Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYHOEDDIAD MISOL Y BOBL RHIF VII. CYFROL II. GORPHENAF, 1877. PRIS GEINIOG. Y DIWEDDAR BARCH. JOHN ROBERTS (Ieuan Gwyllt). ADGOFION PERSONOL. TRO cyntaf i mi weled Ieuan Gwyllt oedd mewn cyfarfod canu—" ysgol gân "—yn hen gapel Rose Place, Lerpwl, tua chwarter canrif yn ol. Yr oeddwn yn gwybod am dano cyn hyny fel cerddor a llenor, er nad ydoedd ond lled ieuanc. Yr wyf yn cofio mawrygu ei ddull o gael gan y cantorion i ddarllen cerddoriaeth yn gywir a deallus. Yr oedd y dull yn newydd i mi. Efe a alwai y cyweirnod yn 1, a phob nod arall yn ffigiwr yn ol ei agosrwydd at neu ei bellder oddiwrth y cyweirnod. Er esampl, tybier mai C fyddai y cyweirnod, ac mai F fyddai'r nodyn nesaf; ef« a wnai i'r cantorion swnio y C a'i galw 1, a'r F yn 4; ac felly yn mlaen gyda ffigwrau trwy yr holl dôn, yr hyn, i'm tyb i, eedd yn drefn ar- dderchog i ddysgu'r cantorion i ddarllenyn rhwydd, yn gystal a deaíí cynghanedd. Yr oedd y canu cyn- ulleidfaol wedi ymddi- rywio yn fawr yn Ler- pwl, fel lleoedd ereill, cyn i'r Gwyllt ym- roddiigyflawni gwaith diwygiwr. Yr wyf yn dyst o'i weled a'i glyw- ea yn cael ei erlid gan flaenoriaid yr " hen ysgol,"fel yr erlidiwyd pob diwygiwr a fu er- ìoed o'i flaen, ac y mae yn debyg mai dyna a fydd tynged pob diwygiwr a ddaw ar ei ol. Ond yr oedd ynddo ef yr holl el- fenau hanfodol i orch- fygu rhagfarn a chyr- haedd ei nod, ac er iddo gael gwrthwyn- ebiadau lawer yn yr adeg gynarol hòno o'i fywyd cyhoeddus, efe a aeth yn mlaen i orchfygu a chan orch- fygu, nes peri chwyl- droad mawr yn arddull y canu cynnulleidfaol yn gystal ag yn neth- oliad tonau ac emynau mawl. P|Yn mhen enyd cef- ais y fraint o fod yn gydswyddog âg leuan Gwyllt, yn yr un swyddfa, yn ngwas- anaeth yr hybarch Mr. John Lloyd, perchen- og a chyhoeddwr yr ' Amserau,' yn Heol St. Anne, Lerpwl. Efe a ddilynodd y Dr. Rees (Hiraethog) fel golygydd yr ' Amserau,' a minnau a benodwyd yn olygydd papyr ceiniog o'r enw y ' Cronicl Wythnosol,' yn cael ei gyhoeddi gan yr un boneddwr ac yn yr un swyddfa. Byddein, o angenrheidrwydd, yn gorfod ymgynghori â'ngilydd beunydd, darllen yr un newydd- iaduron dyddiol ac wythnosol, a chynncrthwyo'r naillyllaîl ar adegau o brysurdeb. Nis gallaf, y foment hon, roddi gwerth ar yr hyn a ddysgais yn ei gyfeillach, er fy mod yn gallu ymofidio na fuaswn wedi elwa mwy ar ei awgrymiadau doeth, ei farn addfed, a'i ochelgarwc h ystyrbwyll. Yn ystod yr adeg hòno y daethym i gyfarfyddiad gyntaf â Mr. Eleazer Roberts, yr hwn a ysgrifenai lythyrau wythnosol i'r 1 Amserau' dan yr enw Meddyliwr. Yr oedd rhyfel y Crimea yn ei angerddoldeb ar y pryd, a'r holl wlad, oddigerth ychydig bersonau mwy pellweledol a gwrol na'r lluaws, mewn math o dwymyn neu gynddaredd o ddigllonedd yn erbyn. Rwsia ac o blaid Twrci. Taflodd Ieuan Gwyllt a Mr. Eleazer Roberts eu holl alluoedd o blaid caredifdon heddwch, gan ddilyn Cobden, Briglit, a Richard, a chyfodi gwrthglawdd cadarn yn erbyn y gwallgofrwydd cyffredinol a ffynai. Yr wyf yn cyfaddef fy mod i ar y pryd yn mhlith y gwallgofiaid gwTth-Rwsiaidd, ac yn defn- yddio hyny oll o allu ag oedd ynwyf i wrthweithio " Meddyliau Meddyliwr" ac erth- yglau cedyrny Gwyllt. Aethy'CroniclWyth- nosol' yn fwy poblog- aidd na'r ' Amserau/ nid ar gyfrif teilyng- dod llenyddol na ne- wyddiadurol, eithr oblegid y llanw rhyfel- gar oedd Avedi gorîifo'r wladL " Ond faint yw'r cyfnewidiad yn awr sydd yn Nghymru." Cafodd y ddau Mr. Roberts fyw i weled yr ' Amserau' yn ma- rw, ond y lywottrefn a bleidient hwy trwy- ddo, ar draul colli poblogrwydd am enyd, yn dyfod yn oruchaf yn mhlith mwyafrif mawr y boblogaeth. Daethym i gyffyrdd- iad swyddogol âg íeuan Gwyllt drach- efn. Yr oeddwn, gyda chynorthwy y diwedd- ar Mr. Abraham Ma- son, wedi sefydlu ncwyddiadur ceiniog yn Aberdâr, sef y ' Gwladgarwr'—papyr a ddaeth yn fwyaf ei gylchrediad (yn nesaf i'r ' Herald Cymraeg') a fu yn Nghymru eto. Llwyddodd y diwedd- ar wladgarwr awen- yddol, Alaw Goch, i gael Ieuan Gwyllt i Aberdâr i ysgrifenu erthyglau i'r ' Gwlad- garwr.' Yr oedd Mr. Üoberts yn bregethwr erbyn hyn, ac fe fu ei gysylltiadau fel y cyf- ryw, yn gjrstal a dy- lan wad ei en wogrwy dd llenyddol a'i dduwiol- deb amlwg, yn foddion i ledaenu'r ' Gwlad- garwr' mewn cylch- oedd nas gallwiî i eu cyrhaedd ; ond trwom ein dau sefydlasom bapyr ag y mae ei boblogrwydd heb lwyr ddarfod eto. Afraid yw manylu ar ein hymwahaniad golygyddol. Ond nis gallaf yinattal rhag dwyn tystiolaeth yn y fan hon i gyfiawnder a phurdeb cymeriad fy nghymrawd trancedig yn mhob cysylltiad a í'u rhyngwyf âg ef. Gallai dosturio wrth bechadur tra nas galla oddef pechod. Ni fûm erioed yn cydweithio â dyn purach ei fuchedd. Nis gallai neb fod lawer yn ei gyfrinach heb deimlo awydd bod yn well. Dychwelais i i'r Gogledd, ac yn ebrwydd wTedi hyny ymgymerodd Ieuan Gwyllt â bugeiliaeth eglwys Fethodistaidd Cefn-coed-y-Cymer, ger Merthyr Tydfil. Ond byddem yn cydgyfarfod yn fynych ar lwyfanau'r Eisteddfodau ac uchel-wyliaú cerddorol; ac er ein bod wedi methu cytuno la»ver