Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

34 Ÿ DAHLÜNYDÎ). ymarfer, ac nid oedd hwnw yn dysgn yr un don na byddai Joseph bach wedi dysgu ei chwibanu yn llawn mor gynted a'r bcmd. A pha bryd bynag y byddai y band yn troi allan, buasai Joseph yn sicr o fyned i'w ganlyn yn ffyddlon, ac odid na fuasai yn hwyrhau pan ddychwelai adref, gyda chylla gwàg, a chyn ddued a sioeep bychan gan y Jlwch. Er cof am y bancl, cyfansoddodd Mr. Parry y flwyddyn ddiweddaf ddernyn rhagorol i'r band. Cafodd yn blentyn hefyd fantais Ysgol Gân oedd yn cael ei harwain gan gerddor o fri, Mr Eobert James, ei frawd-yn-nghyfraith, gynt o Ferthyr, ond yn awr o Hyde Park, Pa., America. Wedi iddo gyrhaedd saith mlwydd oed, dysgai dôn ar unwaith, ac yr oedd yn gynnorthwy o bwys i'r athraw yn yr Ysgol Ganu. Ceid anhawsdra i'w gadw i ganu y prif lais, ondmynai o hyd ganu ail lais (seconds) a ffurfiai ei hun ar y pryd, tra fyddai yr athraw yn arwain y bass. Ond beth bynag a ganai, gellid ymddiî ied ynddo y canai ef yn gywir. Erbyn ei fod yn ddeg oed, yr oedd cdto rhanau helaeth o oratorios Handel, Mendelsshon, Mozart, a Haydn, a ddysgid yn Merthyr ar y pryd, i gyd ar ei gôf. Pe cawsai ei athrylith y fagwraeth a ddylasai yr adeg hon, buasai er's llawer dydd wedi cyrhaedd y safle y mae ynddi yn awr, a hyny gyda llawer llai o ymdrechion. Ond gorf u iddo ef ddechreu gweithio pan yn blentyn naw oed,heb fawr ddim manteision addysg. Synmdodd gyda'r tenlu i A merica yn 1854, pan yn dair ar ddeg oed. Claddwyd ei dad yn 1866, ond y mae y fam yn byw eto yn Kingston, Pa., ac amryw o'r teulu ýn wasgaredig dros y Taleithau, ac y mae yntau yn ŵr ac yn dad, yn Broffeswr mewn Cadair Gerddorol yn Mhrifysgol Cymru yn Aberystwyth. Wedi symud i America, ni chododd un wawr am fanteision addysg i Joseph Parry am flynyddoedd. Dilynai ei orchwyl yn y felin wrth y rolls yn ffyddîon, heb ddim cyfleusderau i efrydu. Yr oedd yn 17eg oedcyn gallu darllen nodau cerddorol. Dysgwyd ef i ddarllen cerddoriaeth gan Mr John Abel Jones, gwr deallgar mewn cerddoriaeth, yntau yn frodor o Merthyr, a dysgwyd cynghaneddu iddo gan Mr J. M. Price, gynt o Rymni. Teimla yn dra dyledusi'r ddau gyfaillhynam gynnorthwy pwysig iddo yn ei lafur i ddringo ysgol cerddoriaeth. Hwy a'i cymhellodd ef gyntaf i gystadlu am wobrwyon mewn Eisteddfodau. A'r cynyg cyntaf a wnaeth mewn Eisteddfod, Nadolig 1860, llwyddodd ienillygamp. Yr un cyfeillion hefyd a hwylusodd ei ffordd, yn 1861, i fyned am derm i sefydliad Normalaidä yn Genesee, New York, lle byddai Proffeswyr o'rddinas yn rhoddi gwersidrosdymhoryrhaf. Cafodd yma wersi mewn lleisio gan Bassini—athraw rhagorol, a chyfaill i Rossini; yno hefyd yr oedd P. P. Bliss, ac yr oeddynt yn gyfeillion cynhes. Daliodd yn mlaen hefyd i gystadlu ac enill yn Eisteddfodau America. Yn 1863, cymhellodd y cyfeillion hyn ef i gynyg am y gwobrwyon am gyfansoddiadau cerddorol yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawy ; a llwyddodd i enill pedair o'r gwobrau—wyth gini—dau bum' gini—a hanner dau gini. Y flwyddyn ganlynol, yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno, ysgubodd yr holl wobrwyon ymaith yn Uwyr—goreu ac ail oreu —un deg punt, daubum'gini, a phum' punt. Cyfansoddodd ar bedwartestyn yn 1865 eilwaith i Eisteddfod Aberystwyth, adaeth ei bun drosodd i'r Eisteddfod hono gyda'i frawd-yn-nghyfraith; Mr Robert Jaines, a'i ddau gyfaill, Mri Jones a Price ; ond, er ei fawr siomedigaeth, nid oedd yr un o'i gyfansoddiadau wedi cyrhaedd, ac ni chlywyd sôn am danynt hyd y dydd hwn. Nid suddo yn yr Atlantig awnaethant, ond ofnwn iddynt syrthio i law eiddigus i'w dinystrio. Yn ffodus, yr oedd wedi cadw cop'iau o dri o'r cyfansoddiadau ar bapyr, ac o'r llall, "Ar dòn o flaen gwyntoedd," \ n ei gôf. Ei gystadleuaeth nesaf, a'r olaf, oedd yn Eisteddfod Genedlaethol Caer: pan enillodd ugain punt a medal am "Gantata y Mab Afradlon; yr hon sydd eto heb ei chyhoeddi, ond a berfformiwyd yn Aberystwyth mis Rhagfyr diweddaf, a chymerai tua dwy awr i fyned drosti. Gyda'r gantata hon terfynodd ei fywyd cystadleuol. Yn ninas New York, wrth ddyfod drosodd i Eisteddfod Aberystwvth, cyfarfyddodd Mr Pany am y waith gyntaf â'r "Gohebycìd" enwog ; cymerodd ddyddordeb mawr ynddo yn y fan, ac o'r diwrnod hwnw hyd ei fedd daliodd i fod yn un o gyfeillion anwylaf Mr Parry, ac i gadw y llaw flaenaf gyda phob symudiad o'i blaid. Gwnaeth cynghor yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn hon addaw blwyddyn o ysgol iddo yn Abertawy, a blwyddyn arall yn y Royal Academy yn Llundain. Ond j)arodd amgylchiadau teuluaidd ìddo ddychwelyd yn ei ol i America yn fuan ; ac wedi dychwelyd, nid oedd ei gyfeillion yno yn foddlon iddo dderbyn cynygiad caredig cynghor yr Eistedd- fod, a dyfod i'r wlad hon i dderbyn ei addysg. A'r Nadolig hwnw ffurfiwyd pwyllgor gan y " Gohebydd," y Parch J. Moses, Aneurin Fardd, ae ereill, i drefnu Uwybr iddo gael addysg gerddorol, a phenderfynwyd nad oedd mwyach i ddilyn ei alwedigaeth yn y felin. Cyflwynasant ddiolcbgarwch _ hefyd i'r cyfeillion yn Nghymru am eu cynygiad haelfrydig i'w addysgu, ond eu bod liwy yn benderfynol eu hunain i wneyd y gwasanaeth hwn iddo. Trefnwyd cyfres o gyngherddau iddo i'w cynal gyda'r amçan hwn. Yn Awst, 1868 gadawodd ei gartref a'i deulu a daeth drosodd i'r Royal Academy, yn Llundain. Cafodd yno fyned yn efrydydd dan' y Proffeswr a'r cerddor galluog Sir Sterndale Bennett, a daetíi y meistr yn fuan yn falch o'i ddisgybl. YTn niwedd ei flwyddyn gyntaf, enillodd wobr yn yr Academy, a chan iddo gael cyfres o gyngherddau yn Nghymru, galluogwyd ef i aros yn hwy yn Llundain na'i fwriad cyntaf; ac yn Mai, 1869, daeth Mrs Parry a'i ddau fab drusodd i Lundain ato, a phenderfynodd aros blwyddyn arall. Ar ddiwedd ei ail flwyddyn, enillodd y brome medcd, a phenderfynodd aros y drydedd flwyddyn, yn yr hon yr enillodd y silver medcd, a chyflwynwyd ef iddo gan Mrs Gladstone, yr hon a'i llongyfarchodd ef yn galonog fel un o'i chydwladwyr ar ei lwyddiant nodedig. Yn 1871, aeth i Cambridge i sefyll arholiad am y gradd o Musiccd Bachelor, a llwyddodd yn hyn hefyd. Y flwyddyn hon, yn Medi, dychwelodd i America, yn llawn calon ac yspryd, a'i gryman wedi ei hogi at waith. Aeth ar daith gerddorol i ym- weled â'i gyfeillion, a chadwodd dros gant o gyngherddau yn un llinyn cyn gorphwys. Yna sefydlodd ysgol, neu goleg cerddorol, yn Danville Pa., ac yr oedd ganddo, pan ymadawodd i ddyfod yn ei ol i gymeryd y Gadair Gerddoroi yn Mhrifysgol Aberystwyth, 58 o efrydwyr. Pan dderbyniodd y cais gan gynghor y Brifysgol, bu yn gyfyng- gynghor beth i wr.eyd. Teimlai ef, a llawer o'i gyfeillion, nad oedd yn iawn iddo adael America ar ol iddynt hwy ei gynnorthwyo mor garedig i gael ei addysg, ac yntau â rhagolygon mor dda o'i flaen gyda'i sefydliad newydd. Cynghorai ereill ef i dderbyn y cais ; ac o'r diwedd, hyny a wnaeth. Gadawodd ei goleg gobeith- iol ei hun, a daeth drosodd i Aberystwyth yn Hydref, 1874; ac oddiar ei ddyfodiad nid oes yr un gadair yn yr ysgol flodeuog hon wedi bod mor luosog ei hefrydwyr a'r Gadair Gerddorol. Ar ei ymadawiad, cafwyd presentation meetincj iddo gan brif Gymry Llundain, anrhegwycl ef a Mrs Parry â wcdch a chadwyn aur, a d.iamond ring i Mrs Parry, yn nghyd a,farewell address. Diwedd y flwyddyn ddiweddaf, aeth i Cambridge i sefyll arhol- iad am y gradd o Doctor of Music, a'i ddisgybl, Mr. D. Jenkins, Trecastell, gydag ef i sefyll arholiad am Mus. Bac.; ac er eu hanrhydedd, bu y ddau yn llwyddiannus. Tair blynedd ar ddeg i'r diwrnod y gadawodd y felin rolio y derbyniodd y gradd uchel hwn yn un o brif ysgolion y byd— gradd, fel y dywedwyd, nas gwyddom am un Cymro wedi ei gyrhaedd o'r blaen. Nid oedd ond pedair blynedd er pan adawodd Mr. Jenkins ei alwedigaeth i efrydu cerddoriaeth, ac y mae yntau wedi gwneyd cynnj dd sydd yn glod iddo ef a'i athraw. Mae gweithgarwch, bywiogrwydd, a chyflymdra yn perthyn i bob gallu a theimlad yn meddwl Dr. Parry, yn gystal ag i bob cymal a gewyn o'i gorph. Nid oes ganddo yr un syniad am ddiogi; ac nis gŵyr nemawr am flinder a lludded. Mae wrthi fel cloc, yn ddiorphwys, naill ai yn canu neu eglurodirgeledigaethau y gerdd i'w ddisgyblion, neu â'i fysedd yn dawnsio ar yr offeryn, neu yn troi dail ìlyfrau yr hen feistri, neu gyda'i ysgrifell yn pardduo dail gwynion gydag inc fel pe cerddai traed inciog brain drostynt. Mae ei athrylith yn nodedig o gynnyrchiol. Gwyddom ei fod eisoes wedi cyfansoddi dros gant o ganeuon (songs); llawn tri ugain o anthemau a chydganau ; hanner cant o donau cynnulleidfaol ; nifer mawr o quartetts, trios, duetts, glees, a darnau at wasan- aeth yr organ ac at wasanaeth offer tannau ; pedair o overtures for full orchestra, tair o sonatasVr jjiano, ac un Grancl Symphony for full Orchestra; pump cantata, ac un opera Gymreig. Mae uncyfansoddiad gorchestol arall, " Jerusalem," ganddo, yr hwn sydd i gael ei berfformio yn Cambridge gan gôr Cymreig yn cynnrych- ioli y Dywysogaeth, yn nglyn â defod ei raddiad fel Doctor. Gellir nodi fod ganddo gof digyffelyb, ag sydd yn nodedig o wasanaethgar iddo. Mae yn cyfansoddi yn barhaus—yn ei wely, yn y gornel, ar hyd y ffordd, ac yn y trains ; ac nid oes perygl iddo anghofio yr un frawddeg na nodyn. Nid y w un amser yn dechreu ysgrifenu yr nn dôn na chân nes bydd wedi ei gorphen yn ei feddwl. Ni \y■ i>i byth yn defnyddio copi i ganu na chwareu mewn cyngherddai . mic yn myned â hwy oddicartref. Dywed- wyd wrthym iddo, yuhydig amser yn ol, chwareu ei opera, yr hon a gymerai dair awr i fyned drosti, bob nodyn heb gopi yn ei olwg, a dau neu dri o gerddorion enwog a'r copi ganddynt ar y bwrdd yn dilyn y chwareuwr. Mae hyn bron yn anghredadwy. Dy- wedai wrthym ryw dro nad yw ef yn hawlio un credyd iddo ei hun am hyn, oblegid "nas gall oddiwrtho." Nid yw cofio yn un orchest iddo. Unwaith y daw i'w feddwl yno y bydd, ac nis gall llafur nac amser beri iddo ei anghofio. Dechreuodd arfer ei fiun gyda hyn wrth weithio yn y felin. Wrth ei Avaith o flaen y rolls y cyfansoddai yr oll, ac wedi gorphen cyfansoddi, elai adref wedi gorphen ei waith i'w hysgrifenu. A phwysicach na'r oll, y mae ganddo gymeriad difrycheulyd. Sugnodd " laeth y gair" yn faban gyda llaeth ei fam; ac y mae yr addysg grefyddoí a dderbyniodd gan ei fam, ac sydd yn cael ei dwyseiddio fyth gan ei gweddíau, mor annileadwy ar ei feddwl a'i gyfansoddiadau. Aberystwyth. Thomas Lkvi. HYNODRWYDD DYDD SADWRN YN HANES PRYDAIN. AE'N ffaith hynod yn hanes Prydain Fawr fod cynifer o'i theulu brenhinol wedi marw bron yn nesaf i nesaf ar ddydd Sadwrn. Ymddengysfel pebuasai Chwyldroad 1688 wedi agor y drws i hynodrwydd y diwrnod hwn yn nglyn âg j'-madaw- iad brenhinoedd, gan mai ar ddydd Sadwrn, Chwefror 16eg, 1688, y cyhoeddwyrl fod gorsedd Prydain heb deyrn. Ar ol hyny cym- erodd y marwolaethau canlynol le :—William III., ar ddydd Sadwrn, Mawrth 8fed, 1702 ; y Freiíbines Anne, ar ddydd Sad- wrn, Awst laf, 1714 ; Sior L, ychydig wedi deuddeg o'r gloch nos Sadwrn, Mehefin lOfed, 1727 ; Sior II., ar ddydd Sadwrn, Hydref 25ain. 1760 ; Sior III., ar ddydd Sadwm, ìonawr 19eg, 1820 ; Sior IV., ar ddydd Sadwrn, Mehetìn 6ed, 1830; a'r lywysog Albert, ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr 14eg, 1861.