Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYHOEDDIAD MISOL Y BOBL RHIF X. CYFROL II. HYDREF, 1877. PR/S CEINIOG. GWILYM ERYRI. ID yn fynych y teimlwyd cymaint o ddyddordeb yn nyfarniad gwobr y gadair ag a wnaed yn Eisteddfod Genedlaetliol Caernaríon, 1877. Yr oedd y testyn prydferth—"leuenctid"—wedi denn ít gystadleuaeth nifer fawr o ymgeiswyr, ac aeth y si allan fod yn eu mysg amryw o oreu- feirdd Cymru. Cadwodd y beirniaid eu cyf- rhagoroL rinach vyn Wedi i Hwfa Mon ddarllen y feirniad- aeth fanwl a galluog,. yn yr hon y rhoddid canmoliaeth moruchel i awdl " Gwyndaf Hen," yr oedd pryder y dorf luosog yn fawr, nes y cyhoeddodd yr arweinydd mai y gŵr ieuanc a ymwthiai ymlaen i dderbyn prif anrhydedd yr Eis- teddfod oedd — Mr, William Roberts, "Gwilym Eryri," Port- madoc. Parodd yr hysbys* iad foddlonrwydd cyff- redinol i'r beirdd, y rhai a adwaenent y buddugwr fel un o aw.enyddion mwyaf gobeithiol ein cenedl. Ond y tnallan i'r cylch llenyddol, ni bu nemawr gadeirfardd erioed yn fwy anad- nabyddus. Gofyn- wyd gan fìloedd ar ddydd y cadeiriad "pwy yw," a "pha beth yw." Amcanaf ateb y cwestiynau hyn, heb anghofio fod y gwrthddrycli yn fyw, ac nad oes neb y buasai gorganmol- iaeth yn fwy poenus iddo na'r bardd gwyl- aidd a diymhongar, Gwilym Ei'yri Ganwyd ef yn Mhorthmadog ar yr 22ain o Fawrth, LS44. Ei rieni oeddynt Cadben David Roberts, o'r Schooner "Sidney" (mab y diweddar Mr. Owen Roberts, Gwernddwyryd, Penmorfa), a Catherine, merch y diweddar Mr. Henry Jones, Llongadeiladydd Porthmadog. Collodd ei dad pan yn bump oed. Pan yn lled ieuanc aeth i Ysgol Frytanaidd Pontynysgalcli, Portlnnadog, ac arosodd yno nes yr oedd yn bedair ar ddeg oed. Aeth o'r ysgol hono i wasanaethu ei daid, Mr. Henry Jones, fel hwyl-wneuthurwr, ac y mae yn aros etto yn yr un gwasanaeth gyda'i ewythr, Mr. William Jones. Y mae iddo wraig a phlanfc, ond nid yw gofalon teuluaidd wedi ei luddias i feithrin y chwaeth at farddoniaeth a amlygid ynddo pan yn blentyn. Bymtheg mlynedd yn ol, byddai yn fynych yn ymgeisydd, ac nid yn anfynych yn fuddugwr, mewn cỳfarfodydd cystadleuol a gynhelid yn Mhorthmadog a'r ardaloedd cylchynol. Ar ol hyny, bu yn ym- gystadlu mewn cyfar- fodydd pwysicach. Enillodd wobrwyon yn Eisteddfodau Ffes- tiniog, Coedpoeth, Wyddgrug, a Bangor. Iddo ef y dyfarnwyd y brif wobr yn Eis- teddfod Gadeiriol Harlech, ac enillodd hefyd Gadair y Gor- dofigion yn Llynlleif- iad yn y flwyddyn 1«75. Nis gellir amheu fod Gwilym Eryri yn "fardd geni," ond i'w lafur, a'i ymroddiad, a'i ddyfal-barhad y rhaid priodoli yn benaf ei lwyddiant, a'i ddyrchafiad i fysg ein prif-feirdd. Y mae yn hysbys i'r rhai a'i hadwaenant oreu iddo er yn fachgen wybod dirgelion y gynghan- edd, a'i fod o hyny hyd yn awr wcdi treulio y rhan fwyaf o'i oriau hamddenol i ddarllen atliyf ansoddi barddoniaeth. Y mae yn hyddysg yn ngweithiau y rhan f wyaf o feirdd Cymru, ac y mae wedi darllen llawer o farddoniaeth y Saeson. Nid oe« (gwilym eryiu), roiiTHMAOoo. ond ychydig o'i oed ran ef wedi cyfansoddi cynifer o Awdlau a Chywyddau. Yr oedd drwyddynt wedi euill iddo ei hun radd dda cyn derbyn yr anrhy- dedd ag sydd yn awr wedi ei ddwyn i sylw y wlad. Nid ydyw hyd yn hyn wedi dangos llawer o hoffder at y mesurau rhyddion; ond y mae yn awdwr rhai marwnadau ag ydynt yn llawn teimlad a thynerwch. Fel Awdlwr y mae yn rhagori. Nia gellir dweyd ei fod yn efelychwr—nid rhaid i un o'i alluoedd ef efelychu neb—und y niue rhai o'i brif gyfansoddiadau yn dwyn i'r