peter dros adael Eglwys Rufain, a pha fodd y cyfiawnheir pechadur. Boddhaw--d hwy yn fawr gan yr atebion, ond adgofiodd Mr Rees i ni drachefn i gadw at ein haddewid. Ni anghofiwyd eu hymweliad â Lanhuron gan y Protestaniaid na'r Pabyddion, a pha fodd y gallent, gan fod ganddynt air caredig wrth bob un ohonynt. Ar ol clywed atebion yr hen Peter, dywedodd Mr Rees ychydig eiriau wrth Dr Phillips, y rhai i ni oeddynt yn werth- fawrocach na diemwnt, sef, " Mae yr ymddiddan â'r hen wr ynayn werth yr holl arian a wariwyd gan y Methodistiaìd yn Llydaw." * * * Yr oedd golygfa hynod yn ein ty yn Quimper y boreu cyntaf y darfu iddo gynnal cyfarfod gweddi teuluaidd. Gwrthododd ei wneyd yn Seisneg, ac O! fel yr oedd yn tywallt allan ei enaid gerbron Duw mewn gweddi. Yr oedd y plant, y rhai ni ddeallent Gymraeg, yn rhyfeddu wrth weled Dr Phillips, eu tad, a'u mam yn colli dagrau. " Diolch fyddo i dy enw, O Arglwydd, nad ydyw ein cyfeülion sydd ger dy fron dan draed eu gelynion. Diolch i ti, O Arglwydd, nad ydym wedi ymgynnull yn nghyd yma i weinyddu disgyblaeth arnynt am ddwyn gwaradwydd ar dy achos. Diolch i ti am y parch a ddangos- wyd tuagatynt yn y wlad ofergoelus hon," &c. O ! y weddi hono, y mae eto yn gerfiedig ar ein calon. * * * Pe byddai i rywun ofyn i ni " pa Sabbath yn yr holl flwyddyn y dymunech weled Henry Rees a Thomas Phillips yn Quimper r atebem hwynt, " Sabbath gorymdaith fawreddog y Corpus Cristi." Dyna y Sabbath a dreuliasant gyda ni. Cerddodd yr orymdaith allan o'r Eglwys Gadeiriol am ddeg o r gloch, a chan nad oeäd y gwasanaeth ya ein capel ni hyd un ar ddeg, yr oedd genym awr i edrych ar yr hyn a alwai Mr Rees " yr eilunaddol- iaeth fwyaf a welodd erioed." Mae yn ddrwg genym na chaniata gofod i m ddesgriflo yr orymdaith hon; digon yw^ dywedyd ei bod yn ysplenydd ryf eddol. Bydd unjadnod yn ddigonol i ddesgrifio teimladau Mr Rees: —" Ei yspryd a gynhyrf wyd o'i fewn pan welodd y ddinas wedi ei rhoddi yn gwbl i eilunaddoliaeth." Tynodd sylw amryw o'r Pab ''ddion, y rhai nas gallent ddeall paham y cerddai yn ol ac yn mlaen, ac yn dyrchaf u ei ddwylaw, a siarad wrtho ei hun. Sylwasom wrth Dr. Phillips, " Gallech feddwl ei fod yn myned i bregethu i Sasiwn y Bala." " Mae yn teimlo y fath adgasedd tuagat Babydd- iaeth," oedd yr atebiad. Wedi i'r orymdaith fyned heibio, siaradodd yn hyawdl ar gyfaddasiad Pabyddiaeth i galon lygredig y pechadur. " Mae yn rhyfedd, modd bynag, " meddai, " fod y gyfundrefn druenus hon yn gwneyd y fath gynnydd yn Lloegi', gwlad y Beiblau. Yna, gyda theimladau angerddol, gwaeddodd allan, " Ac hyd yn nod yn Nghymru; 0, na fynegwch ef yn Gath! Pan y byddaf yn siarad ar y pwnc," meddai," cymerir ef yn ysgafn hyd yn nod gan fy nghyd- wladwyr." O ! gysgodion Henry Rees, pa sawí gwaith yr ydymBwedi meddwl am dy eiriau er pan ddychwelasom o Lydaw ? Pan aethom yn ol i'n capel, safodd Mr Rees o flaen y drws a dywedodd wrth Dr Phil- lips, " Diolch byth y gallwn fyned yn awr i addoli mewn yspryd a gwirionedd." OYPLOaAU BRENHINOEDD. Ê9P CYFOETHOCAF o holl frenhinoedd Ewrop ydyw Ymherawdwr Ewssia. Y mae ei flwydd-dal yn fwy na miliwn a thri chwarter o'n harian ni; neu oddeutu pum' mil o bunnoedd y dydd. Dro yn ol yr oedd y Sultan, Hamid II., ac yntau yn deyrn gwlad feth-daliadol, yn derbyn oddeutu pedair mil a phum' cant o bunnoedd bob dydd. Ymnerawdwr Awstria yw y nesaf ar y rhestr. Y mae ganddo nifer o balasau gwychion yn mhob rhan o'i ymherodraeth, ac mae'n cael dwy fil o bunnoedd y dydd. Yn nesaf daw Ymherawdwr Germani, yr hwn sydd yn cael ychydig llai na'i berthynas o Awstria. Yr oedd diweddar frenhin Itali yn cael un fil a thri chant o bunnau bob dydd, acj am ddim a wyddom yn amgen, derbynia ei fab, ag sydd wedi ei olynu, gyffelyb swm. Beth am Loegr, bellacb ? Buasid yn disgwyl i Victoria gael ei henwi cyn hyn. Ond rhaid i'w Mawr- hydi ddyfod yn olaf, canys swm ei chyfiog hi yw oddeutu mil o bunnau yn y dydd. Fe welir, gan hyny, fod pen coronog y deymas gyfoethocaf yn y byd yn derbyn ílai o gyfiog na dim un teyrn arall o bwys yn Ewrop. AT EIN GOHEBWYR. Meddyliwe.—Diolch i chwi am eich erthygl ddyddorus ar "Eirwiredd;" ond y mae yr ysgrif yn rhy äywyll ac anmher- ffaith ei meddyliau i fod yn fuddiol i'n darllenwyr. Beth pe baech yn amcanu at fod yn fwy ymarferol nac "athronyddol î Nid oes dim yn gweddu yn well i feddyliwr na symledd ac eglurder. Dewi Bach.—Gan y dymunem roddi pob cefnogaeth i chwi, goddefwch i ni eich cynghori i astudio sillebiaeth a gramadeg Cymraeg, a chofiwch eu hefrydu yn dda, yn drylwyr ! Hen Ferch a fynai i ni gyhoeddi ei llinelíau ar "Briodi." Gwell iddi hi, modd bynag, ac i'r 'Darlunydd,' ydyw peidio eu cyhoeddi. Rhoddwn un pennillfel enghraifft:— " Hen ffrch wyf fi, heb hidio dim Pwy sydd yn myn'd i brodi; Mae llawer gwr, ar ol ei gael, Yn arwain merch i dlodi." Oes, y mae ! ond mae llawer, o drugaredd, yn arwain merched i lwyddiant. Tybed nad oe»> afyno "grawn surion" rywbeth â'r pennill uchod ? Gwareder ein "hen ferch" oddiwrth surni yn anad dim Didymus.—Nis gallwn gydsynio â'ch cais ar hyn o bryd. Cerfiwr.—Yr ydych yn gwella, niae'n sicr ; ond nid derbyniol gan ein darllenwyr fyddai cerfiad fel yr un a gynnygiwch. . Uhaid cofio nad yw y Cymry yn ddigon gwladgarol i edmygu cerfiun anfedrus, serch mai Cyniro a'i gwnaeth. Gwnewch gais arall, ar ol blwyddyn arall o ymarferiad. Bardd y Bryn.—Y mae eich ammod yn ein gorfodi i wrthod yn ddiolchgar eich cân. Nis gallwn addaw cyhoeddi darlun gyda phob darn o farddoniaeth a gyhoeddir yn ein colofnau. Henri Mylhn.—Diolch ; yn ein nesaf.