Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYHOEDDIAD MISOL Y BOBL RHIF. XXVI. CYFROL III. MAI, 1878. PRIS CEINIOG. DE. JOSBPH PARRY. IfrTOraiAE enw Joseph Parry bellach wedi dyfod yrj un o'r rhai |§m|J| mwyaf adnabyddus i'r genedl Gymreig trwy bob congl o Pm8w, Gymru, yn gystal ag Unol Daleithau America. Maewedi gweithio ei ffordd i fyny trwy yr anfanteision mwyaf, ac wedi enill sefyllfa iddo ei hun nad ydym yn gwybod i'r un Cymro o'r blaen ei chyrhaedd, sef y gradd o Doctor of Music yn Mhrifysgol Cambridge. Ac wrth gyfiwyno ei ddarlun i'n darllenwyr, bydd yn dda gan filoedd, yn ddiau, gael braslun byr o hanes ei fywyd. Henry Bichard, Ysw., A.S. Wedi tyfu i fyny, symudodd i Merthyr, ac ymsefydlodd yn nheulu yr hen weinidog parchus Methusalem Jones, JBethesda, ac oddiyno y priododd â Daniel Parry. Mae Joseph Parry yn ieuangaf ond dau, dybiem, o wyth o blant. Ganwyd ef yn y ty isaf ond un, pen deheuol, o "Dai yr Hen Gapel," Merthyr, Mai 21ain, 1841; felly y mae yn awr yn 37ain mlwydd oed. Cafodd Joseph, fel y rhan fwyaf o ddynion nodedig pob gwlad, fam ragoröl i'w fagu ; dynes gall, grefyddol, ME. JOSEPH PAEEY, MUS. D0C. (PENCEEDD AMERICA). Gobeithiwn hefyd y bydd yn foddion î gynlryrfü a chaîonogi ereill o feibion athrylith allant fod yn awr yn ymdrechu yn nghanol niwl athywyllwch anfanteision. Mab ydyw Joseph Parry i Daniel ac Elisabeth Parfy, gynt o Ferthyr Tydfil. Yr oedd ei dad yn fab i John Parry, ffermwr parchus o sir Benfro. Symudodd Daniel yn ieuanc i Forganwg, a bu yn retiner yn y Gyfarthfa (Merthyr ) am ddeng nilynedd ar hugain cyn ymfudo i America. Yr oedd Elisabeth, mam y cerddor, yn enedigol o'r Graig, yn ymyl Cydweli, sir Gaer- fyrddin—un o deulu Richards o r Graig, ac yn berthynas pell i a'i heiiaid yn llawn cerddoriaeth. Byddai hi yn aml, pan na byddai neb i ddechreu canu yn y cape) yn taro y dôn, ac níd oedd neb fedrai wneyd yn well. Oddiwrthi hi, mae'n debyg, y cafodd y plant eu doniau cerddorol; oblegid y maent oll yn gantorion nodedig—ond daeth Joseph yn deyrn arnynt i gyd. Mae Merthyr yu enwog am fagu cerddorion, a chafodd Joseph Parry ei ddwyn i fyny yn blentyn yn y llecyn mwyaf cerddorol yn y lle. Yr oedd rhês "Tai yr Hen Gapel" yn llawn cantorion, ac yn gorwedd i ymfwynhau yn wastad mewn cwmwl b seiniau cerddorol. Yn yr ymyl y byddai Brass liand y Gyíarthfa yn