Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYHOEDDIAD MISOL YBOBL RHIF. XXIX. CYFROL III. AWST, 1878. PRIS CEINIOG. JOHN ROBERTS, YSW;, A.S. (gan y paech. owen thomas, d.d., liyebpool.) AE yn hyfrydwch mawr genym allu, y mis hwn, arirhegu ein darllenwyr â'r hyn a gydnabyddir, ni a hyderwn, gan bawb adnabydclus ohono, yn ddarlun cywir o Johri Roberts, Yswain, Bryngwenallt, Aber- gele, yr aelod Seneddol anrhydeddus dros Fwrdeisdrefi Bir Fflint. Y maë efe yn fab i David Roberts, Ysw., Hope-street, Liverpool, a Tan yr Állt, Abergele ; bon- eddwr agy mae rhagoriaethau neillduol eigymeriad, acynarbenig Y mae efe wedi ei alw er ys llawer blwyddyn bellach i fwynhau ei wobr yn y nefoedd ; ac y mae ei ferch hefyd, mam serchog gwrth- ddrych ein iiysgi'if, wedi ei ddilyn yno er ys tua phedair bìynedd ar ddeg. Ni a obeithiwn fod i'w dad anrhydeddus flynyddoedd lawer eto i Aveled ac i wneuthur daioni. Ganwyd Mr. Roberts Gorphenhaf 14eg, 1835, fel nad yw eto prin wedi cyrhaedd anterth ei nerth, ac y gellir disgwyl blynyddoedd lawer o wasanaeth gwerthfawr i'w wlad oddiwrtho. Wedi bod yn un ei haelioni Cristionogol, yn hollol adnabyddus, nid yn unig i'w genedl ei hunan yn Liverpool, ond i'r Saeson hofyd trwy yr holl dref, megis ag y masnt hefyd trwy ranau helaeth o Ogledd a De- heubarth Cymru. Ei fam oedd Jane, merch i'r diweddar Mr. Richard Roberts, Stanhope-street, Liverpool, un ag y mae ein cenedl ni dan rwymau neillduol i barchu ei goffadwriaeth, oblegid yr ymdrechiadau egni'ol a wnaed ganddo ar ei rhan, a'r gwasan- aeth gwerthfawr a wnaed ganddo erddi, yn enwedig mewn cỳ- sylltiad â chrefydd, a hyny yn ngwyneb [llawer o anfanteision. o'r ysgolion neillduol goreu ar y pryd yn Liverpool—yr eiddo Mr. Houghton, yn Hushisson-street,— fei hanfonwyd i ysgol athrawol fawr yn Brighton, lle yr enilîoddyn fuan y saíie anrhydeddusaf yn mhlith ei gydysgolheigion. Dewiswyd ef yno yn olygydd y 'Brighton School Journal/ ac ysgrifenodd amryw erthyglau i'r cyhoeddiad hwnw ; erthyglau a dynasant sylw neillduol y Parch. Mr. Sortain—gweinidog enwog a dysgedig oedd y pryd hwnw yn Brighton—fel yn arddangos gallu pell uwchlaw y cyffredin, ac yn enwedig yn rhagori yn nghywirdeb a thlysni eu hiaith, a phryà-